Sefydlu a chynnal acwariwm
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sefydlu a chynnal acwariwm. Gall hyn fod o fewn lleoliad manwerthu, sŵ neu gyfleuster bywyd gwyllt arall, cyfleuster ymchwil, neu at ddibenion addysgiadol er enghraifft.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldebau dros sefydlu a chynnal acwariwm.
Mewn rhai lleoliadau, gall fod angen trwyddedau i sefydlu acwariwm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- cadarnhau bod y polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol â’r gofynion asesu risg wedi eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
- monitro a chadarnhau bod mesurau hylendid a bioddiogelwch wedi eu sefydlu a'u cynnal yn unol a pholisïau sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a glanhau'r offer â’r cyfarpar gofynnol yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a'ch polisïau sefydliadol
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- sefydlu'r acwariwm yn unol â'r diben a fwriadwyd
- cyflwyno sbesimenau i'r acwariwm
- monitro a chynnal yr acwariwm â’r rhwywogaethau ynddo
- adnabod ac ymdrin â chlefydau a phroblemau eraill lle bo angen
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth sefydlu a chynnal acwariwm a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
eich cyfrifoldeb yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- yr offer â’r cyfarpar sydd yn ofynnol ar gyfer sefydlu a chynnal acwaria a sut i'w paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a chadw a'u glanhau, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau sefydliadol
- yr angen am gyfarpar diogelu personol (PPE) wrth ymdrin â chemegau sydd yn gysylltiedig a sefydlu a chynnal a chadw acwariwm ac i osgoi heintio posibl ac anaf oddi wrth y sbesimenau
- pryd a sut i ddefnyddio mathau gwahanol o gyfarpar acwariwm i sefydlu ystod o fiotopau
- y broses â’r ffactorau i'w hystyried wrth sefydlu acwariwm
- y ffactorau i'w hystyried wrth gyflwyno sbesimenau i acwariwm
- sut i adnabod y prif grwpiau o sbesimenau sydd yn gallu cyd-fyw mewn acwariwm
- sut i adnabod cyfuniad o rywogaethau a allai fod yn anghydnaws oherwydd rhyngweithio troffig, ymosodedd tiriogaethol neu ofynion amgylcheddol gwahanol
- sut a phryd i gyflwyno sbesimenau i'r acwariwm
- gofynion biotig ac anfiotig ystod o sbesimenau a sut i ddarparu'r amodau sydd yn ofynnol iddynt ffynnu
- sut i gynnal yr acwariwm am dri mis neu fwy
- symptomau a chanlyniadau clefydau cyffredin yn yr acwariwm â’r ffordd fwyaf addas o ymdrin â phroblemau
y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer gwaredu gwastraff, yn cynnwys dŵr o acwaria
y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â sefydlu a chynnal acwariwm a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Ffactorau i'w hystyried wrth sefydlu acwariwm:
- cyfarpar
- tanc (maint, siâp, deunydd)
- goleuo
- rheoli tymheredd (oeri a gwresogi)
- swbstradau
- y cylch nitrogen
- math o system (systemau caeëdig, lled-ailgylchredeg ac agored)
- hidlo
- cyflwr dŵr (morol a dŵr croyw)
- yr amser sydd yn ofynnol i'r hyn sydd wedi ei osod aeddfedu
- gosodiadau arbenigol
Ffactorau i'w hystyried wrth gyflwyno sbesimenau i acwariwm:
- maint
- dwysedd stoc
- cydnawsedd rhywogaethau
- cwarantîn
- dod o hyd i sbesimenau (yn foesegol, yn gyfreithiol ac yn gynaliadwy)
- planhigion ac algâu
- anifeiliaid asgwrn cefn a di-asgwrn-cefn
- anghenion ymddygiadol y rhywogaethau a sbesimenau unigol
- graddfa amser ar gyfer cyflwyno sbesimenau
Monitro a chynnal acwariwm:
- profi cyflwr dŵr
- cynnal cyflwr dŵr anfiotig
- glanhau'r tanc, hidlwyr a chyfarpar arall
- newidiadau posibl i'r dŵr
Monitro a chynnal rhywogaethau:
- arsylwi ymddygiad a chyflwr sbesimenau
- maeth (yn cynnwys cyfrwng meithrin bwyd byw)
- cyfundrefnau bwydo
- adnabod ac ymdrin â chlefydau a phroblemau eraill, yn cynnwys sylwi ar symptomau clefydau a phroblemau cyffredin
- trin clefydau a phroblemau eraill
- cwarantîn ac ewthanasia
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Rheoliadau a deddfwriaeth – goblygiadau a gofynion y Ddeddf Lles Anifeiliaid, trwyddedau Sŵ, Deddf Wyddonol, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ac unrhyw rai eraill sydd yn berthnasol mewn amgylchiadau penodol.