Asesu cymhwysedd pobl ac anifeiliaid i weithio gyda’i gilydd

URN: LANAnC54
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys asesu cymhwysedd pobl ac anifeiliaid i weithio gyda'i gilydd fel un. Gallai hyn fod mewn perthynas â nodweddion corfforol, gallu, tymer a photensial.

Ar gyfer y safon hon bydd angen eich bod wedi datblygu eich gwybodaeth, dealltwriaeth a'ch sgiliau mewn perthynas ag asesu a hyfforddi dau gorff i gydweithio.

Dylid gwneud yr holl weithgareddau yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon gael hyfforddiant priodol a sicrhau bod eu hymarfer yn cymhwyso gwybodaeth sydd yn gadarn yn wyddonol, safonau a pholisïau gwaraidd, a'u bod yn gweithio o fewn cyfyngiadau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am asesu cymhwysedd pobl ac anifeiliaid i weithio gyda'i gilydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1 cynnal eich ymddygiad proffesiynol a'ch moesegau eich hun a gweithio o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad eich hun a deddfwriaeth berthnasol

P2 cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth arall sy'n ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig bob amser

P3 gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes

P4 asesu arferion mewn ffordd sydd yn gadarn yn wyddonol er mwyn pennu eu haddasrwydd, effeithiolrwydd a goblygiadau lles

P5 sefydlu diben y cymhwysedd rhwng person unigol a'r anifail

P6 cael gwybodaeth berthnasol am y person a'r anifail i gynorthwyo gydag asesu cymhwysedd

P7 paratoi unrhyw adnoddau sydd eu hangen ar gyfer yr asesiad

P8 trin a rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd waraidd sy'n osgoi creu ymddygiad sy'n peri pryderon lles ac sy'n caniatáu arsylwi ac asesu i gael eu cynnal yn ddiogel

P9 cynnal asesiad sy'n briodol i'r person a'r anifail, a'u diben penodol ar gyfer gweithio gyda'i gilydd

P10 adnabod cryfderau a gwendidau rhyng-gysylltiedig y person a'r anifail o'r asesiad

P11 annog y person a'r anifail i ddatblygu perthynas effeithiol

P12 gwneud asesiad ynghylch eu cymhwysedd

P13 annog y person i gyfrannu at y broses asesu

P14 adrodd canlyniadau'r asesiad i'r person unigol ac eraill sy'n gysylltiedig

P15 cadw cofnodion cywir a diweddar fel bo angen

P16 cael cyngor proffesiynol pan fo angen ac atgyfeirio achosion lle y bo'n briodol

P17 cynllunio, cofnodi, gwerthuso ac adlewyrchu ar eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a gweithio o fewn gofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​G1 eich cyfrifoldebau proffesiynol a moesegol a chyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad a deddfwriaeth berthnasol

G2 eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid, a deddfwriaeth a chodau ymarfer eraill yn ymwneud ag anifeiliaid, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966)

G3 eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes

G4 sut i asesu arferion mewn ffordd sydd yn gadarn yn wyddonol er mwyn pennu eu haddasrwydd, effeithiolrwydd a’u goblygiadau lles

G5 y ffactorau gwahanol i’w hystyried wrth asesu addasrwydd pobl ac anifeiliaid i weithio gyda’i gilydd h.y. nodweddion corfforol, gallu, potensial, tymer a’r ffordd y mae’r rhain yn rhyng-gysylltu rhwng yr unigolyn a’r anifail a diben eu hyfforddi

G6 pwysigrwydd adnabod nodweddion y person a’r anifail yn gywir er mwyn bodloni amcanion y rhaglen hyfforddiant

G7 ffynonellau gwybodaeth a allai alluogi asesiad dilys i gael ei wneud

G8 y dulliau asesu gwahanol y gellir eu defnyddio mewn perthynas â diben yr hyfforddiant

G9 yr adnoddau y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu a’r dulliau cywir o’u defnyddio

G10 sut i gynnal yr asesiad i ddatgelu cryfderau a gwendidau’r anifail a’r person a’u rhyngberthynas

G11 pwysigrwydd defnyddio technegau cyfathrebu priodol

G12 pwysigrwydd datblygu perthynas gadarnhaol rhwng person ac anifail

G13 sut y mae pobl ac anifeiliaid yn dysgu

G14 y ffordd orau o gyfathrebu canlyniadau’r asesiad yn ôl i’r rheiny sy’n gysylltiedig mewn ffordd adeiladol

G15 y cofnodion priodol i’w cadw, pwysigrwydd cyfrinachedd a gofynion y Ddeddf Diogelu Data (1998)

G16 ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a rôl cyrff a chymdeithasau proffesiynol

G17 eich cyfrifoldebau proffesiynol a phwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol

G18 pwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol yn cynnwys indemnedd proffesiynol


Cwmpas/ystod

Addasrwydd y person a'r anifail:

1 nodweddion corfforol

2 gallu

3 potensial

4 tymer


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Deddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966):
Mae'n rhaid gwneud pob math o therapi ategol sydd yn cynnwys gweithredoedd neu ymarfer llawdriniaethau milfeddygol gan lawfeddyg milfeddygol, yn amodol ar unrhyw eithriad yn y Ddeddf. Ar yr un pryd, mae'n ddyletswydd ar lawfeddygon milfeddygol sy'n cynnig therapi ategol i sicrhau eu bod wedi cael hyfforddiant digonol i wneud hynny.

Nid yw trin ymddygiad anifeiliaid wedi ei gyfyngu yn unol â Deddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) oni bai ei fod yn cynnwys ymarfer llawdriniaeth filfeddygol.

Nid oes unrhyw orchymyn eithrio penodol ar gyfer ymddygiad anifeiliaid ac felly nid oes unrhyw awdurdodaeth ffurfiol sydd yn pwysleisio cynnwys llawfeddyg milfeddygol cyn bod gwaith yn cael ei wneud ar ymddygiad anifail. Mewn llawer o achosion, fodd bynnag, bydd ymddygiadwyr anifeiliaid yn gweithio ar atygfeiriadau llawfeddygon milfeddygol er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu cyhuddo o roi diagnosis o glefyd neu anaf (sydd wedi ei gyfyngu i lawfeddygon milfeddygol).

Deddfwriaeth bresennol lles anifeiliaid:

Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Yr Alban, Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAC19

Galwedigaethau Perthnasol

Milfeddyg para-broffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

anifeiliaid; hyfforddiant; pobl; gyda’i gilydd