Darparu gwasanaethau gwarchod anifeiliaid yn eiddo’r perchennog
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaethau gwarchod anifeiliaid yn eiddo'r perchennog, gallai hyn gynnwys cartref y perchennog neu eiddo perchennog yr anifail.
Bydd disgwyl i chi weithio yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau lleol sydd yn ymwneud ag anifeiliaid. Bydd diogeledd eiddo'r perchennog yn gyfrifoldebu allweddol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon gadarnhau bod yr ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn darparu gwasanaethau gwarchod anifeiliaid yng nghartref neu yn eiddo perchennog yr anifail.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- cadarnhau bod y polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol â’r gofynion asesu risg yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisi sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
- cytuno ar drefniadau ar gyfer gwasanaethau gwarchod anifeiliaid gyda'r perchennog
- cytuno ar ofynion penodol yr anifail gyda'r perchennog
- cael a chofnodi gwybodaeth berthnasol am yr anifail cyn gwneud y gwasanaeth gwarchod anifeiliaid
- sicrhau bod cydsyniad ysgrifenedig i ddarparu gwasanaethau gwarchod anifeiliaid yn cael ei roi gan y perchennog a'i gofnodi, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- asesu eich cyfyngiadau eich hun yn darparu gwasanaethau gwarchod anifeiliaid
sicrhau bod adnoddau a chyfarpar ar gyfer y gwasanaethau gwarchod anifeiliaid ar gael ar eiddo'r perchennog
rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd sydd yn cynnal yr ymddygiad gofynnol gan yr anifail ac yn osgoi creu patrymau ymddygiad annymunol
- trafod yr anifail mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
- monitro cyflwr corfforol ac emosiynol yr anifail yn ystod eich arhosiad
- nodi ymddygiad anifeiliaid a allai ddangos problemau lles neu broblemau eraill a chymryd y camau gofynnol
- adnabod arwyddion straen, ofn, ymosodedd, poen, gwrthdaro, osgoi, chwarae, tawelu ac ymlacio yn yr anifeiliaid yr ydych yn gofalu amdanynt
- gwneud yr holl wasanaethau fel y cytunwyd gyda'r perchennog ac adrodd am unrhyw faterion
- adrodd wrth y perchennog os yw ymddygiad yr anifail yn nodi pryderon yn ymwneud â'i addasrwydd ar gyfer gwarchod anifeiliaid a chytuno sut gellir mynd i'r afael â'ch pryderon
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol fel rhywun sydd yn gwarchod anifeiliaid a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol wrth ddarparu gwasanaethau gwarchod anifeiliaid yn eiddo'r perchennog a phwysigrwydd yswiriant addas
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldeb yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a sut gellir cyflawni hyn
pwysigrwydd cytuno ar y trefniadau ac unrhyw ofynion penodol ar gyfer yr anifail gyda'r perchennog
pam y mae'n bwysig cael cydsyniad ysgrifenedig gan y perchennog ar gyfer y gwasanaethau y cytunwyd arnynt
- sut i asesu eich galluoedd a'ch cyfyngiadau i ddarparu gwasanaethau gwarchod anifeiliaid mewn eiddo perchennog
- yr ystod o adnoddau a chyfarpar sydd ar gael ar gyfer yr anifail yn eich gofal a sut i'w defnyddio
- sut i gynnal iechyd a lles anifeiliaid yn ystod eich arhosiad a sicrhau nad yw eich ymddygiad yn achosi adweithiau niweidiol yn yr anifail
- sut i drafod a gwaredu mathau gwahanol o wastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- pwysigrwydd asesu ymddygiad yr anifail a chyflwr yr anifail cyn ac yn ystod eich arhosiad
- sut i adnabod cyflwr ymddygiadol ac emosiynol anifeiliaid yn cynnwys ofn, ymosodedd, tawelu, gorbryder, chwarae ac ymlacio, â’r camau i'w cymryd
- arwyddion cynnar newid mewn ymddygiad sydd yn gysylltiedig â salwch, a dangosyddion anaf neu boen, anesmwythdra, clefydau neu drallod
- pwysigrwydd atgyfeirio i ofal milfeddygol lle bo angen
- pwysigrwydd defnyddio'r technegau trafod perthnasol i leihau'r straen i'r anifail â’r risg i chi eich hun
- effeithiau niweidiol posibl newid rhoddwr gofal ar iechyd a lles yr anifail, sut i adnabod y rhain a gwneud argymhellion ar gyfer addasu'r cyfnodau aros a gynlluniwyd
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â gwasanaethau gwarchod anifeiliaid a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Gallai trefniadau gwarchod anifeiliaid i'w cytuno gyda'r perchennog gynnwys:
anifail/anifeiliaid i dderbyn gofal
amser i'w dreulio yn eiddo'r perchennog
- cyswllt â'r perchennog
- eich llety eich hun
- mynediad a ganiateir i'r tŷ â’r eiddo arall
- darpariaeth bwyd
- defnydd o gyfarpar cartref
- diogeledd yr eiddo (allweddi, larymau ac ati)
cysylltiadau brys
casglu gwastraff ac ailgylchu
- gwasanaethau eraill y cytunwyd arnynt gyda'r perchennog
Gallai gofynion penodol yr anifail gynnwys:
- gofyniad cysgu a gwellt gwely
- gofynion cyfoethogi
- gofynion ysgarthu
- gofynion ymarfer corff
- trafod ac ataliaeth
- cyfarpar i'w defnyddio, yn cynnwys trafod a dillad
- rhyngweithio gyda phobl
- rhyngweithio gydag anifeiliaid eraill
- gofynion cludo
- gofynion deietegol a bwydo
- gofynion meddyginiaeth
- gofynion ysgrafellu
- diogelwch a diogeledd yr anifail
- mynediad at, a darpariaeth, sylw milfeddygol
Gallai eich cyfyngiadau eich hun i ddarparu gwasanaethau gwarchod anifeiliaid gynnwys:
- eich galluoedd a'ch profiad eich hun
- math a gofynion diogeledd eiddo'r perchennog
- nifer â’r math o anifeiliaid
- gofyniad gofal a hwsmonaeth yr anifail perthnasol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Cofnodion:
- taflen adborth ar gyfer y perchennog
- eich cofnodion eich hun