Glanhau’r amgylchedd gwaith sy’n ymwneud ag anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â glanhau'r amgylchedd gwaith sy'n ymwneud ag anifeiliaid. Mae glanhau'r gweithle yn ffactor allweddol yn cynnal iechyd a diogelwch yr anifeiliaid â'r rheiny sydd yn gysylltiedig â glanhau'r amgylchedd gwaith yn ymwneud ag anifeiliaid, neu wedi eu heffeithio ganddo. Mae'n rhaid eich bod yn gallu adnabod ac ymdrin â pheryglon gwirioneddol a phosibl. Mae glendid ac ymddangosiad y gweithle hefyd yn ffactor allweddol o ran delwedd y sefydliad i gwsmeriaid a chwsmeriaid posibl.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn glanhau'r gweithle â'r deunyddiau a ddefnyddir yn ystod gwaith arferol, yn rheolaidd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau eich gweithle
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisi sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
- dewis, gwisgo a chynnal dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- dewis a defnyddio cyfarpar a deunyddiau glanhau addas, yn unol â chanllawiau'r cynhyrchwyr
- gwanhau deunyddiau glanhau yn gywir ar y tymheredd gofynnol a'u defnyddio yn unol â chanllawiau'r cynhyrchwyr
- glanhau'r amgylchedd gwaith yn ymwneud ag anifeiliaid yn unol â'r manylebau gofynnol ac ar adeg fydd yn amharu cyn lleied â phosibl, y cytunwyd arni gan y rheiny sydd yn gysylltiedig
sterileiddio'r amgylchedd gwaith yn ymwneud ag anifeiliaid, lle bo angen
cynnal iechyd, lles, diogelwch a diogeledd anifeiliaid yn ystod y gweithgaredd glanhau
- gadael yr amgylchedd gwaith yn ymwneud ag anifeiliaid yn amlwg yn lân ac yn y cyflwr gofynnol ar gyfer gwneud gwaith yn ymwneud ag anifeiliaid
- dychwelyd cyfarpar a deunyddiau glanhau mewn cyflwr gweithredol da i'r ardal storio ar ôl eu defnyddio
- trin, defnyddio a storio sylweddau a allai fod yn beryglus yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchwyr a pholisi sefydliadol
- didoli a thrin gwastraff nad yw'n beryglus yn ddiogel ac yn gywir yn unol â gofynion eich sefydliad â'r ddeddfwriaeth berthnasol
bod yn ymwybodol pan fydd problemau'n codi wrth lanhau a chymryd y camau gofynnol.
cadw'r cofnodion sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cwblhau gweithgareddau yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r gweithle
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- y deunyddiau â’r cyfarpar y dylid eu defnyddio ar gyfer glanhau'r amgylchedd gwaith yn ymwneud ag anifeiliaid
- y dillad â’r cyfarpar diogelu personol (PPE) y dylid eu gwisgo wrth lanhau'r amgylchedd gwaith yn ymwneud ag anifeiliaid
- y risg cysylltiedig wrth ddefnyddio a storio deunyddiau a chyfarpar glanhau, a sut gellir lleihau'r risg yma
y deunyddiau glanhau perthnasol i'w defnyddio ar gyfer rhywogaethau gwahanol o anifeiliaid, defnyddiau, wynebau a chyfarpar penodol
gwanhad gofynnol deunyddiau glanhau ac effeithiau posibl peidio â dilyn canllawiau'r cynhyrchwyr
- sut i gynnal iechyd, lles, diogelwch a diogeledd yr anifeiliaid wrth lanhau amgylcheddau gwaith yn ymwneud ag anifeiliaid a pham y mae hyn yn bwysig
- sut i amharu cyn lleied â phosibl ar staff eraill ac anifeiliaid wrth lanhau amgylcheddau gwaith yn ymwneud ag anifeiliaid
- pwysigrwydd glanhau a sterileiddio amgylcheddau gwaith yn ymwneud ag anifeiliaid i gynnal hylendid a bioddiogelwch
sut i ddidoli ac ymdrin â mathau gwahanol o wastraff nad yw'n beryglus
y gofynion arbennig ar gyfer trin, defnyddio a storio sylweddau a allai fod yn beryglus, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a gofynion eich sefydliad
- pam y mae'n bwysig gadael yr amgylchedd gwaith yn ymwneud ag anifeiliaid yn lân ac yn sych
canlyniadau peidio ag adrodd am broblemau a ganfyddir yn ystod gweithgareddau glanhau wrth y person perthnasol.
y cofnodion y mae angen eu cynnal a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle â’r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol