Ymdrin ag anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymdrin ag anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd. Mae'n cynnwys y sgiliau sydd yn angenrheidiol i ymdrin ag amrywiaeth o anifeiliaid yn ddiogel ac yn effeithiol.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch, hylendid a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gwaith hwn.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn ymdrin ag anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a phawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, a lles yr anifail, yn ystod y gwaith
- gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r cyfarwyddiadau, arferion busnes â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- mynd at anifeiliaid, o dan oruchwyliaeth, mewn ffordd sydd yn lleihau trallod i'r anifail yr ydych yn gweithio gydag ef
- defnyddio technegau trin anifeiliaid diogel, o dan oruchwyliaeth, ac yn unol â'r cyfarwyddiadau
- ymdrin ag anifeiliaid mewn ffordd sydd yn cynnal eu lles a'u diogelwch, yn lleihau straen ac yn annog eu cydweithrediad
monitro ymddygiad yr anifail a'i ymateb i gael ei drin ac adrodd am broblemau wrth y person perthnasol heb oedi
rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd sydd yn lleihau straen neu anaf
- hybu lles yr anifail bob amser ac addasu eich ymddygiad chi, neu ymddygiad y rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, i osgoi gweithredoedd a allai achosi pryderon lles
adnabod ymddygiad neu adweithiau corfforol yn yr anifeiliad a allai ddangos materion lles neu broblemau eraill ac adrodd am y rhain wrth y person perthnasol
gwybod pan fydd ymddygiad anifail yn dangos na ddylech barhau gyda'r gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cwblhau gweithgaredd yn unol â chyfarwyddiadau gan y goruchwyliwr
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol a deddfwriaeth sy'n ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau eich sefydliad
- pwysigrwydd â'r defnydd cywir o gyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth ymdrin ag anifeiliaid a sut i gyflawni hyn
sut a ble i gael gwybodaeth am dymer ac ymddygiad arferol yr anifeiliaid y byddwch yn ymdrin â nhw
y technegau ar gyfer ymdrin â'r anifeiliaid cysylltiedig
- gofynion lles anifeiliaid a sut i gynnal eu hiechyd a'u lles
- y ffactorau gwahanol sydd yn gallu effeithio ar ymddygiad anifail a beth i'w wneud os yw'r ffactorau hyn yn bresennol
- pam y mae'n bwysig monitro ymateb anifail i gael ei drin a sut i adnabod ymatebion negyddol
- wrth bwy y dylech adrodd am unrhyw newidiadau mewn ymddygiad anifail neu unrhyw ymatebion negyddol i ymdrin, a chanlyniadau posibl peidio ag adrodd am y rhain
- sut i adnabod cyflyrau ymddygiadol ac emosiynol mewn anifeiliaid yn cynnwys: ofn, ymosodedd, tawelu, gorbryder, chwarae, ymlacio a salwch
sut gall eich gweithredoedd, neu weithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, effeithio ar ymddygiad yr anifail ac achosi pryderon lles.
pwysigrwydd adnabod ymddygiad sydd yn dangos na fyddai'n briodol parhau gyda'r gweithgaredd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth bresennol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)