Mewnblannu microsglodyn mewn anifail

URN: LANAnC49
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Lled-broffesiynol,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â mewnblannu microsglodyn mewn anifail. Mae'n cynnwys paratoi, trafod yr anifail yn ddiogel, mewnblannu microsglodyn a chynnal hylendid a bioddiogelwch.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon gadarnhau bod eu hymarfer yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a chanllawiau presennol, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.

Mae'r safon hon yn ymwneud â mewnblannu microsglodion o dan groen cŵn, cathod, cwnignod a ffuredau yn unig. Dylai'r rheiny sydd yn mewnblannu fod yn ymwybodol o'r amgylchiadau lle mae mewnblannu microsglodyn yn cael ei ystyried yn weithred llawdriniaeth filfeddygol yn unol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn mewnblannu microsglodyn mewn anifail.

Nid yw'r safon hon yn rhoi hawl cyfreithiol i berson fewnblannu microsglodion mewn anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. gweithio yn unol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol â’r Rheoliadau Microsglodion presennol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  3. gwneud yr holl waith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  5. sefydlu mesurau i gynnal hylendid a bioddiogelwch a sicrhau bod y rhain yn cael eu cynnal yr holl amser
  6. dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  7. cadarnhau'r gofynion ar gyfer mewnblannu microsglodyn a sicrhau bod cydsyniad gwybodus i osod microsglodyn yn yr anifail gan y perchennog/ceidwad a'i fod wedi ei gofnodi
  8. cyfeirio at ofynion i gadarnhau addasrwydd yr anifail ar gyfer mewnblannu microsglodyn
  9. cynghori atgyfeirio i lawfeddyg milfeddygol os yw iechyd yr anifail yn codi pryderon am addasrwydd mewnosod microsglodyn
  10. sganio'r anifail i edrych am ficrosglodyn presennol a chymryd y camau gofynnol os oes un yn cael ei ganfod
  11. paratoi'r ardal waith, cyfarpar â’r gwaith papur fel y bo'n ofynnol
  12. sganio'r microsglodyn i gadarnhau ei fod yn gweithio'n gywir a bod rhif y microsglodyn yn cyd-fynd â'r côd bar a chadarnhau microsglodyn ISO FDXB cyn mewnblannu
  13. sicrhau bod yr anifail yn cael ei drafod gan ddefnyddio dull addas i alluogi'r mewnblannu i ddigwydd
  14. nodi'r safle mewnblannu perthnasol ar gyfer y rhywogaeth yr ydych yn gweithio gydag ef
  15. paratoi'r safle mewnblannu yn unol â'r rhywogaeth
  16. mewnblannu'r microsglodyn, yn unol â maint yr anifail, gan gynnal asepsis
  17. sganio'r anifail i gadarnhau bod y microsglodyn yn ei le ac yn gweithio

  18. esbonio'r weithdrefn fewnblannu yr ydych wedi ei chyflawni ar yr anifail wrth y perchennog neu'r ceidwad

  19. glanhau a storio'r offer â’r cyfarpar gofynnol yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchwyr a pholisïau sefydliadol
  20. ymdrin â gwastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol a Rheoliadau Microsglodion mewn perthynas â'ch rôl a mewnblannu microsglodion

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  5. sut i adnabod a dehongli arwyddion cyflyrau iechyd anifeiliaid ac ymddygiad sydd yn gallu dangos na fyddai'n addas parhau gyda'r gweithgaredd neu ei fod yn anaddas mewnblannu microsglodyn yn yr anifail
  6. arwyddion clefydau trosglwyddadwy a risg milheintiol yn yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw
  7. pwysigrwydd cael a chofnodi cydsyniad gwybodus y perchennog/ceidwad a chael hanes o'r anifail yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol
  8. y safle mewnblannu gofynnol ar gyfer y rhywogaeth yr ydych yn gweithio gydag ef a sut i baratoi'r safle mewnblannu gyda diheintydd neu lanhäwr croen addas
  9. anatomeg a ffisioleg anifeiliaid sydd yn berthnasol i'r safle mewnblannu â’r strwythurau sydd yn agos i'r safle mewnblannu
  10. gweithdrefnau a phatrwm sefydliadol i sganio anifail cyn mewnblannu, yn cynnwys edrych am ficrosglodion sydd wedi symud â’r camau i'w cymryd os oes sglodyn presennol yn cael ei leoli
  11. sut i ddewis, paratoi, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar, sydd yn ofynnol ar gyfer mewnblannu microsglodyn, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchwyr a pholisïau sefydliadol
  12. pwysigrwydd sterileiddiwch cyfarpar â’r microsglodyn a sut i gynnal a gwirio'r rhain
  13. pam y mae'n bwysig sganio'r microsglodyn i gadarnhau ei weithrediad a bod rhif y microsglodyn yn cyd-fynd â'r côd bar
  14. sut i drafod ac atal yr anifail i ganiatáu i'r mewnblannu ddigwydd a phryd y gall fod angen cymorth
  15. y dechneg a ddefnyddir i fewnblannu'r microsglodyn, pwysigrwydd cynnal asepsis, a phryd y gall fod angen atal y weithdrefn

  16. y camau i'w cymryd os bydd adwaith niweidiol i'r mewnblannu

  17. sut i sganio'r anifail i gadarnhau bod y microsglodyn yn ei le ac yn gweithio, a pham y mae'n bwysig gwneud hynny
  18. pwysigrwydd mewnblannwr yn cofrestru'r microsglodyn ar gronfa ddata sydd yn cydymffurfio â DEFRA
  19. sut i drafod, cludo, storio a gwaredu mathau gwahanol o wastraff, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisi sefydliadol
  20. pryd dylid cynghori atgyfeirio i lawfeddyg milfeddygol
  21. eich ymddygiad proffesiynol wrth gydweithredu â gweithwyr milfeddygol proffesiynol â’r rheiny mewn awdurdod
  22. eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol a phwysigrwydd yswiriant addas
  23. eich cyfrifoldebau proffesiynol â’r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Anifail
At ddiben y safon hon, mae'r term "anifail" yn cyfeirio at gi, cath, cwningen a ffured – mamaliaid bach sydd angen mewnblaniadau o dan y croen.

Gallai deddfwriaith lles anifeiliaid fod fel a ganlyn:

  • Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

Adweithiau niweidiol posibl:

  • Chwyddo
  • methiant i sganio microsglodyn mewn anifail y mae'n hysbys eu bod wedi cael mewnblaniad
  • safle mewnblannu anghywir (symud)

Arwyddion ymddygiad mewn anifeiliaid:

  • osgoi
  • poen,
  • ymosodedd
  • ofn
  • trallod

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC64

Galwedigaethau Perthnasol

Gosod microsglodion mewn anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

gosod microsglodion; anifeiliaid; cŵn; cathod; cwningod; ffuredau