Steilio a chaboli côt ci
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â steilio a chaboli côt ci gan ddefnyddio dulliau tocio amrywiol.
Mae'n cynnwys defnyddio technegau trafod perthnasol, adnabod mathau o gotiau a siâp pennau a dulliau tocio cywir i gyflawni'r canlyniad dymunol.
Eich cyfrifoldeb chi yw monitro eich iechyd a'ch diogelwch eich hun, y ci â’r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu'r ddyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn steilio ac yn caboli côt ci.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
 - cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
 - cadarnhau bod yr ardal waith ar gyfer steilio a chaboli côt y ci yn ddiogel, yn gadarn, yn lân ac yn barod i'w defnyddio
 - dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi sefydliadol
 - dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
 - arsylwi ac adnabod ymddygiad y ci a chofnodi hyn lle bo angen
 mynd at y ci, ei drafod a'i atal mewn ffordd sydd yn sicrhau lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
steilio a chaboli'r ci yn unol â gofynion y cleient, y cynllun y cytunwyd arno â’r math o frîd
- defnyddio'r dulliau tocio cywir ar gyfer math a steil y gôt
 - creu'r siâp gofynnol ar gyfer y corff â’r gwddf
 - creu'r siâp gofynnol ar gyfer y coesau, y traed â’r cynffon
 - creu'r siâp gofynnol ar gyfer y pen â’r clustiau
 - cwblhau eich gwaith o fewn y graddfeydd amser a gadarnhawyd gyda'r cleient, gan gynnal lles y ci yr holl amser
 - ymdrin â gwastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
 - glanhau, sterileiddio a storio'r offer â’r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer steilio a chaboli yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi sefydliadol, ac adrodd am unrhyw namau
 - trosglwyddo'r ci i lety addas yn barod ar gyfer ei gasglu
 - cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth steilio a chaboli cotiau cŵn a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
pwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
 - eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
 - pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
 - y mathau o offer a chyfarpar sydd yn ofynnol ar gyfer steilio a chaboli côt ci a sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal y rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau sefydliadol
 - pam y mae'n bwysig arsylwi ac asesu iaith corff y ci cyn dechrau gwaith ac arwyddion i chwilio amdanynt
 - pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn a ble i gael cyngor ac arweiniad lle bo angen
 - mathau o gotiau Kennel Club UK a'u nodweddion
 - sut i fynd at gŵn, eu trafod a'u hatal mewn ffordd sydd yn cynnal lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
 - y mathau gwahanol o fridiau a chotiau cŵn â’r technegau torri â’r llinellau tocio ar gyfer bob un
 - sut i farnu'r maint cywir o flew i'w dorri neu ei dorri â siswrn a pham y mae'n bwysig peidio â thynnu gormod
 - sut i gynnal dulliau tocio gwahanol
 - pryd y bydd angen teneuo a chyfuno
 - sut i gyflawni'r siâp gofynnol ar gyfer y corff â’r gwddf
 - sut i gyflawni'r siâp gofynnol ar gyfer y coesau, y traed â’r cynffon
 - sut i gyflawni'r siâp gofynnol ar gyfer y pen â’r clustiau
 - pam y mae angen gofal penodol wrth dynnu blew ychwanegol o ardal y llygaid, y clustiau, yr ardal rhefrol â’r organau cenhedlu o fewn terfynau eich rôl
 - y technegau ar gyfer steilio a chaboli
 y graddfeydd amser ar gyfer cwblhau gweithgareddau, yn unol â pholisi'r gweithle a gofynion y cleient
arwyddion trallod mewn cŵn â’r camau y dylid eu cymryd pan fydd y rhain yn cael eu harsylwi
- sut i drin, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisïau sefydliadol
 sut i archwilio, glanhau a sterileiddio offer a chyfarpar â’r dull cywir o'u storio
sut i ddarparu llety addas ar gyfer y ci rhwng cyfnodau ysgrafellu
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â steilio a chaboli cotiau cŵn a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
 
Cwmpas/ystod
Defnyddio'r offer â’r cyfarpar canlynol wrth steilio a chaboli côt ci
clipwyr a llafnau
siswrn
- siswrn teneuo
 - offer stripio
 
steilio a chaboli'r mathau canlynol o gotiau:
gwlân
weiar
- sidan
 - dwbl – hir a byr
 - llyfn
 
cyflawni'r siapiau pen canlynol:
- pen crwn
 - pen gydag aeliau rhanedig byr
 - pen gydag aeliau rhanedig hir
 - pen gydag aeliau sydd yn syrthio yn y canol
 - pen glân
 - wyneb glân
 
defnyddio'r dulliau tocio canlynol:
- côt corff wedi ei dorri â siswrn
 - côt corff sylfaenol wedi ei stripio â llaw
 - côt uwch wedi ei stripio â llaw
 - côd ci adara wedi ei stripio a llaw
 - côt corff wedi ei dorri
 - siapiau coesau a thraed wedi eu torri â siswrn
 - cynffon wedi ei dorri â siswrn/wedi ei dorri neu gyfuniad
 - cyfuno
 
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
 - Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
 - Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
 - Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
 
Gallai cyfarpar a dillad amddiffynnol gynnwys:
- menig
 - ffedog