Asesu a chynllunio therapi corfforol anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu a chynllunio therapi corfforol anifeiliaid.
Mae'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn cyfyngu'r gweithgareddau y gellir eu gwneud gan y rheiny nad ydynt yn llawfeddygon milfeddygol cymwys. Dylai'r holl weithgareddau gael eu gwneud o fewn cyfyngiadau'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol presennol â’r Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad) presennol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon fod wedi cael eu hyfforddi a chadarnhau bod eu hymarfer yn defnyddio data sydd yn gadarn yn wyddonol, safonau a pholisïau trugarog. Mae'n rhaid iddynt weithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio yn y sector gofal anifeiliaid sydd â chyfrifoldeb dros asesu a chynllunio'r ymagwedd hon tuag at therapi anifeiliaid wrth gael atgyfeiriad gan lawfeddyg milfeddygol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio yn unol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol presennol, y Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad) presennol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn gofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- asesu'r ffordd orau o ddarparu anghenion anifeiliaid tra'u bod o dan eich dyletswydd gofal
- asesu'r risg posibl i iechyd a diogelwch yn y maes gwaith hwn
- datblygu cynllun ar gyfer trafod anifeiliad sydd yn cael triniaeth therapi corfforol
- cynnal asesiad gweledol cychwynnol o'r anifail
- dewis dull o drafod a rheoli sydd yn ofynnol ar gyfer yr anifail cysylltiedig er mwyn lleihau'r risg i'r anifail, i chi eich hun a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- asesu gofynion therapi yr anifail mewn perthynas a'u cyflwr ac atgyfeiriad gan lawfeddyg milfeddygol, gan ystyried cyflyrau iechyd sydd eisoes yn bodoli fel diabetes, epilepsi a meddyginiaeth
- gosod nodau tymor byr a hirdymor ar gyfer therapi corfforol anifail
- ffurfio cynllun triniaeth therapi corfforol yn dilyn atgyfeiriad gan lawfeddyg milfeddygol
- cydsyniad gwybodus i drafod a chynnal gweithdrefnau therapi corfforol ar yr anifail gan y perchennog neu'r ceidwad
- egluro a chadarnhau'r driniaeth i gael ei chynnal, amcangyfrif o'r gost â’r dull o dalu
- cytuno ar unrhyw weithredoedd i gael eu gwneud gan y perchennog neu'r ceidwad yn dilyn y therapi corfforol
- sicrhau bod y perchennog/ceidwad yn deall rôl a phwysigrwydd yr atgyfeiriad milfeddygol, â’r cyfathrebu rhwng y practis sydd yn atgyfeirio â’r therapydd neu'r ganolfan adsefydlu
- sefydlu'r cofnodion gofynnol, yn cynnwys yr adroddiadau adborth milfeddygol gofynnol
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- cyfathrebu'n broffesiynol gyda llawfeddygon milfeddygol a gweithwyr proffesiynol a pharabroffesiynol eraill yn ymwneud ag anifeiliaid
- cynllunio, cofnodi a gwerthuso eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol â’r Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad) presennol mewn perthynas â'ch rôl a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau proffesiynol a phwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus i gynnal eich cymhwysedd proffesiynol
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- sut i asesu anghenion anifeiliaid yn eich dyletswydd gofal a sut dylid mynd i'r afael â'r rhain
- pam y mae'n bwysig dilysu cyflwr yr anifail a'i ofynion ar gyfer triniaeth gyda'r llawfeddyg milfeddygol sydd yn atgyfeirio
- y cyflyrau â’r anhwylderau sydd yn ymddangos yn gyffredin ar gyfer therapi corfforol o ran eu hachoseg, arwyddion cyffredin, triniaeth filfeddygol a chymhlethdodau posibl
- yr ystod o ddulliau ar gyfer trafod a rheoli anifeiliaid â’r ffactorau i'w hystyried wrth ddewis y dull
- y ffordd y gall ffactorau gwahanol effeithio ar gynllunio trafod a therapi
- sut i asesu'r risgiau cynhenid i drafod a rheoli mathau gwahanol o anifeiliaid
- anatomeg a ffisioleg y rhywogaeth o anifail yr ydych yn gweithio gydag ef
- effeithiau ffisiolegol a chorfforol y driniaeth therapi ar yr anifail yr ydych yn gweithio gydag ef
- y ffordd y gall y therapi effeithio ar ymddygiad anifeiliaid
- sut i ffurfio cynllun triniaeth ar gyfer anifail, gan ystyried cyflyrau meddygol neu ar ôl llawdriniaeth a sut i weinyddu'r rhain
- sut i asesu addasrwydd yr anifail ar gyfer y cynllun triniaeth a nodi unrhyw wrtharwyddion posibl
- pwysigrwydd cael cydsyniad gwybodus ac esbonio cynllun y driniaeth i'r perchennog neu'r ceidwad
- y paratoadau cyn y driniaeth sydd yn ofynnol cyn therapi corfforol anifeiliaid
- y gweithdrefnau ar ôl triniaeth y mae angen eu cwblhau cyn bod anifail yn cael ei ddychwelyd i'w lety neu at ei berchennog neu geidwad
- yr adweithiau posibl ar ôl triniaeth a sut i gynghori'r perchennog neu'r ceidwad ynghylch sut i adnabod a mynd i'r afael â'r rhain
- y gweithredoedd i'w gwneud ar ôl triniaeth gan y perchennog neu'r ceidwad yn eu hamser eu hunain
- pwysigrwydd asesu'r ymateb i'r driniaeth a phryd i gyfeirio'n ôl at y llawfeddyg milfeddygol
- rôl a phwysigrwydd atgyfeirio milfeddygol a chyfathrebu rhwng y ganolfan therapi, y filfeddygfa sydd yn atgyfeirio a gweithwyr proffesiynol a pharabroffesiynol eraill yn ymwneud ag anifeiliaid
- y ffordd y gallai eich gweithredoedd, gweithredoedd anifeiliaid eraill, neu weithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig a'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo effeithio ar ymddygiad, lles a chynnydd yn ystod y therapi corfforol
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â therapi corfforol anifeiliaid a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol wrth ddarparu therapi corfforol i anifeiliaid a phwysigrwydd diogelwch yswiriant addas
Cwmpas/ystod
Ffactorau a allai effeithio ar gynllunio trafod a therapi:
- oed
- rhywogaeth
- brîd
- natur
- amgylchedd
- profiadau blaenorol
- dylanwad y perchennog
- statws iechyd presennol
- hanes clinigol
- cyffuriau wedi eu rhagnodi a'u heffeithiau
- y rheswm dros atgyfeirio i gael therapi
- presenoldeb a gweithgaredd pobl/anifeiliaid eraill yn yr amgylchedd therapi
- gofynion lles
- y defnydd a fwriedir neu rôl yr anifail
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol yn ymwneud ag anifeiliaid:
- Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
- Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad)
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)