Rheoli canolfan therapi anifeiliaid

URN: LANAnC62
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Lled-broffesiynol,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli canolfan therapi anifeiliaid. Bydd hyn yn cynnwys datblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau a sicrhau cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.

Mae’r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn cyfyngu’r gweithgareddau y gellir eu gwneud gan y rheiny nad ydynt yn llawfeddygon milfeddygol cymwys.  Dylai’r holl weithgareddau gael eu gwneud o fewn cyfyngiadau’r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol â’r Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad) presennol.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon gadarnhau bod eu hymarfer yn defnyddio data sydd yn gadarn yn wyddonol, safonau a pholisïau trugarog a bod eu gwaith o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’u harbenigedd.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio yn y sector gofal anifeiliaid sydd yn gyfrifol am reoli canolfan therapi anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio yn unol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol, y Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad) presennol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol o fewn gofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol

  3. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
  4. datblygu a gweithredu polisïau ar gyfer trafod anifeiliaid wrth reoli canolfan therapi anifeiliaid
  5. datblygu a gweithredu cynllun ar gyfer darparu therapi anifeiliaid gyda nodau a pholisïau wedi eu diffinio'n glir
  6. datblygu, cymhwyso a monitro'r polisïau hylendid a bioddiogelwch ar gyfer y ganolfan therapi i leihau'r risg o haint i anifeiliaid a bodau dynol
  7. gweithredu a rheoli system gofnodi yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  8. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  9. cadarnhau bod yr adnoddau gofynnol, yn cynnwys staffio, ar gael
  10. sicrhau bod gan bawb sydd yn gysylltiedig â darparu therapi anifeiliaid y sgiliau â’r wybodaeth i wneud y gweithgareddau yn ddiogel
  11. rheoli cyfleusterau, cyflenwadau, cyfarpar ac unrhyw adnoddau eraill sydd yn ofynnol ar gyfer therapi corfforol anifeiliaid
  12. datblygu a gweithredu polisïau ar gyfer gwirio, gwasanaethu, cynnal a chadw a gwaredu cyfarpar ac adnoddau
  13. cadarnhau bod y risg i iechyd a diogelwch personél neu anifeiliaid yn cael eu nodi a'u lleihau
  14. amlinellu cynlluniau wrth gefn ar gyfer ymdrin â phroblemau a allai godi e.e. materion iechyd, argyfyngau, anifeiliaid yn dianc, neu fethiant cyfarpar
  15. cynnal perthynas waith broffesiynol gyda chydweithwyr, cleientiaid, milfeddygon llawfeddygol a gweithwyr iechyd a lles anifeiliaid proffesiynol eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol â’r Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad) presennol mewn perthynas â'ch rôl a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. eich cyfrifoldebau proffesiynol a phwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus i gynnal cymhwysedd proffesiynol

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
  5. pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch safle wrth reoli canolfan therapi anifeiliaid a sut i greu gweithdrefnau a phrotocolau
  6. pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd cleientiaid a chleifion a gofynion deddfwriaeth bresennol diogelu data
  7. sut i ddatblygu a rheoli cynllun ar gyfer darparu therapi anifeiliaid gyda nodau a pholisïau wedi eu diffinio'n glir
  8. sut i weithredu a rheoli system gofnodi yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisi sefydliadol
  9. yr adnoddau sydd eu hangen, yn cynnwys staff, i ddarparu therapi corfforol ar gyfer anifeiliaid mewn canolfan therapi anifeiliaid
  10. sut i asesu a lleihau risg i bersonél neu anifeiliaid eraill
  11. y gofynion ar gyfer y cyfleusterau, cyflenwadau, cyfarpar â’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer triniaethau amrywiol adsefydlu anifeiliaid
  12. ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol
  13. rôl cyrff proffesiynol a chymdeithasau perthynol i therapi anifeiliaid
  14. rôl a phwysigrwydd cyfathrebu gyda gweithwyr proffesiynol a pharabroffesiynol eraill yn ymwneud ag anifeiliaid
  15. eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol wrth weithio fel gweithiwr parabroffesiynol iechyd a lles anifeiliaid, a phwysigrwydd diogelwch yswiriant
  16. y cofnodion â’r adroddiadau y mae angen eu cadw mewn perthynas â rheoli canolfan therapi anifeiliaid a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Cwmpas/ystod

Nodau a pholisïau yn cwmpasu:

  1. yr ystod o wasanaethau therapi a ddarperir â’r ffordd y gall y cynllun amrywio yn ôl gwasanaethau a gofynion yr anifeiliaid sydd wedi eu cynnwys a'u perchnogion
  2. rhywogaethau sydd wedi eu cynnwys
  3. y ffordd y mae anghenion iechyd a lles yr anifeiliaid yn cael eu hasesu a'u trin
  4. mynediad a thrafod gan bobl
  5. rhyngweithio gydag anifeiliaid eraill
  6. gofynion diogelwch a diogeledd
  7. trefniadau brys
  8. mynediad at a darpariaeth sylw milfeddygol
  9. deddfwriaeth a gofynion trwyddedu
  10. yswiriant ac atebolrwydd priodol
  11. unrhyw ofynion arbennig neu gyfyngiadau

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
  • Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad)
  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

Gallai cyfarpar ac adnoddau gynnwys:

  • ansawdd a lefelau dŵr
  • defnyddio, storio a gwaredu cemegion
  • gwaredu gwastraff
  • melinau traed a chyfarpar ymarfer corff
  • cyfarpar electrotherapi
  • cyfarpar atal a rheoli e.e. coleri pen, coleri, tenynnau

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC60

Galwedigaethau Perthnasol

Therapïau Anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifeiliaid; adsefydlu; hydrotherapi; therapi