Cynllunio, rheoli a gwerthuso darpariaeth gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio, rheoli a gwerthuso darpariaeth gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon gadarnhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau presennol, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd, profiad â’r gofynion deddfwriaethol perthnasol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn darparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes, yn cynnwys cerdded cŵn, lletya gartref, gwarchod anifeiliaid anwes/cartrefi, lletya yn ystod y dydd a gwasanaethau cludo anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- cadarnhau bod y polisïau â’r gofynion asesu risg amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
- datblygu cynllun, gyda nodau a pholisïau wedi eu diffinio'n glir, ar gyfer darparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
- diffinio cynlluniau wrth gefn ar gyfer ymdrin â phroblemau a allai godi wrth ddarparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
- datblygu gweithdrefnau i gefnogi darpariaeth gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
- cadarnhau bod cyfleusterau, cyflenwadau, cyfarpar ac unrhyw adnoddau eraill sydd yn ofynnol ar gael ar gyfer darparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes yn llwyddiannus
- sicrhau bod gan bawb sydd yn gysylltiedig â darparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes y sgiliau â’r wybodaeth sydd yn ofynnol i wneud y gweithgareddau
- cyfrifo goblygiadau cost eich cynllun
- rheoli darpariaeth gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
- monitro a gwerthuso darpariaeth gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes, gweithredu a gwneud newidiadau i'r cynllun lle bo angen
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth gynllunio gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol cysylltiedig
- yr hyn y dylid ei ystyried wrth ddatblygu cynllun rheoli ar gyfer darparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
- ble a phryd i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol
- y broses o sefydlu nodau ac amcanion mesuradwy ar gyfer eich cynllun
- pwysigrwydd datblygu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer darparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
- sut i sefydlu'r gofynion adnoddau ar gyfer darparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes llwyddiannus
- pwysigrwydd cadarnhau bod gan staff y sgiliau â’r wybodaeth sydd yn ofynnol i ddarparu'r gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
- pwysigrwydd asesu effeithiolrwydd cost y cynllun
- y mathau o broblemau a allai godi a sut dylid ystyried y rhain yn y cynllun
- y cyfreithiau perthnasol sydd yn llywodraethu'r defnydd o feddyginiaethau anifeiliaid
- sut i reoli a monitro darpariaeth gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
- pwysigrwydd gwerthuso darpariaeth gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes ac adolygu ac ailedrych ar eich cynllun i gadarnhau ei fod yn parhau i fodloni'r nodau â’r amcanion
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â chynllunio gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Yr hyn y dylid ei ystyried wrth ddatblygu cynllun i gyflwyno gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes:
- yr ystod o wasanaethau gofal anifeiliaid anwes a ddarperir, y ffordd y gall y cynllun amrywio yn ôl gwasanaeth a gofynion anifeiliaid unigol a'u perchnogion
- y rhywogaethau sydd wedi eu cynnwys, â’r brîd, os yw'n berthnasol
- asesiad anghenion y gofynion lles ar gyfer yr anifeiliaid sydd yn derbyn gofal
- gofynion tai a hwsmonaeth
- gofynion deietegol a bwydo
- mynediad a thrafod gan bobl
- rhyngweithio gydag anifeiliaid eraill
- gofynion diogelwch a diogeledd
- gofynion hyfforddiant a dulliau priodol i'w defnyddio
- gofynion ymarfer corff a dulliau priodol i'w defnyddio
- monitro iechyd, sydd yn briodol i'r rhywogaeth
- gofyniad ar gyfer brechlynnau, yn unol â'r rhywogaeth
- adnabod yr anifail, yn cynnwys sganio am ficrosglodyn
- gofynion ar gyfer triniaethau proffylactig
- mynediad at sylw milfeddygol a'i ddarpariaeth
- trefniadau brys
- gofynion cludo
- gofynion deddfwriaethol a thrwyddedu
- yswiriant ac atebolrwydd priodol
- ystyriaethau bioddiogelwch
- rheoli gwastraff
- unrhyw ofynion arbennig neu gyfyngiadau
Problemau a allai godi:
- materion iechyd
- clefydau hysbysadwy
- ynysu
- Argyfyngau
- anifeiliaid yn dianc
- yr angen am ewthanasia
- materion lles anifeiliaid
- materion iechyd a diogelwch bodau dynol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon