Datblygu a rheoli’r cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a rheoli cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'n cynnwys datblygu a rheoli cynlluniau i gynnal iechyd a lles anifeiliaid, yn cynnwys arferion â’r adnoddau sydd eu hangen. Bydd rheoli cynlluniau iechyd a lles yn cynnwys gweithredu a gwerthuso.
Bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch hybu iechyd a lles anifeiliaid, yn cynnwys maeth, deiet, llety ac ymarfer corff.
Bydd angen eich bod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a'ch bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio gydag anifeiliaid sydd yn gyfrifol am gynllunio a rheoli'r ymagwedd tuag at iechyd a lles anifeiliaid yn y sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- cadarnhau bod y pholisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol â’r gofynion asesu risg yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
- monitro a chadarnhau bod mesurau hylendid a bioddiogelwch yn cael eu sefydlu a'u cynnal a'u cadw yn unol ag arferion sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
- datblygu cynlluniau iechyd a lles ar gyfer anifeiliaid, gyda pholisïau a gweithdrefnau wedi eu diffinio'n glir
- datblygu cynlluniau wrth gefn ar gyfer ymdrin â phroblemau a allai godi
- sefydlu arferion sydd yn galluogi cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid i gael eu gweithredu
- cadarnhau bod cyfleusterau, cyflenwadau, cyfarpar ac unrhyw adnoddau eraill, yn cynnwys staff, ar gael ar gyfer gweithredu'r cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid
- cyfrifo goblygiadau cost y cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid
- cyfathrebu gofynion y cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid i'r rheiny fydd yn gysylltiedig â'u gweithredu
- nodi'r trefniadau cofnodi ac adrodd ar gyfer y cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid
- sicrhau bod gan bawb sydd yn gysylltiedig â'r gwaith o weithredu'r cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid y sgiliau â’r wybodaeth i gynnal y gweithgareddau
- rheoli'r gwaith o weithredu'r cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid a pharhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gweithredu'r cynlluniau
- cadarnhau bod pawb sydd yn gysylltiedig â gweithredu'r cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid wedi cynnal yr asesiadau iechyd a lles anifeiliaid gofynnol
- monitro a gwerthuso'r gwaith o weithredu'r cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid, gan gymryd y camau gofynnol a gwneud newidiadau i'r cynlluniau lle bo angen
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnaol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol â’r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldeb yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- pwysigrwydd gweithredu'r mesurau hylendid a bioddiogelwch gofynnol â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- yr hyn y dylid ei ystyried wrth ddatblygu cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid
- ble a phryd i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol ar ddatblygiad cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid
- sut i ddatblygu cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid gyda pholisïau a gweithdrefnau wedi eu diffinio
- y mathau o broblemau a allai godi a sut i ystyried y rhain wrth ddatblygu cynlluniau wrth gefn
- y broses o sefydlu arferion i alluogi'r cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid i gael eu gweithredu
- pwysigrwydd asesu effeithiolrwydd cost cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid â’r adnoddau sydd yn ofynnol ar gyfer eu gweithredu, yn cynnwys staff
- sut i reoli'r gwaith o weithredu cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid a phwysigrwydd briffio a pharhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithredu
- sut i fonitro a gwerthuso cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid
- pwysigrwydd cynnal pum angen lles yr anifail
- pwysigrwydd gwerthuso a diwygio'r cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fodloni amcanion
- y cofnodion â’r adroddiadau y mae angen eu cadw mewn perthynas â datblygu a rheoli cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Wrth ddatblygu cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid, dylid ystyried y canlynol:
- diben cadw pob anifail neu grŵp o anifeiliaid
- dod o hyd i anifeiliaid
- asesiad anghenion y gofynion lles ar gyfer yr anifeiliaid sydd yn cael eu cadw
gofynion llety
gofynion deietegol
- mynediad a thrafod gan fodau dynol
- hyfforddiant â’r dulliau trugarog i'w defnyddio
- gofynion ymarfer corff â’r dulliau i'w defnyddio
- monitro iechyd a lles sydd yn berthnasol i rywogaethau
- y gofynion ar gyfer triniaethau proffylactig
- statws bridio, yn cynnwys ysbaddu
- sylw milfeddygol
- ailgartrefu
ewthanasia
difa
- cyflwyno anifeiliaid newydd (yn cynnwys profi, cwarantîn)
- gofynion cludo
- ystyriaethau cyfreithiol
- ystyriaethau bioddiogelwch
- rheoli gwastraff
- cost
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Problemau:
- materion iechyd
- clefydau hysbysadwy
- ynysu
- cwarantîn
- argyfyngau
- anifeiliaid yn dianc
- adleoli anifeiliaid os bydd sefydliad yn cau
Pum angen lles:
- Amgylchedd addas
- Deiet cywir yn cynnwys dŵr ffres
- Gallu i fynegi ymddygiad arferol
- Cwmnïaeth ac anifeiliaid anwes eraill
- Diogelu rhag a thrin salwch ac anafiadau