Darparu a chynnal a chadw llety ar gyfer gwasanaethau lletya anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu a chynnal a chadw llety ar gyfer gwasanaethau lletya anifeiliaid. Gallai hyn fod yn eich cartref eich hun neu mewn eiddo busnes ac mae'n cynnwys lletya yn ystod y dydd yn ogystal â thros nos. Mae'n cynnwys y math o lety, hylendid a bioddiogelwch yn ogystal â chyflwr anifeiliaid yn y llety.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon gadarnhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau presennol, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.
Bydd disgwyl i chi weithio yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau lleol yn ymwneud â lletya anifeiliaid.
Ystyrir lletya yn ystod y dydd yn addas ar gyfer cŵn, er bod yn rhaid ystyried eu haddasrwydd yn ofalus, gan ystyried eu lles, hyder, gallu i gymysgu â chŵn eraill a'u hiechyd.
Nid ystyrir lletya yn y cartref yn addas ar gyfer cathod.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn darparu gwasanaethau lletya anifeiliaid fel lletya yn y cartref a lletya yn ystod y dydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
- asesu sut gellir darparu ar gyfer anghenion anifeiliaid tra'u bod o dan eich dyletswydd gofal
- dewis a pharatoi llety sydd yn addas i'r anifail a'i anghenion
- cadarnhau bod y llety yn lân ac yn cael ei gadw mewn cyflwr da
- cadarnhau bod yr amodau amgylcheddol yn y llety yn addas ac y gellir eu haddasu i gyd-fynd â gofynion yr anifail
- sicrhau bod y llety wedi ei labelu'n gywir gyda manylion yr anifail a bod cofnodion yn cael eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- cyfyngu mynediad i'r llety yn unol â gofynion yr anifail a gweithdrefnau sefydliadol
- darparu'r gofal gofynnol a monitro anifeiliaid yn unol â'u gofynion a chyfarwyddiadau'r perchennog
- rhoi ysgogiad a dangos hoffter tuag at anifeiliaid lle y bo'n bosibl
- rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn galluogi arsylwi i gael ei wneud
- cynnal lles yr anifail bob amser ac addasu eich ymddygiad chi, a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, lle bo angen, i osgoi creu ymddygiad annymunol yn yr anifail
- nodi ymddygiad anifeiliaid a allai ddangos problemau lles neu broblemau eraill a chymryd y camau angenrheidiol
- nodi pryd y gallai ymddygiad ddangos nad yw'r anifail yn addas ar gyfer cael ei letya
- cynnal diogeledd yr anifeiliaid i'w diogelu rhag anaf, rhag cael eu dwyn neu rhag dianc
- ymdrin â gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a chael cyngor proffesiynol lle bo angen
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth ddarparu a chynnal gwasanaethau lletya anifeiliaid a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol wrth ddarparu gwasanaethau lletya anifeiliaid yn eich eiddo eich hun a phwysigrwydd yswiriant addas
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogewlch, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- sut i adnabod peryglon, asesu risg a chwblhau asesiadau risg, lle bo angen, sydd yn berthnasol i'r gweithgaredd
pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- sut gellir asesu a mynd i'r afael ag anghenion anifeiliaid o dan eich dyletswydd gofal
- pa fath o lety sydd yn addas ar gyfer yr anifeiliaid yn eich gofal a sut i ddewis a pharatoi llety â’r ffactorau y dylid eu hystyried
- yr amodau amgylcheddol addas ar gyfer yr anifeiliaid yn eich gofal a sut gellir addasu'r rhain
- sut i ddewis a defnyddio dulliau glanhau a deunyddiau sydd yn addas ar gyfer y llety, yr anifeiliaid a'u gofynion
- y weithdrefn ar gyfer unioni unrhyw niwed i'r llety
- y mathau o sarn y dylid ei ddarparu ar gyfer yr anifeiliaid yn eich gofal
- y gofynion deietegol a bwydo y mae'r anifeiliaid yn eich gofal eu hangen
- gofynion toiled ar gyfer anifeiliaid yn eich gofal
- yr hyn a olygir gan y term "cyfoethogi" a sut gellir ei ddarparu ar gyfer yr anifeiliaid yn eich gofal
- sut i gynnal diogelwch a diogeledd llety'r anifeiliaid a phwy sydd ag awdurdod i fynd i mewn i lety'r anifeiliaid
- sut a phryd y dylid monitro anifeiliaid, â’r ffordd y mae gofynion anifeiliaid yn dylanwadu ar fonitro o'r fath
- y mathau â’r lefelau gofal gwahanol a ddarperir i anifeiliaid mewn llety fel arfer
- yr arwyddion y gallai anifeiliaid fod yn cael problemau â’r camau y dylid eu cymryd
- sut i adnabod ymddygiad a chyflyrau emosiynol anifeiliaid yn cynnwys ofn, ymosodedd, tawelu, gorbryder, chwarae ac ymlacio a phryd y gallai hyn ddangos nad yw'r anifail yn addas ar gyfer ei letya
- y ffordd y gall eich gweithredoedd, neu weithredoedd pawb sydd yn gysylltiedig â lletya anifeiliaid, effeithio ar ymddygiad a lles yr anifail
- sut i leihau straen mewn anifeiliaid sydd yn cael eu lletya
- sut a phryd i ysgogi anifeiliaid a sut gallai anifeiliaid gwahanol ymateb
sut i drin, cludo, storio a gwaredu mathau gwahanol o wastraff yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisïau sefydliadol
y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â lletya anifeiliaid a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Mae'n rhaid i lety sydd yn addas ar gyfer yr anifail a'i anghenion ystyried y ffactorau canlynol:
- rhywogaethau
- brîd a/neu faint yr anifail
- oed
iechyd
gofynion bwydo
- hyd yr arhosiad
- anifeiliaid eraill
- gofynion trafod ac ymarfer corff
- natur
- sarn
- cyfoethogi
- anghenion toiled
- preifatrwydd
- diogelwch
- diogeledd
- anghenion meddygol neu arbennig eraill
Mae gofynion yr anifail yn cynnwys:
- ymddygiad
- faint o fwyd a hylif y mae'n eu cymryd
- anghenion toiled
- rhyngweithio gyda phobl ac anifeiliaid eraill
- ysgrafellu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid 2006
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 2006
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011
Amodau amgylcheddol:
- golau
- tymheredd
- lleithder
- gwyntyllu
- sŵn
- dirgryniadau