Cynllunio a monitro darpariaeth llety anifeiliaid
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio a monitro darpariaeth llety anifeiliaid. Mae’r safon hefyd yn cynnwys y llety dros dro a ddefnyddir i letya anifeiliaid am gyfnod byr.
Bydd angen i chi nodi gofynion llety yr anifeiliaid i gael eu cadw (e.e. y nifer a chymysgedd yr anifeiliaid neu anghenion cymdeithasol anifeiliaid) â’r adnoddau sydd ar gael i fodloni’r anghenion hynny. Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod y llety wedi ei baratoi yn barod i anifeiliaid ei ddefnyddio, bod anifeiliaid yn cael eu cyflwyno i’r llety mewn ffordd addas a bod gweithdrefnau (e.e. gweithdrefnau iechyd a diogelwch, ymdrin â chynlluniau wrth gefn ac arferion glanhau) wedi eu sefydlu ar gyfer cynnal a chadw’r llety.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio a monitro darpariaeth llety anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- dewis a gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch priodol a sicrhau bod y rhain yn cael eu cynnal
- nodi gofynion llety anifeiliaid, gan ystyried yr holl ffactorau sydd yn berthnasol i'r rhywogaeth o anifail a diben eu cadw
- nodi ffactorau eraill sydd yn dylanwadu ar ddarpariaeth llety anifeiliaid
- cynllunio llety anifeiliaid sydd yn bodloni gofynion yr anifeiliaid â’r ffactorau a allai ddylanwadu ar ddarpariaeth llety
asesu'r ffordd y mae anghenion yr anifeiliaid yn cael eu bodloni yn y llety a gynlluniwyd
nodi a chael unrhyw ganiatâd, cydsyniadau neu drwyddedau angenrheidiol ar gyfer darparu llety anifeiliaid
- nodi'r adnoddau sydd eu hangen i fodloni gofynion llety anifeiliaid a sefydlu argaeledd y rhain
- nodi'r hyn sydd ei angen ar gyfer paratoi llety a chyflwyno anifeiliaid
- nodi'r gofynion ar gyfer cynnal a chadw'r llety
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a darparu gwybodaeth i bawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- monitro'r gwaith o baratoi a chynnal a chadw'r llety, ar yr adegau gofynnol, i werthuso ei addasrwydd
- cymryd y camau gofynnol pan fydd monitro yn datgelu problemau neu faterion gyda llety
- cadarnhau bod cofnodion ar gyfer cynllunio a monitro darpariaeth llety anifeiliaid yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth gynllunio a monitro darpariaeth llety anifeiliaid a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
y ffordd y darperir ar gyfer anghenion yr anifeiliaid yng nghynllun y llety
- unrhyw ganiatâd, cydsyniadau neu drwyddedau all fod eu hangen ar gyfer darparu llety, a sut i gael y rhain
- yr amodau amgylcheddol fydd yn angenrheidiol i gynnal iechyd a lles anifeiliaid yn y llety a, lle y bo'n briodol, effaith tywydd cyffredin
- y deunyddiau â’r cyfarpar y mae'r anifeiliaid eu hangen ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant yn eu llety
- y strwythurau cynnwys angenrheidiol ar gyfer anifeiliaid gwahanol â’r ffordd y mae'r rhain yn wahanol o dan do ac yn yr awyr agored
- y peryglon posibl a allai godi mewn perthynas â darparu llety
- yr arferion glanhau a chynnal a chadw sydd yn berthnasol i'r anifeiliaid cysylltiedig â’r llety lle maent yn cael eu cadw
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu a darparu gwybodaeth i bawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- y dulliau ar gyfer monitro'r gwaith o baratoi a chynnal a chadw llety anifeiliaid er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni'r gofynion, â’r ffactorau i'w hystyried
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â chynllunio a monitro darpariaeth llety anifeiliaid a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Ffactorau sydd yn dylanwadu ar ddarpariaeth llety anifeiliaid:
- rhywogaethau o anifeiliaid
- cymysgedd o anifeiliaid – grwpiau cymdeithasol
- lles anifeiliaid
- yr amser y bwriedir aros yn y llety
- deddfwriaeth
cyllideb
gofod sydd ar gael
- adnoddau sydd ar gael
- mynediad at anifeiliaid
- angen i ynysu/cwarantîn
Paratoi llety:
- glân
- diogel
- cadarn
- addas ar gyfer yr anifail
- yn cynnwys y deunyddiau â’r cyfarpar gofynnol
- amodau amgylcheddol addas
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Anghenion anifeiliaid:
- gallu i fynegi ymddygiad naturiol
- deiet a maeth cywir
- cyfoethogi
- ymarfer corff
- diogelwch a diogeledd
Amodau amgylcheddol:
- gwyntyllu
- golau
- strwythur
- tymheredd
- tywydd cyffredin (os yn yr awyr agored)
Mae peryglon posibl llety yn cynnwys:
- y deunydd a ddefnyddiwyd i'w wneud
- y deunyddiau a ddefnyddir ynddo
- unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau a geir ynddo
- peryglon a achosir gan anifeiliaid eraill neu bobl