Gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer anifeiliaid. Gallai hyn naill ai fod yn hyfforddiant sylfaenol neu'n hyfforddiant i fodloni amcanion penodol ac mae wedi ei ddylunio i fod yn berthnasol i bob anifail sydd angen hyfforddiant o'r fath.
Mae hyfforddiant sylfaenol yn cyfeirio at hyfforddiant trafod ac ufudd-dod a byddai'n cynnwys hyfforddi anifeiliaid fel mater o drefn. Byddai hyfforddiant i fodloni amcanion penodol yn cynnwys gwaith sioeau ac arddangos.
Byddwch yn dilyn rhaglen hyfforddiant sydd eisoes wedi cael ei datblygu a bydd disgwyl i chi adolygu a chofnodi cynnydd yn erbyn yr amcanion a nodir yn y rhaglen.
Dylid gwneud yr holl weithgareddau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon fod wedi cael hyfforddiant addas a chadarnhau bod eu hymarfer yn cymhwyso gwybodaeth wyddonol, safonau a pholisïau lles anifeiliaid, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am weithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig â pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
trafod a rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn galluogi hyfforddiant i gael ei wneud yn ddiogel
asesu addasrwydd yr anifail ar gyfer y gweithgareddau hyfforddiant a gynlluniwyd a chymryd camau lle bo angen
- asesu galluoedd y triniwr i gynnal yr hyfforddiant
- paratoi'r anifail â’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y gweithgareddau hyfforddi sydd wedi eu cynllunio
- cynnal gweithgareddau hyfforddiant, gan ddefnyddio dulliau ac adnoddau yn unol â'r rhaglen hyfforddiant
- monitro cyflwr emosiynol a chorfforol yr anifail cyn ac yn ystod yr hyfforddiant
- adnabod arwyddion straen, ofn, ymosodedd, poen, gwrthdaro ac osgoi yn yr anifail ac ymateb yn unol â hynny
- adolygu, cofnodi ac adrodd am gynnydd yr anifail tuag at yr amcanion hyfforddi, yn unol â'r rhaglen hyfforddiant
- gweithredu unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt i'r rhaglen hyfforddiant i addasu gweithgareddau, dulliau ac adnoddau hyfforddiant
- gwybod os yw'r rhaglen hyfforddiant neu dasg benodol yn debygol o fod yn niweidiol i iechyd a lles yr anifail
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cael cyngor proffesiynol lle bo angen ac atgyfeirio achosion lle bo angen
- cynllunio, cofnodi, gwerthuso ac adlewyrchu ar eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a gweithio o fewn gofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol fel hyfforddwr anifeiliaid a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol
- sut i asesu addasrwydd yr anifail ar gyfer y gweithgaredd hyfforddiant sydd wedi ei gynllunio cyn ei weithredu
sut i asesu addasrwydd yr amgylchedd â’r adnoddau ar gyfer y gweithgareddau hyfforddiant sydd wedi eu cynllunio cyn eu gweithredu
sut i asesu galluoedd y triniwr i gynnal yr hyfforddiant
- amcanion y rhaglen hyfforddiant a sut i fonitro cynnydd
- yr effeithiau seicolegol a ffisiolegol y gall y gweithgareddau hyfforddiant eu cael ar yr anifail
yr ystod o ddulliau hyfforddiant a sut i werthuso'r rhain yn seiliedig ar wybodaeth wyddonol, safonau a pholisïau lles anifeiliaid
sut i ddewis y dulliau hyfforddi mwyaf priodol ar gyfer y rhaglen hyfforddiant â’r anifail
- sut i baratoi anifeiliaid ar gyfer hyfforddiant â’r ffordd y bydd hyn yn wahanol yn ôl yr anifail, yr amgylchedd â’r gweithgareddau hyfforddiant i gael eu cynnal
- sut i baratoi a defnyddio'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y gweithgareddau hyfforddiant
- pwysigrwydd adnabod ac asesu ymddygiad a chyflwr anifail cyn ac yn ystod gweithgareddau hyfforddiant a chymryd camau priodol fel y bo angen
- sut i asesu lefelau hyder anifail a sut mae hyn yn gysylltiedig â pherfformiad
- y ffyrdd cywir o drafod yr anifail perthnasol er mwyn diogelwch yr anifail, eich diogelwch chi a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- y defnydd o atgyfnerthu cadarnhaol a negyddol ac effeithiau yr ymagweddau hyn ar ymddygiad anifeiliaid
y ffactorau sydd yn gallu dylanwadu ar y graddau y mae'r anifail yn cyflawni amcanion yr hyfforddiant â’r camau i'w cymryd os nad yw'r gweithgareddau, y dulliau neu'r adnoddau hyfforddi yn effeithiol
sut i adnabod unrhyw effeithiau yn sgil y rhaglen hyfforddiant a allai fod yn niweidiol i iechyd a lles yr anifail
- sut i adnabod terfynau hyfforddiant effeithiol er mwyn cael llwyddiant
- pam y mae'n bwysig adolygu a chofnodi cynnydd yn rheolaidd ac wrth bwy y dylid adrodd am hyn
- pam y mae'n rhaid i'r person sydd wedi dylunio'r rhaglen wneud unrhyw addasiadau i'r rhaglen hyfforddiant, yn hytrach na'u gweithredu heb gadarnhad
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, â’r ffordd orau o wneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â rhaglenni hyfforddiant anifeiliaid a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a phwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol
- ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a rôl cyrff a chymdeithasau proffesiynol
- pwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol, yn cynnwys indemnedd proffesiynol
Cwmpas/ystod
Gallai addasrwydd yr anifail ar gyfer hyfforddiant gynnwys ystyried:
- rhywogaeth
- brîd
- oed
- cydymffurfio
- ffitrwydd corfforol
- sgôr pwysau/cyflwr
- hanes hyfforddiant
- hanes meddygol
Adnoddau:
- personél
- cymhorthion/cyfarpar hyfforddi
cymhorthion/cyfarpar trafod
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)