Dylunio a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant ar gyfer anifeiliaid

URN: LANAnC43
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dylunio a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant ar gyfer anifeiliaid. Gall hyn gynnwys hyfforddi'r anifail i wneud tasgau penodol, neu hyfforddiant mwy cyffredinol.

Mae'r safon yn cynnwys dylunio a datblygu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer anifeiliaid trwy osod amcanion a thargedau, dewis gweithgareddau hyfforddiant perthnasol a sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei wneud yn y ffordd ofynnol. Mae hefyd yn cynnwys gwerthuso'r gwaith o weithredu'r rhaglen hyfforddiant i gadarnhau ei haddasrwydd parhaus.

Dylai'r holl weithgareddau gael eu gwneud yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon fod wedi cael hyfforddiant addas a chadarnhau bod eu hymarfer yn cydymffurfio â safonau a pholisïau trugarog, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am ddylunio a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant ar gyfer anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. gweud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. asesu'r ffordd y gellir darparu anghenion lles yr anifeiliaid yr ydych yn ymgysylltu â nhw
  5. trafod a rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch yn ystod hyfforddiant
  6. cadarnhau diben yr hyfforddiant â’r canlyniad a fwriedir gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
  7. cael a dehongli gwybodaeth am yr anifail o ffynonellau perthnasol
  8. asesu anghenion hyfforddiant yr anifail a sefydlu amcanion hyfforddiant

  9. dylunio rhaglen hyfforddiant ar gyfer yr anifail gyda thargedau realistig ar gyfer ymddygiad dymunol yn seiliedig ar egwyddorion dysgu â’r canlyniadau a fwriedir gyda'r hyfforddiant

  10. ystyried gallu'r triniwr fydd yn cynnal yr hyfforddiant wrth ddylunio'r rhaglen hyfforddiant
  11. gwerthuso dylanwadau amgylcheddol a dewis gweithgareddau a dulliau hyfforddi perthnasol i gyflawni'r canlyniad dymunol
  12. nodi'r adnoddau sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gweithgareddau hyfforddi
  13. asesu'r canlyniadau lles posibl ar yr anifail wrth ddewis y dull hyfforddi â’r adnoddau, ac unioni unrhyw faterion
  14. cael adborth ar iechyd ac ymddygiad yr anifail wrth i'r hyfforddiant ddatblygu
  15. gwerthuso a chofnodi canlyniad yr hyfforddiant yn erbyn y rhagleni hyfforddiant yn rheolaidd, yn cynnwys asesu iechyd ac ymddygiad yr anifail, a gweithredu i ddatrys sefyllfaoedd lle canfyddir bod gweithgareddau, dulliau neu adnoddau hyfforddiant yn amhriodol
  16. addasu'r rhaglen hyfforddiant fel y bo angen i ystyried ymateb yr anifail i'r hyfforddiant hyd yn hyn
  17. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  18. cael cyngor proffesiynol lle bo angen ac atgyfeirio achosion lle bo angen
  19. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  20. cynllunio, cofnodi, gwerthuso ac adlewyrchu ar eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a gweithio o fewn gofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth ddylunio a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant ar gyfer anifeiliaid a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a diogelwch, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. pwysigrwydd cael diogelwch yswiriant, yn cynnwys indemnedd proffesiynol
  5. y ffordd y gellir asesu a mynd i'r afael ag anghenion lles yr anifeiliaid yr ydych yn ymgysylltu â nhw
  6. sut i sicrhau bod lles yr anifail yn cael ei gynnal yr holl amser ac nad yw eich ymddygiad, ac ymddygiad pawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, yn achosi adweithiau niweidiol, ofn neu drallod
  7. y diben a fwriadwyd ar gyfer y rhaglen hyfforddiant a sut i nodi amcanion y rhaglen hyfforddiant ar gyfer yr anifail
  8. sut i gael gwybodaeth am yr anifail â’r ffactorau a allai effeithio ar ddyluniad rhaglen hyfforddi
  9. y ffordd y mae anifeiliaid yn dysgu â’r ffactorau ffisegol, seicolegol ac amgylcheddol sydd yn effeithio ar ddysgu
  10. ymddygiad arferol, iaith y corff a dulliau cyfathrebu yr anifail
  11. pwysigrwydd asesu a yw'r anifail yn barod ar gyfer hyfforddiant a sut i ddewis dulliau asesu sydd yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn ddilys
  12. pwysigrwydd ystyried galluoedd a chyfyngiadau'r person fydd yn cynnal yr hyfforddiant
  13. sut i ddylunio rhaglen hyfforddiant ar gyfer yr anifail gyda thargedau hyfforddi realistig
  14. y broses o sefydlu nodau ac amcanion mesuradwy ar gyfer hyfforddi anifeiliaid
  15. sut i ddewis gweithgareddau ac adnoddau hyfforddi addas ar gyfer hyfforddi'r anifail perthnasol
  16. y ffordd y bydd hyfforddiant yn effeithio ar les anifeiliaid a sut i asesu a dadansoddi a yw er budd yr anifail cysylltiedig
  17. y ffactorau a allai effeithio ar gynnydd a llwyddiant hyfforddiant
  18. egwyddorion a chymhwysiad ymarferol damcaniaeth ddysgu
  19. pwysigrwydd monitro a gwerthuso cynnydd hyfforddiant a sut i adolygu'r rhaglen hyfforddiant lle bo angen
  20. sut i wybod pryd mae canlyniadau hyfforddiant yn dangos efallai nad yw'r hyfforddiant yn addas ar gyfer yr anifail
  21. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
  22. ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a rôl cyrff a chymdeithasau proffesiynol
  23. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â dylunio a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant ar gyfer anifeiliaid a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  24. eich cyfrifoldebau proffesiynol a phwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol

Cwmpas/ystod

Ffactorau a allai effeithio ar ddyluniad rhaglen hyfforddiant:

  1. hanes bywyd
  2. galluoedd corfforol
  3. oed

  4. iechyd

  5. deiet
  6. statws atgenhedlu
  7. lefel hyfforddiant presennol
  8. natur/nodweddion
  9. rhywogaeth, brîd a rhieni
  10. hanes meddygol
  11. ysgogwyr ysgogiadol ac effeithiau
  12. amgylchedd – byw, gweithio, hyfforddi/dysgu
  13. deddfwriaeth

Adnoddau hyfforddi:

  1. personél
  2. cymhorthion/cyfarpar hyfforddi
  3. cymhorthion/cyfarpar trafod
  4. Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
  • Deddf Llawfeddygon Milfeddygol

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

AnC50

Galwedigaethau Perthnasol

Hyfforddiant ac Ymddygiad Cŵn, Hyfforddiant ac Ymddygiad Anifeiliaid, Anifeiliaid mewn Addysg ac Adloniant

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifail; hyfforddiant; ymddygiad; rhaglenni