Darparu a rheoli llety ar gyfer gwasanaethau lletya anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu a rheoli llety ar gyfer gwasanaethau lletya anifeiliaid. Gallai hyn fod yn eich cartref eich hun neu yn eiddo'r sefydliad ac mae'n cynnwys lletya yn ystod y dydd yn ogystal â lletya dros nos. Mae'n cynnwys y math o lety, hylendid a bioddiogelwch a monitro iechyd a lles anifeiliaid yn y llety.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon gadarnhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau presennol, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.
Bydd disgwyl i chi weithio yn unol â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol a pholisïau yn ymwneud â lletya anifeiliaid.
Ystyrir lletya yn ystod y dydd yn addas ar gyfer cŵn, er bod yn rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i'w haddasrwydd o ran eu lles, hyder, gallu i gymysgu â chŵn eraill a'u hiechyd.
Mae'r safon ar gyfer y rheiny sydd yn darparu gwasanaethau lletya anifeiliaid fel lletya gartref a lletya yn ystod y dydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- cadarnhau bod y polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol â’r gofynion asesu risg yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i gael ei gyflawni
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- asesu sut gellir darparu ar gyfer anghenion anifeiliaid tra'u bod o dan eich dyletswydd gofal
- dewis a pharatoi llety sydd yn addas ar gyfer yr anifail a'i anghenion
- sicrhau bod y llety yn lân ac yn cael ei gadw mewn cyflwr gweithredol da
- sicrhau bod yr amodau amgylcheddol yn y llety wedi cael eu hystyried ac y gellir eu haddasu i gyd-fynd â gofynion yr anifail
- sicrhau bod y llety wedi cael ei labelu gyda manylion sydd yn berthnasol i'r anifail a bod cofnodion yn cael eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- cyfyngu mynediad i'r llety yn unol â gofynion yr anifail a pholisi sefydliadol
- darparu gofal a monitro anifeiliaid yn unol â'u gofynion a chyfarwyddiadau eu perchennog
- rhoi anogaeth a mwythau i anifeiliaid lle y bo'n ymarferol
- rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn caniatáu arsylwi
- hybu lles yr anifail bob amser ac addasu eich ymddygiad eich hun, neu'r rheiny sydd yn gysylltiedig, os oes angen, er mwyn osgoi creu ymddygiad annymunol mewn anifeiliaid
- adnabod ymddygiad anifeiliaid a allai nodi problemau lles neu broblemau eraill a chymryd y camau gofynnol
adnabod pryd y gallai ymddygiad ddangos nad yw'r anifail yn addas ar gyfer lletya
cynnal diogeledd yr anifeiliaid i'w diogelu rhag anaf, dwyn neu ddianc
- ymdrin â gwastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisi sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- cyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig a'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo a chynnal gwaith tîm effeithiol
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol wrth ddarparu gwasanaethau lletya anifeiliaid yn eich eiddo eich hun, a phwysigrwydd diogelwch yswiriant
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- sut i nodi peryglon ac asesu risg yn y gwasanaeth lletya anifeiliaid
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a sut gellir cyflawni hyn
- sut gellir asesu a mynd i'r afael ag anghenion anifeiliaid o fewn eich dyletswydd gofal trwy gynnig mathau a lefelau perthnasol o ofal
- y mathau o lety sydd ar gael sydd yn addas ar gyfer rhywogaethau a bridiau gwahanol a sut i'w dewis a'u paratoi ar gyfer anifeiliaid yn eich gofal, a pha ffactorau y dylid eu hystyried
- yr amodau amgylcheddol perthnasol ar gyfer anifeiliaid gwahanol â’r ffordd y gellir addasu'r amodau
sut i leihau'r risg o drosglwyddo clefydau ac ymosodedd pan fydd anifeiliaid o gartrefi gwahanol ar y safle wrth letya yn eich cartref
sut i ddewis a defnyddio dulliau a deunyddiau glanhau sydd yn addas ar gyfer y llety, yr anifeiliaid a'u gofynion
- y gofynion ar gyfer trin a storio sylweddau a allai fod yn beryglus, yn cynnwys y defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE)
- y weithdrefn sefydliadol ar gyfer unioni unrhyw niwed i lety
- y mathau o wellt gwely y dylid eu darparu i fodloni gofynion anifeiliaid gwahanol
- y gofynion deietegol a bwydo sydd eu hangen gan anifeiliaid gwahanol
- gofynion ysgarthu ar gyfer anifeiliaid gwahanol
- yr hyn a olygir wrth y term "cyfoethogi" a sut gellir ei ddarparu ar gyfer anifeiliaid gwahanol
- sut i gynnal diogelwch a diogeledd adeiladau lletya anifeiliaid a phwy sydd ag awdurdod i gael mynediad iddynt
- sut a phryd y dylid monitro anifeiliaid, â’r ffordd y mae gofynion anifeiliaid yn dylanwadu ar fonitro o'r fath
- yr arwyddion y gallai anifeiliaid fod yn cael problemau â’r camau y dylid eu cymryd
- sut i adnabod ymddygiad yr anifeiliaid yn eich gofal, yn cynnwys ofn, ymosodedd, uchafiaeth, tawelu, gorbryder, chwarae ac ymlacio a phwysigrwydd adnabod arwyddion nad yw'r anifail yn addas ar gyfer lletya
- sut a phryd i ysgogi anifeiliaid â’r ffordd y gallai anifeiliaid gwahanol ymateb
- sut i leihau straen mewn anifeiliaid sydd yn lletya â’r ffordd y gallai gweithredoedd yr rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo, effeithio ar ymddygiad a lles yr anifail
- sut i drin, storio a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisi sefydliadol
- y cofnodion â’r adroddiadau y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cymryd y canlynol i ystyriaeth wrth ddarparu llety ar gyfer anifeiliaid:
- rhywogaethau
- brîd a/neu faint anifail
oed
iechyd
- gofynion bwydo
- hyd yr arhosiad
- anifeiliaid eraill
- gofynion trafod ac ymarfer corff
- natur
- gwellt gwely
- cyfoethogi
- anghenion ysgarthu
- preifatrwydd
- diogelwch
- diogeledd
- anghenion meddygol neu arbennig eraill
cymryd gofynion canlynol anifeiliaid i ystyriaeth wrth ddarparu llety:
- ymddygiad
- dognau bwyd a hylif
- ysgarthu
- rhyngweithio gyda phobl ac anifeiliaid eraill
- ysgrafellu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Amodau amgylcheddol:
- golau
- tymheredd
- lleithder
- awyru
- sŵn
- dirgryniadau
- arogl