Asesu addasrwydd unigolion ac anifeiliaid i weithio gyda’i gilydd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu addasrwydd unigolion ac anifeiliaid i weithio gyda'i gilydd. Gallai hyn fod mewn perthynas â nodweddion corfforol, galluogrwydd, natur a photensial.
Ar gyfer y safon hon bydd angen eich bod wedi datblygu eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a'ch sgiliau mewn perthynas ag asesu a hyfforddi unigolion ac anifeiliaid i weithio gyda'i gilydd.
Dylid gwneud yr holl weithgareddau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon fod wedi cael hyfforddiant addas a chadarnhau bod eu hymarfer yn cydymffurfio â safonau a pholisïau trugarog, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am asesu addasrwydd unigolion ac anifeiliaid i weithio gyda'i gilydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cynnal eich ymddygiad a'ch moeseg proffesiynol eich hun a gweithio o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd, profiad a deddfwriaeth berthnasol
gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig â pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- sefydlu diben yr unigolion â’r anifeiliaid sydd yn gweithio gyda'i gilydd
- cael y wybodaeth berthnasol am yr unigolion â’r anifeiliaid i gynorthwyo gyda'ch asesiad addasrwydd
- paratoi unrhyw adnoddau sydd yn angenrheidiol ar gyfer yr asesiad
- cynnal asesiad addasrwydd sydd yn addas ar gyfer yr unigolion â’r anifeiliaid, a'u diben penodol ar gyfer gweithio gyda'i gilydd
- cefnogi'r unigolion sydd yn dymuno gweithio gydag anifeiliaid er mwyn iddynt allu cyfrannu at y broses asesu
- nodi cryfderau a gwendidau rhyng-gysylltiedig yr unigolion â’r anifeiliaid o'r asesiad
- adrodd am ganlyniadau'r asesiad wrth yr unigolion sydd eisiau gweithio gydag anifeiliaid a phawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- cael cyngor proffesiynol lle bo angen ac atgyfeirio achosion lle bo angen
- cynllunio, cofnodi, gwerthuso ac adlewyrchu ar eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a gweithio o fewn gofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth asesu addasrwydd unigolion ac anifeiliaid i weithio gyda'i gilydd a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth a chodau ymarfer eraill yn ymwneud ag anifeiliaid, a therfynau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
pwysigrwydd diogelwch yswiriant, yn cynnwys indemnedd proffesiynol
y ffactorau gwahanol i'w hystyried wrth asesu addasrwydd unigolion ac anifeiliaid i weithio gyda'i gilydd a sut mae'r rhain yn rhyng-gysylltu rhwng yr unigolion â’r anifeiliaid a diben eu hyfforddi
- y ffynonellau gwybodaeth a allai alluogi cynnal asesiad addasrwydd
- y dulliau gwahanol o asesu y gellir eu defnyddio wrth asesu diben unigolion ac anifeiliaid yn gweithio gyda'i gilydd
- yr adnoddau y gellir eu defnyddio ar gyfer yr asesiad â’r dulliau o'u defnyddio
- sut i gynnal yr asesiad i ddatgelu cryfderau a gwendidau yr unigolion a'r anifeiliaid a'u rhyng-berthynas
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, â’r ffordd orau o wneud hyn
- y ffordd orau o gyfathrebu canlyniadau'r asesiad i'r unigolion sydd eisiau gweithio gydag anifeiliaid
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a rôl cyrff a chymdeithasau proffesiynol
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a phwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol
Cwmpas/ystod
Mae addasrwydd unigolion ac anifeiliaid yn cynnwys:
- nodweddion corfforol
- galluogrwydd
- potensial
- natur
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)