Asesu a chynllunio gwaith ysgrafellu cŵn

URN: LANAnC38
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu a chynllunio gwaith ysgrafellu cŵn. Bydd angen i chi ystyried siâp y pen â’r math o gôt, gofynion y cleient, y dulliau i'w defnyddio i gyflawni'r canlyniad dymunol yn ogystal â'r offer â’r technegau y dylid eu defnyddio wrth wneud y gwaith.

Eich cyfrifoldeb chi yw monitro eich iechyd a'ch diogelwch eich hun, y ci a phawb sydd yn cael eu heffeithio gan eich gwaith.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a diogelwch anifeiliaid.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am asesu a chynllunio gwaith ysgrafellu cŵn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. gwneud eich gwaith i gyd yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol â’r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol
  4. dewis a gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch a chadarnhau eu bod yn cael eu cynnal
  5. cadarnhau bod yr ardal waith ar gyfer ysgrafellu cŵn yn ddiogel, yn gadarn ac yn lân
  6. asesu'r ffordd y gellir darparu ar gyfer anghenion lles y ci tra'i fod o dan eich dyletswydd gofal
  7. arsylwi ac adnabod ymddygiad y ci a'i gofnodi lle bo angen
  8. trafod y ci mewn ffordd sydd yn cynnal lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
  9. asesu ymddangosiad y ci yn cynnwys y math o gôt, ei ben, ei gorff a siâp ei goesau i helpu i gynllunio'r gwaith ysgrafellu ar y ci
  10. asesu cyflwr côt a chroen cŵn i gynorthwyo'r gwaith o gynllunio gwaith ysgrafellu ar y ci
  11. cynnal gwiriad iechyd o'r ci ac adrodd am unrhyw faterion i'r cleient, yn cynnwys cyngor i gael sylw milfeddygol os oes angen
  12. trafod a chytuno ar y gofynion ar gyfer y gwaith sydd wedi ei gynllunio gyda'r cleient, yn cynnwys graddfa amser a chost
  13. cynllunio'r gwaith sydd yn ofynnol i ysgrafellu'r ci
  14. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol fel ysgrafellwr cŵn a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. pwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol â’r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol
  5. pwysigrwydd gweithredu'r mesurau hylendid a bioddiogelwch cywir wrth ysgrafellu cŵn a sut gellir cyflawni'r rhain
  6. pam y mae'n bwysig arsylwi ac asesu iaith corff y ci a pha arwyddion i chwilio amdanynt
  7. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, sut dylid gwneud hyn a ble i gael cyngor ac arweiniad pan fo angen
  8. mathau a nodweddion cotiau y cŵn yr ydych yn gweithio gyda nhw
  9. sut i fynd at gŵn, eu trafod a'u hatal mewn ffordd sydd yn hybu lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
  10. sut i asesu ymddangosiad y ci yn cynnwys y math o gôt a siâp y pen, y corff â’r goes i gynorthwyo'r gwaith o gynllunio ysgrafellu'r ci
  11. sut i asesu cyflwr côt a chroen ci a sut i adnabod problemau cyffredin
  12. sut i gynnal a chofnodi gwiriad iechyd ci
  13. anatomeg a ffisioleg ci er mwyn gallu cynnal gwiriad iechyd
  14. gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol mewn perthynas â hysbysu cleientiaid ynghylch annormaleddau a chyflyrau posibl (ond nid rhoi diagnosis) a phwysigrwydd atgyfeirio cleientiaid at filfeddyg
  15. sut i gynllunio a chytuno ar y gwaith i gael ei wneud gyda'r cleient, yn cynnwys y raddfa amser â’r gost, a phwysigrwydd cael cydsyniad gwybodus
  16. pam y mae angen torri i ffwrdd a thocio bras weithiau a pham y gallai oed, cyflwr a natur y ci ddylanwadu ar y penderfyniad
  17. pwysigrwydd tynnu blew ychwanegol er mwyn hylendid y ci
  18. dulliau tocio gofynnol sydd yn berthnasol i gôt y ci
  19. y camau y dylid eu cymryd os byddwch yn torri y ci neu eich hun ar ddamwain
  20. pwysigrwydd cynllunio'r adnoddau sydd yn ofynnol i wneud y gwaith yn cynnwys offer, cyfarpar, deunyddiau, llety ac arbenigedd addas
  21. sut i wirio, glanhau a sterileiddio offer a chyfarpar â’r dulliau storio cywir
  22. y cofnodion sydd angen eu cadw mewn perthynas ag asesu a chynllunio ysgrafellu cŵn a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Cwmpas/ystod

Golchi a glanhau'r mathau canlynol o gôt ci:

  1. gwlân
  2. weiar
  3. sidan

  4. dwbl – hir a byr

  5. llyfn

Ysgrafellu'r siapiau pen canlynol:

  1. pen crwn
  2. pen gydag aeliau rhanedig byr
  3. pen gydag aeliau rhanedig hir
  4. pen gydag aeliau sydd yn syrthio yn y canol
  5. pen glân
  6. wyneb glân

defnyddio'r dulliau tocio canlynol:

  1. côt corff wedi ei dorri â siswrn
  2. côt corff sylfaenol wedi ei stripio â llaw
  3. côt uwch wedi ei stripio â llaw
  4. côd ci adara wedi ei stripio a llaw
  5. côt corff wedi ei dorri
  6. siapiau coesau a thraed wedi eu torri â siswrn
  7. cynffon wedi ei dorri â siswrn/wedi ei dorri neu gyfuniad
  8. cyfuno

Cynllunio'r gwaith yn unol â:

  1. chais y cleient
  2. brîd o gi
  3. ei ymddangosiad a'i gyflwr
  4. dulliau tocio

  5. adnoddau

  6. llety ar gyfer y ci, cyn, yn ystod ac ar ôl ysgrafellu

* *

Cyflawni'r gwiriad iechyd canlynol:

  1. traed, ewinedd a phadiau
  2. cyflwr y clustiau
  3. ceg, dannedd a deintgig
  4. croen a chôt

  5. parasitiaid mewnol ac allanol

  6. llygaid
  7. ardal yr organau cenhedlu â’r ardal dethol
  8. chwarennau rhefrol
  9. sgôr pwysau a chyflwr

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

  • Deddf Llawfeddygon Milfeddygol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC47

Galwedigaethau Perthnasol

Ysgrafellu cŵn

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

ci; ysgrafellu; côt; steil