Darparu gwasanaethau cerdded cŵn

URN: LANAnC57
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaethau cerdded cŵn. Mae'n cynnwys cytuno ar wasanaethau gyda'r cwsmer, dewis a defnyddio cyfarpar trafod, rhyngweithio â'r ci, cerdded cŵn yn ddiogel ac yn gyfrifol a chadw cofnodion yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Bydd disgwyl i chi weithio yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau lleol yn ymwneud â chŵn a rhoi ymarfer corff i gŵn. Bydd disgwyl i chi ddatblygu a chynnal y lefelau sgil, gwybodaeth a phrofiad gofynnol i gyflawni gwasanaeth proffesiynol.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn darparu gwasanaethau cerdded cŵn fel rhan o wasanaethau gofal anifeiliaid anwes eraill, yn cynnwys lletya gartref, gwarchod anifeiliaid anwes/yn y cartref, a lletya yn ystod y dydd.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon gadarnhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau presennol, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn darparu gwasanaethau cerdded cŵn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, polisïau lleol a chodau ymarfer cysylltiedig yn ymwneud â cherdded cŵn

  3. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. cael a chofnodi gwybodaeth ddigonol am y ci cyn cynnal gwasanaethau cerdded cŵn
  5. cytuno ar lefel y gwasanaeth a gofynion ymarfer corff y ci gyda'r cwsmer
  6. gwirio bod cydsyniad gwybodus i gynnal gwasanaethau cerdded cŵn wedi ei gael gan y cwsmer a'i gofnodi gan ddilyn y gofynion deddfwriaethol perthnasol
  7. asesu addasrwydd y ci yn erbyn gofynion y cwsmer, cyn ac ar y diwrnod cerdded
  8. asesu addasrwydd cŵn i gael eu cerdded gyda'i gilydd, os yn cerdded mwy nag un ci
  9. asesu addasrwydd y lleoliad cerdded
  10. paratoi'r ci ar gyfer y daith gerdded sydd wedi ei chynllunio
  11. dewis a pharatoi'r adnoddau sydd yn angenrheidiol ar gyfer y daith gerdded sydd wedi ei chynllunio
  12. cludo'r ci yn ddiogel ac mewn ffordd addas, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
  13. os yn berthnasol, dilyn y rhaglen hyfforddiant a thrafod a ddarparwyd a defnyddio'r dulliau â’r adnoddau gofynnol
  14. rhyngweithio gyda'r ci mewn ffordd sydd yn cynnal diogelwch, yn lleihau straen ac yn osgoi ymddygiad anifeiliaid sydd yn achosi pryderon o ran lles
  15. trafod y ci, trwy gydol y daith gerdded, mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid ac yn osgoi achosi pryder yn ymwneud â lles anifeiliaid ac yn cynnal iechyd a diogelwch
  16. monitro cyflwr corfforol ac emosiynol y ci yn ystod y daith gerdded a gweithredu os oes angen
  17. cyfathrebu gyda'r cwsmer os yw ymddygiad y ci yn nodi y gall yr ymarfer corff fod yn anaddas
  18. ymdrin â gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  19. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol fel cerddwr ci ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, polisïau lleol a chodau ymarfer cysylltiedig yn ymwneud â cherdded cŵn

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. pwysigrwydd cynnal asesiad risg fel gweithiwr unigol a chydnabod eich cyfyngiadau
  5. eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol wrth ddarparu gwasanaeth cerdded cŵn a phwysigrwydd yswiriant addas
  6. yr angen am wiriadau datgelu a'u pwysigrwydd
  7. y wybodaeth y dylid ei chael gan y cwsmer cyn cytuno i ddarparu gwasanaethau cerdded cŵn

  8. pwysigrwydd cytuno ar a chofnodi manylion y gwasanaeth y byddwch yn ei ddarparu, â’r gost gyda'r cwsmer

  9. sut i asesu addasrwydd y ci ar gyfer y daith gerdded a gynlluniwyd
  10. sut i asesu addasrwydd cŵn i gael eu cerdded gyda'i gilydd, os yn cerdded mwy nag un ci
  11. sut i asesu addasrwydd yr amgylchedd ar gyfer y daith gerdded sydd wedi ei chynllunio yn cynnwys mynediad at dir
  12. yr ystod o gyfarpar sydd ar gael ar gyfer trin a rhoi ymarfer corff i gŵn a sut i'w osod a'i ddefnyddio
  13. sut i baratoi cŵn ar gyfer ymarfer corff a sut bydd hyn yn gwahaniaethu yn unol â'r ci, yr amgylchedd â’r daith gerdded sydd wedi ei chynllunio

  14. sut i drafod y ci yr ydych yn ei gerdded mewn ffordd nad yw'n peryglu lles y cŵn neu'r anifeiliaid eraill ac yn cynnal iechyd a diogelwch

  15. sut i gynnal lles y ci tra'n cerdded a sicrhau nad yw eich ymddygiad yn achosi adweithiau niweidiol gan y ci
  16. sut i gludo cŵn yn ddiogel ac gadarn i'r lle ymarfer corff ac oddi yno
  17. sut bydd ymarfer corff yn effeithio ar les anifeiliaid
  18. sut i drafod, cludo, storio a gwaredu mathau gwahanol o wastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  19. pwysigrwydd asesu ymddygiad anifeiliaid a'u cyflwr corfforol cyn, yn ystod ac ar ôl yr ymarfer corff a sut i adnabod newidiadau â’r camau i'w cymryd
  20. sut i weinyddu cymorth cyntaf i gŵn a phryd mae angen cael sylw milfeddygol

  21. yr arwyddion sydd yn dangos y gallai ymarfer corff fod yn anaddas ar gyfer yr anifail perthnasol

  22. pam y mae'n bwysig adolygu a thrafod cynnydd yn rheolaidd gyda'r cwsmer
  23. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  24. pwysigrwydd cynnal diogelwch a diogeledd yr eiddo os ydych yn casglu ci o eiddo cwsmer
  25. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â cherdded cŵn a phwysigrwydd cadw'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Cwmpas/ystod

Gallai gwybodaeth am yr anifail gynnwys:

  1. brîd
  2. gofynion trafod ac ymarfer corff
  3. gofynion hyfforddiant â’r dull priodol i'w ddefnyddio
  4. statws iechyd
  5. statws brechu presennol
  6. pwy yw'r llawfeddyg milfeddygol presennol â’r hanes milfeddygol perthnasol

  7. triniaeth a meddyginiaeth bresennol, yn cynnwys proffylacsis

  8. rhyw a statws rhywiol
  9. adnabod yr anifail, e.e. microsglodyn
  10. rhyngweithio gyda chŵn eraill
  11. rhyngweithio gyda phobl
  12. gofynion cludo

  13. trefniadau brys

  14. unrhyw ofynion neu gyfyngiadau arbennig

Ffactorau sydd yn effeithio ar addasrwydd cŵn i gael eu cerdded gyda'i gilydd:

  1. maint
  2. brîd

  3. natur

  4. ymddygiad

  5. gofynion ymarfer corff

Mynediad at dir:

  1. hawliau a chyfrifoldebau mynediad cenedlaethol a lleol
  2. mynediad trwy ganiatâd neu daliad
  3. arferion rheoli tir yn cynnwys pori, coedwigaeth, cynaeafu, chwistrellu
  4. rheoli gofod gwyrdd amwynder
  5. adegau sensitivf ar gyfer bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm
  6. effaith ar ddefnyddwyr eraill e.e cerddwyr, pobl yn marchogaeth, beicwyr
  7. ffermio a gweithgaredd economaidd arall sydd yn digwydd ar y tir

Cludo cŵn yn ddiogel ac yn gadarn gan ystyried:

  1. dull
  2. ataliaeth

  3. gwahanu os yn cludo cŵn lluosog

  4. hylendid a bioddiogelwch
  5. awyru a rheoli gwres

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

Deddfwriaeth gyfredol yn ymwneud â mynediad at dir:

  • Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (Cymru a Lloegr)
  • Deddf Priffyrdd (Cymru a Lloegr)
  • Deddf Cymdogaethau Glân â’r Amgylchedd (Cymru a Lloegr)
  • Deddf Diwygio Tir (Yr Alban)

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC72

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Gofal Anifeiliaid Anwes

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

ci; cerdded; mynediad at dir