Gwerthuso gwybodaeth sydd yn berthnasol i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso gwybodaeth sydd yn berthnasol i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid, y gellir ei defnyddio fel tystiolaeth bosibl ar gyfer gweithredu yn erbyn unigolion. Byddai hyn yn cynnwys amheuaeth o fethu â bodloni anghenion lles anifeiliaid, yn cynnwys cam-drin, niwed neu esgeulustod.
Mae'n cynnwys gwerthuso'r wybodaeth o ran ei harwyddocâd, ei dilysrwydd a'i dibynadwyedd. Lle bo angen, mae'n rhaid i chi egluro'r wybodaeth sydd yn amwys neu'n annelwig, a chael safbwyntiau arbenigol. Mae'r safon hefyd yn cynnwys argymell gwneuthurwyr penderfyniadau i weithredu.
Defnyddir y term "ceidwad" i ddynodi'r unigolyn sydd yn gyfrifol am reolaeth a lles yr anifail; gall hwn fod yn berchennog neu beidio.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am orfodi deddfwriaeth berthnasol lles anifeiliaid trwy ymchwilio i fethiannau a nodir i fodloni anghenion lles anifeiliaid a gweithio gydag asiantaethau gorfodi'r gyfraith eraill i gynorthwyo'r gwaith o erlyn y rheiny sydd wedi methu â bodloni anghenion lles anifeiliaid.
Mae'r rheiny sydd yn ymgymryd â'r rôl hon yn debygol o fod yn gweithio i gorff cydnabyddedig sydd yn gyfrifol am ddiogelu lles anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gwerthuso'r wybodaeth sydd yn berthnasol i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid gan ddefnyddio'r dulliau perthnasol
nodi ffeithiau o dystiolaeth a gwybodaeth sydd ar gael sydd yn berthnasol i adroddiadau o ddigwyddiadau sydd yn ymwneud ag anifeiliaid neu fethiant i fodloni anghenion lles anifeiliaid
- gwerthuso a chofnodi arwyddocâd, dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth a baratowyd gan eraill, a nodi'r cyfraniad y mae'n ei wneud i'r corff tystiolaeth
- cael eglurhad o'r ffynonellau perthnasol os yw gwybodaeth yn annelwig neu'n amwys
- gwerthuso cyfanswm y dystiolaeth o ran digonoldeb, dilysrwydd a dibynadwyedd
- cael deunydd ychwanegol o ffynonellau perthnasol os yw maint y dystiolaeth yn anghyflawn
- adolygu tystiolaeth a gwybodaeth yn systematig gan ddefnyddio'r dulliau cywir, a chofnodi ffactorau sydd yn debygol o ddylanwadu ar ganlyniad yr ymchwiliad
- cael cyngor arbenigol am broblemau penodol y nodir eu bod yn berthnasol i'r ymchwiliad
gwerthuso'r opsiynau ar gyfer gweithredu trwy bennu'r cyfyngiadau â’r cyfleoedd sydd yn deillio o bob darn o gyngor arbenigol
cyfiawnhau eich argymhellion ar gyfer gweithredu o ran y gyfraith, canlyniadau tebygol parhau â’r siawns o ganlynad llwyddiannus
- cyflwyno eich argymhellion ar gyfer gweithredu ar fformat perthnasol a'u hanfon ymlaen at y gwneuthurwr penderfyniadau ar gyfer gweithredu
- hysbysu'r unigolyn perthnasol o'i hawliau â’r camau gweithredu a fwriedir os oes posiblirwydd o achos cyfreithiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y dulliau sydd ar gael ar gyfer gwerthuso gwybodaeth sydd yn berthnasol i adroddiadau o ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid neu'r methiant i fodloni anghenion lles anifeiliaid
y dulliau sydd ar gael ar gyfer dadansoddi gwybodaeth a chasglu data
- sut i bennu arwyddocâd a pherthnasedd y wybodaeth
- sut i bennu digonoldeb, dilysrwydd a dibynadwyedd y wybodaeth
- ble i gael deunydd ychwanegol os yw'r dystiolaeth yn anghyflawn
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â digwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol
- cwmpas, cymhwysedd a pherthnasedd y ddeddfwriaeth yn ymwneud â gofal anifeiliaid a chynnal ymchwiliadau
- eich cyfrifoldebau eich hun yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
- y dulliau sydd ar gael ar gyfer gwerthuso a phenderfynu ar opsiynau ar gyfer gweithredu â’r meini prawf y dylid eu defnyddio
- yr arwyddion o iechyd ac ymddygiad arferol anifeiliaid
- sut i adnabod cyflyrau anarferol anifeiliaid
- y ffordd y gall methu â bodloni anghenion lles anifeiliaid effeithio ar eu hiechyd a'u hymddygiad
Cwmpas/ystod
Argymhellion ar gyfer gweithredu:
- camau cyfreithiol
- rhybudd anffurfiol
- cyngor ac arweiniad
- dim gweithredu
Gwerthuso gwybodaeth, yn erbyn y meini prawf perthnasol hyn:
- brys o ran gweithredu
- difrifoldeb yr honiad
- effaith oedi ar les yr anifail
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
- Deddf Cŵn Peryglus
- Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE)
* *
Gallai tystiolaeth gynnwys:
- cyfryngau gweledol e.e. ffotograffau, Teledu Cylch Cyfyng
- sbesimenau
- cofnodion milfeddygol
- datganiadau ysgrifenedig
- eitemau ffisegol
- cofnodion yn ymwneud ag ymddygiad a hanes hyfforddiant yr anifail
- asesiad ymddygiadol
- gwybodaeth
Mae digwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid yn cynnwys:
- cam-drin
- niwed
esgeulustod
cael eu gadael
mynd yn strae
- niwsans
Pum angen lles anifeiliaid:
- amgylchedd addas (lle i fyw)
- deiet addas
- gallu i arddangos ymddygiad arferol
- diogelwch rhag poen, dioddefaint, anaf a chlefydau
- lletya gydag anifeiliaid eraill, neu ar wahân iddynt (lle y bo'n berthnasol)