Cynnal gweithgareddau ar ôl mewnblannu microsglodion
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â cynnal gweithgareddau ar ôl mewnblannu microsglodion. Mae'n cynnwys rhoi cyngor i berchennog neu geidwad yr anifail, cwblhau cofnodion a chynnal hylendid a bioddiogelwch.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon gadarnhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu deddfwriaeth ac arweiniad presennol, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad. Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod yr anifail wedi ei gofrestru ar y cronfeydd data gofynnol.
Gallai ceidwad yn y safon fod yn ofalwr maeth, cynorthwyydd gofal anifeiliaid mewn canolfan achub, swyddog lles anifeiliaid mewn canolfan achub, gweithwyr proffesiynol o fewn y polisïau, diogeledd ac ati.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn ymwneud â mewnblannu microsglodion o dan groen cŵn, cathod, cwningod a ffuredau yn unig. Dylai'r rheiny sydd yn gwneud y gwaith mewnosod fod yn ymwybodol o'r amgylchiadau y mae microsglodyn yn cael ei ystyried yn weithred llawdriniaeth filfeddygol yn unol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn gysylltiedig â gosod microsglodion mewn anifeiliaid. Nid yw'n drwydded i ymarfer. I gyflawni gweithgareddau ar ôl mewnblannu microsglodyn mae'n rhaid eich bod wedi cwblhau'r hyfforddiant gofynnol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
gweithio yn unol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol a Rheoliadau Microsglodion presennol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
- gwneud eich holl waith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig ac ymarfer sefydliadol
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- hysbysu'r perchennog neu'r ceidwad am unrhyw broblemau posibl ar ôl mewnblannu microsglodyn ac esbonio'r sefyllfaoedd lle dylid cael cyngor milfeddygol
hysbysu'r perchennog neu'r ceidwad am y gofynion ôl-ofal ar ôl mewnblannu
cofrestru'r anifail ar gronfa ddata sydd yn cydymffurfio â DEFRA, lle mae'n berthnasol i'ch rôl
- cadw cofnod o rif y sglodyn a manylion y perchennog neu'r ceidwad at ddibenion ôl-olrhain yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol diogelu data
hysbysu'r perchennog neu'r ceidwad am eu cyfrifoldebau mewn perthynas â chofrestru'r anifail a'i ficrosglodyn â’r angen i ddiweddaru'r manylion
rhoi cofnod o'ch manylion cyswllt i'r perchennog neu'r ceidwad er mwyn iddynt allu cysylltu â chi os oes ganddynt unrhyw ymholiadau
- egluro'r taliad sydd ei angen, lle bo angen, esbonio sut cafodd y swm hwn ei gyfrifo a chytuno sut bydd y taliad yn cael ei wneud
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â gofal yr anifail, yn cynnwys milfeddyg yr anifail, a darparu'r cofnodion perthnasol lle bo angen
- glanhau a storio'r offer â’r cyfarpar gofynnol, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchwyr a pholisi sefydliadol
- ymdrin â gwastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth fewnblannu microsglodion mewn anifeiliaid a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol â’r Rheoliadau Microsglodion presennol mewn perthynas â'ch rôl a therfynau eich awdurdod a mewnblannu microsglodion
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a sut gellir cyflawni hyn
- y problemau posibl ar ôl mewnblannu microsglodyn a phryd dylid cael cyngor milfeddygol
- y cyngor â’r wybodaeth fydd eu hangen i chi eu rhoi i berchennog neu geidwad yr anifail ar ôl mewnblannu
sut i gofrestru'r anifail ar gronfa ddata sydd yn cydymffurfio â DEFRA ar ôl mewnblannu microsglodyn a phwysigrwydd gwneud hyn, os yw'n berthnasol i'ch rôl
y ffioedd ar gyfer gwasanaethau, y ffordd y mae'r rhain yn cael eu cyfrifo, yn cynnwys costau a threthi, â’r rheswm dros bob math o ffi, lle bo angen
- sut i brosesu taliadau, ac unrhyw ffurflenni perthnasol y mae angen eu cwblhau, lle bo angen
- pwysigrwydd hysbysu'r perchennog neu'r ceidwad am eu cyfrifoldebau ar gyfer cwblhau a chynnal y manylion sydd yn cael eu cadw ar y gronfa ddata gofrestru
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â mewnblannu microsglodion a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
- sut i lanhau, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchwyr a pholisïau sefydliadol
- sut i drafod, cludo, storio a gwaredu gwastraff yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisi sefydliadol
- eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol a phwysigrwydd yswiriant addas
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Anifail:
At ddiben y safon hon, mae'r term "anifail" yn cyfeirio at gi, cath, cwningen a ffured.
Gallai deddfwriaith lles anifeiliaid fod fel a ganlyn:
- Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Gallai gofynion ôl-ofal mewnblannu microsglodyn fod fel a ganlyn:
- archwilio'r safle mewnblannu a beth i edrych amdano
- cyngor ynghylch pryd mae'r safle mewnblannu yn ddiogel i'w drafod
- cyngor ynghylch pryd y gall yr anifail wneud ymarfer corff nesaf
- sganio'r microsglodyn ar ôl ei fewnblannu
- adrodd am adweithiau niweidiol ar-lein i VMD
- microsglodion yn symud
- ymddangosiad lwmp neu chwyddo
- methiant i sganio microsglodyn mewn anifail y mae'n hysbys ei fod wedi cael ei fewnblannu