Gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer unigolion sydd yn gweithio gydag anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer unigolion sydd yn gweithio gydag anifeiliaid.
Ar gyfer y safon hon bydd angen eich bod wedi datblygu eich gwybodaeth, dealltwriaeth a'ch sgiliau mewn perthynas â gweithredu hyfforddiant unigolion ac anifeiliaid i weithio gyda'i gilydd.
Byddwch yn gweithredu rhaglen hyfforddiant sydd eisoes wedi cael ei datblygu a bydd disgwyl i chi adolygu a chofnodi cynnydd yn erbyn yr amcanion a nodir yn y rhaglen hyfforddiant.
Dylai'r holl weithgareddau gael eu gwneud yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon fod wedi cael hyfforddiant addas a chadarnhau bod eu hymarfer yn cydymffurfio â safonau a pholisïau trugarog, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn gyfrifol am weithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer unigolion ac anifeiliaid i weithio gyda'i gilydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisi sefydliadol
- trafod a rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch yn ystod yr hyfforddiant
- asesu addasrwydd yr unigolion â’r anifeiliaid ar gyfer y gweithgareddau hyfforddiant sydd wedi eu cynllunio a gweithredu lle bo angen
- asesu addasrwydd yr amgylchedd hyfforddiant ar gyfer y gweithgareddau hyfforddiant sydd wedi eu cynllunio
- paratoi'r unigolion â’r anifeiliaid ar gyfer y rhaglen hyfforddiant i'w galluogi i weithio gyda'i gilydd
- paratoi'r adnoddau sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gweithgareddau hyfforddiant sydd wedi eu cynllunio
- gweithredu gweithgareddau hyfforddiant gan ddefnyddio dulliau ac adnoddau yn unol â'r rhaglen hyfforddiant
- monitro cyflwr emosiynol ac ymddygiad corfforol yr unigolion â’r anifeiliaid cyn ac yn ystod hyfforddiant
- adnabod arwyddion straen, gwrthdaro ac osgoi yn yr unigolion sydd eisiau gweithio gydag anifeiliaid ac ymateb yn unol â hynny
- adnabod arwyddion straen, ofn, ymosodedd, poen, gwrthdaro ac osgoi yn yr anifail ac ymateb yn unol â hynny
- rhoi adborth i'r unigolion sydd yn dymuno gweithio gydag anifeiliaid a'u cynorthwyo i ddatblygu eu sgiliau
- adolygu, cofnodi ac adrodd yn rheolaidd ar y cynnydd tuag at amcanion yr hyfforddiant, yn unol â'r rhaglen hyfforddiant
- rhoi unrhyw newidiadau i'r rhaglen hyfforddiant y cytunwyd arnynt ar waith i addasu gweithgareddau, dulliau neu adnoddau hyfforddiant
- gwybod a yw'r rhaglen hyfforddiant neu dasg benodol yn debygol o fod yn niweidiol i iechyd a lles yr anifail
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cael cyngor proffesiynol ac atgyfeirio achosion pan fo angen
- cynllunio, cofnodi, gwerthuso ac adlewyrchu ar eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a gweithio o fewn gofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol fel hyfforddwr a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig, a therfynau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd diogelwch yswiriant, yn cynnwys indemnedd proffesiynol
- sut i sicrhau bod lles yr anifail yn cael ei gynnal trwy gydol yr hyfforddiant ac nad yw eich ymddygiad neu ymddygiad yr unigolion sydd yn dymuno gweithio gydag anifeiliaid yn achosi adweithiau negyddol, ofn neu drallod i'r anifeiliaid
- sut i asesu addasrwydd yr unigolion â’r anifeiliaid ar gyfer y gweithgaredd hyfforddiant sydd wedi ei gynllunio, cyn ei weithredu
- sut i asesu addasrwydd yr amgylchedd â’r adnoddau ar gyfer y gweithgareddau hyfforddiant sydd wedi eu cynllunio, cyn eu gweithredu
- amcanion y rhaglen hyfforddiant a sut i fonitro cynnydd
- yr effeithiau seicolegol a ffisiolegol y gallai'r gweithgareddau hyfforddiant eu cael ar yr unigolion â’r anifeiliaid sydd yn dymuno gweithio gyda'i gilydd
- sut i ddewis y dulliau hyfforddiant mwyaf addas ar gyfer y rhaglen hyfforddiant ar gyfer yr unigolion â’r anifeiliaid sydd yn dymuno gweithio gyda'i gilydd
- sut i baratoi'r unigolion â’r anifeiliaid ar gyfer hyfforddiant a sut bydd hyn yn wahanol yn unol â'r rhaglen hyfforddiant
- sut i baratoi a defnyddio'r adnoddau sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gweithgareddau hyfforddiant
- pwysigrwydd adnabod ac asesu ymddygiad a chyflwr yr unigolion â’r anifeiliaid cyn ac yn ystod gweithgareddau hyfforddiant a phryd i weithredu
- sut i roi adborth addas i'r unigolion sydd yn dymuno gweithio gydag anifeiliaid
- sut i drafod yr anifail mewn ffordd sydd yn lleihau straen a risg i chi eich hun a phawb sydd yn gysylltiedig â'r hyfforddiant
- y defnydd o atgyfnerthu cadarnhaol a negyddol â’r effeithiau y mae'r ymagweddau hyn yn eu cael ar ymddygiad anifeiliaid
- sut i gydnabod efallai nad yw gweithgareddau, dulliau neu adnoddau hyfforddi yn addas ar gyfer yr unigolion neu'r anifail â’r camau i'w cymrud
y ffactorau sydd yn dylanwadu ar lwyddiant yr amcanion hyfforddi
sut i adnabod unrhyw effeithiau o'r rhaglen hyfforddiant a allai fod yn niweidiol i iechyd a lles yr anifail
- pam y mae'n rhaid gwneud unrhyw addasiadau i'r rhaglen hyfforddiant gan y person sydd wedi dylunio'r rhaglen a pheidio eu gweithredu heb gymeradwyaeth
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, â’r ffordd orau o wneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â'r rhaglen hyfforddiant a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a rôl cyrff a chymdeithasau proffesiynol
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a phwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol
Cwmpas/ystod
Asesu addasrwydd yr anifail trwy ystyried:
- rhywogaeth
- brîd
- oed
- cydymffurfio
- ffitrwydd corfforol
- sgôr pwysau/cyflwr
- hanes hyfforddiant
- hanes meddygol
Adnoddau:
- personél
- cymhorthion/cyfarpar hyfforddiant
- cymhorthion/cyfarpar trafod
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai deddfwriaith lles anifeiliaid fod fel a ganlyn:
- Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)