Cynllunio, rheoli a gwerthuso hylendid a bioddiogelwch wrth weithio gydag anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio, rheoli a gwerthuso hylendid a bioddiogelwch wrth weithio gydag anifeiliaid.
Bydd hyn yn cynnwys cynllunio a gweithredu'r gweithdrefnau â’r protocolau ar gyfer hylendid a bioddiogelwch a'u sefydlu wrth weithio gydag anifeiliaid.
Mae trefniadau hylendid a bioddiogelwch da yn hanfodol ar gyfer gweithredu unrhyw fusnes neu sefydliad yn ymwneud ag anifeiliaid yn llwyddiannus. Dylent fod yn rhan annatod o'r rheolaeth barhaus ac yn ffactorau allweddol wrth hybu iechyd a lles anifeiliaid.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am gynllunio, rheoli a gwerthuso hylendid a bioddiogelwch wrth weithio gydag anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cynllunio, gweithredu a rheoli gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch ar gyfer yr anifeiliaid ar y safle
nodi ac asesu ffynonellau cyngor ac arweiniad am hylendid a bioddiogelwch wrth weithio gydag anifeiliaid
- datblygu polisi ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid i leihau'r risg o glefydau a heintiau
- datblygu, gweithredu a rheoli gweithdrefnau ar gyfer rheoli heintiau
- datblygu, gweithredu a rheoli gofynion penodol ar gyfer rheoli heintiau
- cadarnhau bod holl weithdrefnau a phrotocolau'r safle yn cael eu datblygu yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a chodau ymarfer cysylltiedig
- cadarnhau bod asesiadau risg ar gyfer hylendid a bioddiogelwch y safle yn cael eu gwneud, a chadarnhau bod arferion rheoli yn ceisio lleihau'r posibilrwydd o dorri rheolau hylendid a bioddiogelwch
- cadarnhau bod holl weithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch y safle y cytunwyd arnynt yn cael eu cyfathrebu a'u deall gan bawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, yn cynnwys staff, contractwyr, ymwelwyr a chwsmeriaid
- cadarnhau bod systemau ar gyfer cadw cofnodion yn bodloni'r gofynion cyfreithiol ar gyfer hylendid a bioddiogelwch y safle
- cadarnhau bod yr holl arferion gwaith yn hybu iechyd a diogelwch a'u bod yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chodau ymarfer cysylltiedig
- gwerthuso addasrwydd gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch y safle a'u diweddaru yn unol â hynny
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
yr angen am weithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch ar y safle wrth reoli anifeiliaid, a goblygiadau peidio â chael y rhain
y ffynonellau gwybodaeth a chyngor arbenigol ar hylendid a bioddiogelwch wrth weithio gydag anifeiliaid
- sut i gynllunio gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch ar y safle yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
- y risg posibl o gyswllt a micro-organebau heintus wrth weithio gydag anifeiliaid
- egwyddorion ac achosion heintiau, trawshalogi, trosglwyddo a chytrefu
- ystyr ac arwyddocâd y termau: pathogenig; ddim yn bathogenig; milheintiol; anthropofilheintiol; hysbysadwy; heintus ac ymledol
- y cyngor y dylid ei roi i eraill i leihau'r risg o heintiau gydag anifeiliaid
- yr ystod o gyflyrau iechyd a all fod angen cwarantîn a sut i sefydlu a chynnal amodau cwarantîn
- sut i leihau lledaeniad heintiau neu drawshalogiad
- y dulliau gwahanol o hylendid dwylo a'u defnydd cywir
- y mathau â’r defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE) a gofynion gwisg ar gyfer hylendid a bioddiogelwch safle wrth weithio gydag anifeiliaid
- y mathau o dechnegau diheintio a sterileiddio sydd ar gael a sut i'w defnyddio
- y defnydd o bolisïau sydd yn rheoli mynediad i ardaloedd gwahanol o'r amgylchedd gwaith, yn cynnwys parthau a rhwystrau amddiffynnol
- sut i ddatblygu polisi i leihau'r risg o salwch, heintiau neu glefydau er mwyn rheoli iechyd a lles anifeiliaid
- pam y mae'n bwysig annog adrodd am unrhyw gyflyrau iechyd personol a allai gynyddu'r risg o drosglwyddo haint neu glefyd, yn cynnwys gwrthimiwnedd ac alergeddau
- yr angen i asesu risg ar gyfer hylendid a bioddiogelwch yn gyffredinol a manylion unrhyw safonau penodol
- sut i sicrhau bod yr holl weithdrefnau â’r protocolau hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cyfathrebu a'u gweithedu yn unol â chyfarwyddiadau gweithle a gofynion cyfreithiol perthnasol
- pwysigrwydd sefydlu system ar gyfer cadw cofnodion sydd yn bodloni'r gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer hylendid a bioddiogelwch safle
- pwysigrwydd cadw cofnodion wrth olrhain cyswllt ar gyfer clefydau heintus
- cyfrifoldebau eich sefydliad yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a chodau ymarfer ac, yn arbennig, y gofynion ar gyfer sylweddau a allai fod yn beryglus
- yr awdurdodau allanol perthnasol sydd wedi eu hawdurdodi i archwilio'r safle, a beth fydd yn ofynnol yn yr archwiliad
- pwysigrwydd gwerthuso effeithiolrwydd gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch safle a gwneud newidiadau pan fydd angen
Cwmpas/ystod
Gallai gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch gynnwys:
- bioddiogelwch safle
- gofynion hylendid ar gyfer cyfleusterau, cyfarpar a phersonél
- storio a gwaredu gwastraff
Gallai polisi ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid gynnwys:
gofynion deietegol
gofynion llety
- gofynion monitro iechyd ar gyfer y rhywogaeth
- gofynion ar gyfer triniaethau proffylactig
- sylw milfeddygol
Gallai gweithdrefnau ar gyfer rheoli heintiau gynnwys:
- darparu a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
- y safon hylendid sydd yn ofynnol ar gyfer personél
- darparu a defnyddio dulliau a deunyddiau diheintio neu sterileiddio
- arferion ac amserlenni rheoli heintiau
- arwyddion a labelu mesurau bioddiogelwch
Gallai gofynion penodol ar gyfer rheoli heintiau gynnwys:
- anifeiliaid newydd yn cyrraedd
- ymweld ag anifeiliaid
- symud anifeiliaid
- a oes risg cynyddol o heintio neu drosglwyddo
- amheuaeth o haint neu glefyd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Anifail: defyddir y term hwn i gynnwys pob rhywogaeth; fodd
bynnag, gall rhywogaethau penodol o anifeiliaid fod angen mesurau bioddiogelwch gwahanol.
Amgylchedd gwaith: defnyddir y term hwn i ddisgrifio'r ardaloedd
gwahanol a allai letya anifeiliaid yn barhaol neu dros dro.