Symud anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â symud anifeiliaid yn ddiogel ac yn briodol o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd. Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gwaith hwn.
Mae'r safon hon yn cynnwys y sgiliau sy'n ofynnol i symud anifeiliaid gwahanol a'u hymgartrefu yn eu lleoliad newydd.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn symud anifeiliaid o dan gyfarwyddyd a gwyliadwraeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
- cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a phawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, a lles yr anifail yn ystod y gwaith
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- gwybod pryd y mae'n addas symud yr anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
- mynd at yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw mewn ffordd sydd yn lleihau straen neu anaf i'r anifeiliaid
ymdrin ac atal anifeiliaid, lle bo angen, gan y ddefnyddio techneg addas yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau ac o dan oruchwyliaeth
symud anifeiliaid gan y ddefnyddio'r cyfarpar gofynnol, yn unol â chyfarwyddiadau ac o dan oruchwyliaeth
- gwybod pryd y gallai ymddygiad yr anifail ddangos na ddylech barhau i symud yr anifeiliaid
- rhyngweithio gyda'r anifeiliaid mewn ffordd sydd yn lleihau straen neu anaf
- cynnal lles a diogeledd yr anifeiliaid bob amser
helpu'r anifeiliaid i ymgartrefu ar ôl symud, yn unol â'r cyfarwyddiadau.
cadw'r cofnodion sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cwblhau'r gweithgaredd, o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd gan y goruchwyliwr
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- eich cyfrifoldeb yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth symud anifeiliaid o un lle i'r llall, a sut i gyflawni hyn
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- sut i fynd at anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw ac ymdrin â nhw mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac anaf i'r anifail
- sut i adnabod ymddygiad arferol ac anarferol yn yr anifeiliaid sydd yn cael eu symud a phryd na fyddai'n briodol i barhau â'r gweithgaredd ac adrodd amdano wrth y goruchwyliwr
- y technegau cywir o drin yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw o dan oruchwyliaeth
- y mathau gwahanol o gyfarpar ar gyfer symud anifeiliaid, sut i ddefnyddio'r cyfarpar yn ddiogel ac yn y ffordd ofynnol o dan oruchwyliaeth
- y mathau o risg sydd yn gysylltiedig wrth symud anifeiliaid a sut gellir lleihau'r risg yma
- cyflymder arferol symudiad yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw
- sut i ymgartrefu anifeiliaid ar ôl eu symud, a pham mae hyn yn bwysig
- sut gall eich gweithredoedd neu weithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd effeithio ar ymddygiad a lles yr anifail
y problemau y dylid adrodd yn eu cylch, pryd ac wrth bwy.
y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth bresennol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Gallai risg gynnwys:
- yr anifail
- pobl eraill
- anifeiliaid eraill
- eich hun
- yr amgylchedd