Dylunio a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant ar gyfer unigolion sydd yn gweithio gydag anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dylunio a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant ar gyfer unigolion sydd yn gweithio gydag anifeiliaid.
Mae'r safon yn cynnwys dylunio a datblygu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer unigolion sydd yn gweithio gydag anifeiliaid trwy osod amcanion a thargedau. Mae hefyd yn cynnwys gwerthuso'r gwaith o weithredu rhaglen hyfforddiant a chynnydd y person a'r anifail cysylltiedig.
Dylai'r holl weithgareddau gael eu cynnal yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon fod wedi cael hyfforddiant addas a chadarnhau bod eu hymarfer yn cydymffurfio â safonau a pholisïau trugarog, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn dylunio ac yn gwerthuso rhaglenni hyfforddiant ar gyfer unigolion sydd yn gweithio gydag anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- asesu sut i ddarparu ar gyfer anghenion lles yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw
cadarnhau diben a'r canlyniadau a fwriedir ar gyfer yr hyfforddiant gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig
cael a dehongli gwybodaeth am yr anifail o'r ffynonellau perthnasol, gallai hyn fod yn berchennog, ceidwad neu weithwyr milfeddygol proffesiynol
- asesu galluogrwydd a photensial yr unigolion sydd eisiau gweithio gydag anifeiliaid
- asesu anghenion hyfforddiant yr unigolion a'r anifeiliaid a sefydlu amcanion hyfforddiant
- ddylunio rhaglen hyfforddiant sydd yn berthnasol i amcanion gofynnol yr unigolyn sydd eisiau gweithio gydag anifeiliaid
- gwerthuso dylanwadau amgylcheddol a dewis gweithgareddau a dulliau hyfforddi addas i gyflawni'r canlyniad dymunol
- nodi'r adnoddau sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gweithgareddau hyfforddiant
- trafod a chytuno ar y rhaglen hyfforddiant gyda'r unigolion sydd eisiau gweithio gydag anifeiliaid, gan ofalu cadarnhau eu bod yn deall eu rôl yn y canlyniadau a'r targedau a cytunwyd arnynt
- asesu'r canlyniadau lles posibl ar yr anifail o ganlyniad i'r dull hyfforddi a'r cyfarpar a ddewisir, ac unioni unrhyw broblemau
- cael adborth ar gynnydd yr hyfforddiant, yn cynnwys iechyd ac ymddygiad yr anifail ac addasu'r rhaglen hyfforddiant os oes angen
- gwerthuso a chofnodi canlyniad yr hyfforddiant yn erbyn y rhaglen yn rheolaidd, a gweithredu i ddatrys sefyllfaoedd lle canfyddir bod gweithgareddau, dulliau neu adnoddau hyfforddi yn anaddas
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a chael cyngor proffesiynol lle bo angen, gan atgyfeirio achosion lle bo angen
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu rheoli a'u cadw fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- cynllunio, cofnodi, gwerthuso ac adlewyrchu ar eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a gweithio o fewn gofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth ddylunio a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd diogelwch yswiriant, yn cynnwys indemnedd proffesiynol
- y ffordd y gallai anghenion lles yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw gael eu gwerthuso a'u trin
- sut i sicrhau bod lles yr anifail yn cael ei gynnal trwy gydol y rhaglen hyfforddiant a sut i wybod pryd y gallai eich ymddygiad neu ymddygiad y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, achosi adweithiau niweidiol, ofn neu drallod yn yr anifail
- dibenion a fwriadwyd ar gyfer y rhaglen hyfforddiant a sut i nodi amcanion y rhaglen hyfforddiant er mwyn i unigolion allu gweithio gydag anifeiliaid
- sut i gael gwybodaeth am yr anifail a sut gallai'r wybodaeth hon effeithio ar ddyluniad rhaglen hyfforddiant
- ymddygiad arferol, iaith corff a dulliau cyfathrebu yr anifail sydd angen hyfforddiant
- pwysigrwydd asesu'r unigolion sydd eisiau gweithio gydag anifeiliaid a sut i ddewis dulliau asesu addas
- y ffordd y mae unigolion ac anifeiliaid yn dysgu'r ffactorau corfforol, seicolegol ac amgylcheddol sydd yn effeithio ar ddysgu
- sut i ddylunio rhaglen hyfforddiant gyda thargedau hyfforddi realistig ar y cyd â'r unigolion cysylltiedig
- y broses o sefydlu nodau ac amcanion mesuradwy ar gyfer hyfforddi unigolion sydd yn gweithio gydag anifeiliaid
- sut i ddewis gweithgareddau hyfforddi, dulliau ac adnoddau perthnasol ar gyfer yr hyfforddiant, a phwysigrwydd asesu addasrwydd yr unigolion a'r anifeiliaid ac unioni unrhyw faterion
- egwyddorion a chymhwysiad ymarferol damcaniaeth ddysgu
- pwysigrwydd monitro a gwerthuso'r broses hyfforddi a sut i adolygu'r rhaglen hyfforddiant lle bo angen
- sut i wybod pryd gall canlyniadau hyffordddiant ddangos nad yw'r unigolion a/neu'r anifeiliaid yn addas ar gyfer y gweithgaredd neu i weithio gyda'i gilydd
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a'r ffordd orau o wneud hyn
- ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a rôl cyrff a chymdeithasau proffesiynol
y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â dylunio a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
eich cyfrifoldebau proffesiynol a phwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol
Cwmpas/ystod
Gwybodaeth berthnasol am yr anifail:
- hanes bywyd
- galluoedd corfforol
- oed
- iechyd
- deiet
- statws atgenhedlu
- cyfnod hormonaidd
- lefel hyfforddiant bresennol
- natur/nodweddion
- rhywogaethau, brîd a rhieni
- hanes meddygol
- ysgogwyr ysgogiadol ac effeithiau
- amgylchedd – byw, gweithio, hyfforddi/dysgu
- deddfwriaeth
Galluoedd a photensial yr unigolion:
- anghenion corfforol y person
- anghenion dysgu y person
- anghenion seicolegol y person
Adnoddau:
- personél
- cymhorthion/cyfarpar hyfforddiant
cymhorthion/cyfarpar trafod
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai deddfwriaith lles anifeiliaid fod fel a ganlyn:
- Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)