Cynllunio a monitro deiet anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a monitro deiet yr anifeiliaid yn eich gofal.
Bydd angen i chi nodi anghenion deietegol yr anifeiliaid a datblygu cynlluniau bwydo yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrhieidiol ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am fwydo'r anifeiliaid. Bydd angen i chi hefyd fonitro bwydo anifeiliaid, gwneud yr addasiadau angenrheidiol i'r cynllun bwydo a gwerthuso'r effaith ar iechyd a datblygiad anifeiliaid a chymryd y camau angenrheidiol pan fydd y monitro yn datgelu problemau.
Gallai hyn fod yn berthnasol i amrywiaeth o rywogaethau o anifeiliaid neu un rhywogaeth yn eich gofal.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio gydag anifeiliaid gyda chyfrifoldebau penodol ar gyfer cynllunio a monitro deiet anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- dewis a gweithredu'r mesurau hylendid a bioddiogelwch gofynnol a chadarnhau eu bod yn cael eu cynnal
- nodi trefniadau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff yn unol â'r gweithdrefnau cyfreithiol perthnasol a pholisïau sefydliadol
- cynllunio deiet i fodloni gofynion deietegol yr anifeiliaid yn eich gofal, gan ystyried ffactorau perthnasol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a chael cyngor proffesiynol lle bod angen
- creu cynlluniau bwydo ar lefel o fanylder sydd yn ddigon clir i alluogi'r rheiny sydd yn gysylltiedig i'w rhoi ar waith
- dewis a dod o hyd i fwydydd maethlon i fodloni gofynion y cynlluniau bwydo
- gweithredu a monitro gweithdrefnau ar gyfer storio a chylchdroi stoc bwydydd
- cadarnhau bod cyfleusterau, cyflenwadau, cyfarpar ac unrhyw adnoddau eraill sydd eu hangen, yn cynnwys staffio, ar gael
- cadarnhau bod gan bawb sydd yn gysylltiedig â gweithredu'r cynlluniau bwydo y sgiliau â’r wybodaeth sydd yn ofynnol i gynnal y gweithgareddau
- monitro ac adolygu addasrwydd cynnwys y deiet â’r cynlluniau bwydo ar gyfer iechyd, lles a pherfformiad anifeiliaid
- lle bo angen, gwneud addasiadau i'r cynlluniau bwydo sydd yn cyd-fynd â'r adborth a dderbyniwyd ac anghenion yr anifeiliaid perthnasol
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth gynllunio a monitro deiet anifeiliaid a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd gweithredu'r mesurau hylendid a bioddiogelwch cywir a sut gellir cyflawni'r rhain
- yr arferion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trafod, storio a gwaredu gwastraff
- y ffactorau y dylid eu hystyried wrth gynllunio deiet anifeiliaid
- y prif ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i sefydlu gofynion deietegol
y ffynonellau maeth sydd yn addas ar gyfer yr anifeiliaid yn eich gofal a'u heffaith ar iechyd a lles anifeiliaid
ble a phryd i gael cyngor ac arweiniad ar gynllunio deiet anifeiliaid
- sut i ffurfio deiet ar gyfer rhywogaethau gwahanol o anifeiliaid, cyfnodau bywyd, cyflyrau a lefelau gweithgaredd anifeiliaid
- effaith diffyg maeth ar iechyd a lles anifeiliaid a phwysigrwydd defnyddio dull cydnabyddedig o werthuso cyflwr y corff wrth reoli maeth anifail
- pwysigrwydd rheoli pwysau anifeiliaid mewn perthynas â'u hiechyd a'u lles
- ffurfiau, nodweddion a gweithrediad gwahanol bwydydd anifeiliaid sydd yn addas ar gyfer yr anifeiliaid yn eich gofal a'u derbynioldeb yn unol â deddfwriaeth berthnasol
- rôl atchwanegiadau a chynnyrch maethfferyllol yn neiet anifeiliaid
- y mathau o atchwanegiadau sydd yn berthnasol i'r anifeiliaid yn eich gofal, y rhesymau dros eu cynnwys yn eu deiet â’r deddfwriaeth berthnasol sydd yn ymwneud â chynhwysiad o'r fath
- y mathau o fwydydd amnewid masnachol â’r atchwanegiadau fitaminau a mwynau sydd ar gael, y meintiau sydd yn ofynnol, eu sgil-effeithiau cyffredin ac effeithiau niweidiol lefelau heb eu cyfrifo'n gywir
- sut i ddatblygu cynlluniau bwydo yn seiliedig ar ofynion anifeiliaid â’r adnoddau sydd ar gael, yn cynnwys gofynion ymddygiadol yr anifeiliaid, a rôl dulliau bwydo gwahanol fel cyfoethogiad a'i ddefnydd mewn hyfforddiant
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn er mwyn monitro'r gwaith o roi cynlluniau bwydo ar waith
y ffactorau i gael eu monitro yn cynnwys ymddygiad a chyflwr anifail, meintiau sydd yn cael eu bwyta, a chostau bwydo
sut i asesu addasrwydd cynllun bwydo a'i allu i wella twf, datblygiad a pherfformiad anifeiliaid
- pwysigrwydd adolygu a diwygio'r cynllun bwydo i gadarnhau ei fod yn parhau i fodloni gofynion yr anifeiliaid yn eich gofal
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â chynllunio a monitro deiet anifeiliaid a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Ffactorau perthnasol i'w hystyried wrth gynllunio deiet:
- ymddygiad bwydo ac anghenion deietegol rhywogaethau
- diben cadw'r anifail
- cyfnodau bywyd
- lefelau gweithgaredd
- sgôr cyflwr neu bwysau
- iechyd
- atal/rheoli clefydau
- cyfoethogi a'i ddefnydd mewn hyfforddiant
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
- Deddf Diogelu Bwyd â’r Amgylchedd
Ffynonellau Maeth:
- Protein
- Carbohydradau
- Braster