Sganio anifail i leoli microsglodyn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sganio anifail i leoli microsglodyn. Mae'n cynnwys trafod yr anifail yn ddiogel, defnyddio cyfarpar sganio a gwirio manylion cofrestru os oes sglodyn yn cael ei ganfod.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon gadarnhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu deddfwriaeth a chanllawiau presennol, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn sganio anifeiliaid i leoli presenoldeb microsglodyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, hyfforddiant, cymhwysedd, profiad ac yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol
gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw cyfarpar gan ddilyn y ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi sefydliadol
- arsylwi ac adnabod ymddygiad yr anifail cyn sganio am ficrosglodyn
- trafod ac atal yr anifail mewn ffordd ddiogel a chadarn i ganiatáu sganio
- sganio'r anifail gan ddefnyddio'r weithdrefn berthnasol ar gyfer y math o sganiwr i leoli presenoldeb posibl microsglodyn
- gwirio data ar y gronfa ddata berthnasol neu ddogfennau eraill lle mae microsglodyn wedi ei ganfod
- defnyddio'r system ôl-olrhain i nodi pwy blannodd y sglodyn os nad yw sglodyn wedi ei restru ar gronfa ddata
- gweithredu os na ellir dilysu manylion ar y gronfa ddata
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth sganio anifail i leoli microsglodyn a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldeb yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- sut i ddefnyddio'r sganiwr i sganio anifail, cyfyngiadau'r sganiwr, a sut i'w wirio, ei baratoi a'i gynnal a'i gadw
- y mathau o sganwyr sydd ar y farchnad ar hyn o bryd
- cyfyngiadau amgylcheddol defnyddio sganiwr yn cynnwys y ffactorau allanol sydd yn gallu effeithio ar ddarllen microsglodyn fel coleri metel, neu agosrwydd sgriniau cyfrifiadurol
- y mathau gwahanol o ficrosglodion sydd mewn cylchrediad
- y cronfeydd data gwahanol lle mae manylion yn cael eu cofrestru a sut i'w defnyddio
- sut i adnabod ymddygiad yr anifail yn cynnwys arwyddion osgoi, poen, ymosodedd, ofn a thrallod
- sut i drafod ac atal yr anifail yn ddiogel i alluogi sganio a sut i wybod pryd y gall fod angen cymorth
- y safle gosod cywir ar gyfer y rhywogaeth yr ydych yn gweithio gyda nhw
- anatomeg a ffisioleg yr anifail sydd yn berthnasol i leoliad posibl microsglodion sydd wedi symud
- sut i sganio'r anifail i leoli presenoldeb microsglodyn
- pwysigrwydd gwirio a thrawswirio cywirdeb rhif y microsglodyn
- sut i ddefnyddio'r system ôl-olrhain
- y camau i'w cymryd os bydd microsglodyn dieithr yn cael ei ganfod â’r goblygiadau i'r anifail a chymdeithas pan na ellir dilysu microsglodion dieithr
- y camau i'w cymryd os na ellir dilysu perchennog yr anifail
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai deddfwriaith lles anifeiliaid fod fel a ganlyn:
- Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
- Gosod microsglodion mewn cŵn
- Ci Gwaith – deddfwriaeth tocio cynffonnau
- Ci Peryglus – Eithrio cŵn
- Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes