Dylunio, gweithredu a gwerthuso cynllun i fynd i’r afael ag ymddygiad annymunol mewn anifeiliaid

URN: LANAnC53
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Lled-broffesiynol,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dylunio, gweithredu a gwerthuso cynllun i fynd i'r afael ag ymddygiad annymunol mewn anifeiliaid.

Mae'r safon hon yn cynnwys deall sut i atal neu fynd i'r afael ag ymddygiad annymunol mewn anifeiliaid unigol trwy ddatblygu amgylcheddau a chyfundrefnau rheoli addas.  Mae angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a'ch bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon fod wedi cael hyfforddiant addas a chadarnhau bod eu hymarfer yn cynnal safonau a pholisïau trugarog, a'u bod yn gweithio o fewn cyfyngiadau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am ddylunio, gweithredu a gwerthso cynllun i fynd i'r afael ag ymddygiad annymunol mewn anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig

  3. cadarnhau bod gofynion perthnasol polisïau ac asesu risg amgylcheddol ac iechyd a diogelwch yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrfoldeb
  4. asesu sut i ddarparu ar gyfer anghenion lles yr anifeiliaid yr ydych yn ymgysylltu â nhw
  5. trafod a rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, gan osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles, er mwyn galluogi arsylwi ac asesu
  6. casglu gwybodaeth am faterion ymddygiad yr anifail gan ddefnyddio ystod o ddulliau
  7. dehongli gwybodaeth am yr anifail o ffynonellau perthnasol er mwyn pennu addasrwydd yr anifail ar gyfer yr ymyrraeth
  8. asesu effaith ffactorau allanol ar ddatblygiad dilynol ymddygiad annymunol
  9. asesu arferion hwsmonaeth/rheolaeth mewn perthynas ag achos a datblygiad ymddygiad annymunol
  10. nodi a chysylltu â llawfeddygon milfeddygol a gweithwyr anifeiliaid proffesiynol a sefydliadau eraill sydd yn gysylltiedig â gofal yr anifail i ddarparu ymagwedd gyson ac addas tuag at unioni'r ymddygiad annymunol
  11. dylunio a chynllunio mynd i'r afael â'r ymddygiad annymunol
  12. dewis a defnyddio cymhorthion/cyfarpar hyfforddiant addas i helpu i gyflawni'r cynllun yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol lles anifeiliaid
  13. trafod a chytuno ar y cynllun gyda'r perchennog neu'r ceidwad lle y bo'n ofynnol a chael cydsyniad gwybodus
  14. esbonio ac arddangos y defnydd o gymhorthion/cyfarpar hyfforddiant i berchnogion neu geidwaid a chreu canllawiau, lle bo angen, i gadarnhau eu bod yn cael eu defnyddio fel sydd yn ofynnol, a bod lles yr anifail yn cael ei ddiogelu
  15. cadarnhau bod y perchennog neu'r ceidwad yn deall pwysigrwydd eu rôl yn cyflawni a chynnal yr ymddygiad dymunol unwaith y mae wedi ei gyrraedd
  16. dysgu'r sgiliau â’r wybodaeth ofynnol i'r perchennog neu'r ceidwad sydd yn gysylltiedig ag arfer da, lle bo angen, gan ystyried eu galluoedd corfforol a seicolegol
  17. gweithredu a monitro'r cynllun gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i filfeddygon proffesiynol a gweithwyr anifeiliaid proffesiynol eraill, lle bo angen
  18. cofnodi cynnydd yn erbyn y cynllun yn cynnwys iechyd a lles yr anifail
  19. cymhwyso egwyddorion damcaniaeth dysgu anifeiliaid i ddulliau hyfforddiant i gyflawni nodau y cytunwyd arnynt
  20. gwerthuso addasrwydd y cynllun a'i ddiwygio yn unol â hynny
  21. cael cyngor proffesiynol lle bo angen ac atgyfeirio achosion lle bo angen
  22. cynllunio, cofnodi, gwerthuso ac adlewyrchu ar eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a gweithio o fewn gofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol
  23. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth ddylunio, gweithredu a gwerthuso cynllun i fynd i'r afael ag ymddygiad annymunol anifeiliaid, a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad yn ogystal â'r ddeddfwriaeth berthnasol

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid, deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig, a therfynau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. pwysigrwydd diogelwch yswiriant, yn cynnwys indemnedd proffesiynol
  5. y ffordd y gall anghenion lles yr anifeiliaid yr ydych yn ymgysylltu â nhw gael eu hasesu a'u trin
  6. sut i sicrhau bod lles yr anifail yn cael ei gynnal yr holl amser ac nad yw eich ymddygiad chi, neu ymddygiad y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, yn achosi adweithiau niweidiol, ofn neu drallod
  7. sut i adnabod a chysylltu problemau ymddygiadol mewn anifeiliaid

  8. y ffordd y gall problemau ymddygiadol ddeillio o ddarpariaeth (neu diffyg darpariaeth) adnoddau, cyfundrefnau ymarfer corff, sbardun meddyliol neu ffactorau cyfoethogi sydd yn benodol i anghenion ymddygiadol yr anifail

  9. rhagflaenwyr, achosion, dangosyddion a chylch gorbryder/straen yr anifail yr ydych yn gweithio gydag ef
  10. rhagflaenwyr, achosion a dangosyddion y cylch gorbryder/straen mewn bodau dynol
  11. effeithiau a goblygiadau defnyddio technegau argymhellol ar lwyddiant yr hyfforddiant â’r berthynas rhwng y perchennog â’r anifail a sut gallai'r rhain fynd yn groes i ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid
  12. effaith bosibl ffactorau ffisiolegol a phatholegol ar ymddygiad
  13. y terfynau â’r sefyllfa gyfreithiol wrth ddadansoddi ymddygiad a datblygu cynlluniau i fynd i'r afael ag ymddygiad annymunol
  14. egwyddorion damcaniaeth dysgu anifeiliaid fel y maent wedi eu cymhwyso i ddylunio cynllun i fynd i'r afael ag ymddygiad annymunol, ac effeithiau'r ymagweddau hyn ar ymddygiad anifeiliaid
  15. yr ystod o gymhorthion/cyfarpar hyfforddiant sydd ar gael i gynorthwyo hyfforddiant anifeiliaid, yn cynnwys eu gweithredoedd â’r potensial i'w camddefnyddio
  16. sut i ddysgu, ysgogi a chefnogi perchnogion/ceidwaid a thrinwyr i ddatblygu'r sgiliau â’r wybodaeth sydd yn gysylltiedig ag arfer da a chynnal ymddygiad dymunol
  17. pwysigrwydd trafod asesiadau a thriniaeth gyda'r perchennog neu'r ceidwad, a chael cydsyniad gwybodus i barhau
  18. cyfrifoldebau cyfreithiol perchnogion neu geidwaid a chanlyniadau barnwrol y ddeddfwriaeth berthnasol sydd wedi ei dylunio i ddiogelu'r amgylchedd, anifeiliaid eraill a phobl rhag niwed gan anifeiliaid
  19. perthnasedd a phwysigrwydd nodi a chysylltu â gweithwyr milfeddygol proffesiynol a gweithwyr anifeiliaid proffesiynol eraill sydd yn gysylltiedig â gofal yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw
  20. yr ystod o driniaethau a therapïau eraill y gallai perchnogion neu geidwaid eu defnyddio, yn unol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol
  21. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas ag ymdrin ag ymddygiad annymunol mewn anifeiliaid a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  22. eich cyfrifoldebau proffesiynol a phwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol
  23. ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a rôl cyrff a chymdeithasau proffesiynol

Cwmpas/ystod

Gallai dulliau o gasglu gwybodaeth am faterion ymddygiad yr anifail gynnwys:

  1. trafodaeth gyda'r perchennog neu'r ceidwad a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â'r anifail
  2. asesiad gan lawfeddyg milfeddygol
  3. hanes yr achos
  4. hanes meddygol
  5. arsylwi

Gallai gwybodaeth berthnasol am yr anifail gynnwys:

  1. rhywogaeth, brîd a thras
  2. oed a chyfnod datblygiad

  3. hanes bywyd

  4. cyflwr corfforol
  5. iechyd a hanes meddygol
  6. statws hormonaidd
  7. hanes hyfforddiant
  8. natur/nodweddion
  9. hanes meddygol
  10. ysgogiad

Adnabod a chysylltu problemau ymddygiad ag:

  1. ymddygiad sydd yn nodweddiadol o rywogaeth ac etholeg
  2. brîd a nodweddion brîd, yn cynnwys anifeiliaid cymysgryw
  3. tras
  4. cyfnod datblygiad
  5. statws atgenhedlu
  6. cyfnod hormonaidd, os yw'n gyflawn
  7. ysgogwyr ac effeithiau
  8. amgylchedd
  9. cymdeithasoli
  10. cynefino
  11. cyfeiriadau cymdeithasol
  12. hyfforddiant
  13. anghenion ymddygiadol
  14. cyflyrau meddygol
  15. effeithiau meddyginiaeth
  16. ffactorau allanol neu fewnol eraill neu ragflaenwyr

Gallai ffactorau allanol gynnwys:

  1. amgylchedd
  2. gofynion etholegol
  3. profiadau blaenorol

Gallai arferion hwsmonaeth/rheolaeth gynnwys:

  1. cyfoethogi amgylcheddol
  2. rhyngweithio cymdeithasol
  3. gweithgaredd corfforol
  4. rhyngweithio â bodau dynol
  5. deiet
  6. amgylchedd ffisegol (gofod, tymheredd, darpariaeth gwellt gwely, ac ati)
  7. anifeiliaid eraill
  8. gallu i arddangos patrymau ymddygiad arferol
  9. amseriad dechrau ymddygiad
  10. Ffactorau i'w hystyried wrth ddylunio cynllun i fynd i'r afael

Ymddygiad annymunol mewn anifeiliaid:

  1. adnoddau sydd ar gael
  2. gallu'r anifail

  3. amgylchiadau a gallu'r perchennog neu'r ceidwad

  4. cyfyngiadau amser
  5. tebygolrwydd o gydymffurfio

Egwyddorion damcaniaeth dysgu anifeiliaid:

  1. dysgu cysylltiol ac anghysylltiol
  2. materion rheoli sbardun
  3. dylanwad amserlenni atgyfnerthu gwahanol
  4. effeithiau dileu atgyfnerthu a diwedd ymateb
  5. cysyniadau â’r defnydd o ddiwedd, dadsensiteiddio systematig a gwrthgyflyru

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol yn ymwneud ag anifeiliaid:

  • Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC56

Galwedigaethau Perthnasol

Hyfforddiant ac Ymddygiad Cŵn, Hyfforddiant ac Ymddygiad Anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

hyfforddiant; anifail; ymddygiad; adferol; adsefydlu