Ymchwilio i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymchwilio i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid. Dylai hyn gynnwys amheuaeth o fethu â bodloni anghenion lles anifeliaid, yn cynnwys cam-drin, niwed neu esgeulustod.
Mae'n cynnwys derbyn ac ymchwilio i adroddiadau, casglu gwybodaeth a chymryd camau priodol. Lle bo angen, bydd angen i chi hefyd gynnwys yr asiantaethau gorfodi'r gyfraith perthnasol.
Defnyddir y term "ceidwad" i ddynodi'r unigolyn sydd yn gyfrifol am reoli lles anifeiliaid, gallai hyn fod yn berchennog neu beidio.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth lles anifeiliaid berthnasol trwy ymchwilio i adroddiadau o gam-drin, niwed neu esgeuluso anifeiliaid, a gweithio gydag asiantaethau gorfodi'r gyfraith eraill i gynorthwyo'r gwaith o erlyn y rheiny sydd wedi methu â bodloni anghenion lles anifeiliaid.
Mae'r rheiny sydd yn ymgymryd â'r rôl hon yn debygol o fod yn gweithio i gorff cydnabyddedig sydd yn gyfrifol am ddiogelu lles anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
derbyn a chofnodi adroddiadau o ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid
canfod pwy sydd yn berchen ar yr anifail a nodi'r unigolyn sydd yn gyfrifol am ei reolaeth a'i les
- dewis dulliau ymchwilio sydd yn rhoi cyfrif am yr holl ffactorau perthnasol
- ymchwilio a chasglu'r wybodaeth berthnasol yn ymwneud â'r adroddiad o ddigwyddiad yn ymwneud ag anifail â’r unigolion cysylltiedig
- cael deunydd ychwanegol ac eglurhad o'r ffynonellau perthnasol, os yw gwybodaeth neu dystiolaeth yn anghyflawn, yn annelwig neu'n amwys
rhoi rhybudd ar unwaith a hysbysu'r unigolyn cyfrifol o'u hawliau cyfreithiol os oes sail i amau bod trosedd wedi cael ei chyflawni
galw am gymorth i atal anaf neu niwed i chi eich hun, aelodau'r cyhoedd ac anifeiliaid, os yw ymddygiad unigolion yn awgrymu'r posibilrwydd o ymddygiad ymosodol neu sarhaus
- cynnal y gweithgaredd yn unol â pholisïau sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys yr asiantaethau gorfodi'r gyfraith ac/neu arbenigwyr perthnasol eraill fe y bo angen
- creu adroddiadau a chanfyddiadau ymchwiliad sydd yn gywir ac yn gyflawn, a'u trosglwyddo i'r awdurdod perthnasol
- storio gwybodaeth yn ymwneud â'r ymchwiliad gan ddilyn y gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y mathau o ddulliau i bennu hunaniaeth a pherchnogaeth anifail unigol
y dulliau o gael gwybodaeth gan unigolion yn dilyn adroddiad o ddigwyddiad yn ymwneud ag anifail
- pwysigrwydd ymchwilio i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid yn drwyadl a sut i gefnogi cydweithrediad
- y mathau o dechnegau holi a sut gellir eu cymhwyso
- pwysigrwydd cwblhau cofnodion yn gywir
- ystod, cymhwysiad a pherthnasedd deddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â methu â bodloni anghenion lles anifeiliaid
- eich cyfrifoldebau eich hun yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
- ffynonellau gwybodaeth arbenigol a sut i gael mynediad atynt
- y technegau i leihau a rheoli ymddygiad ymosodol a sarhaus gan unigolion
- yr asiantaethau gorfodi'r gyfraith perthnasol a phŵerau a buddiannau pob un, fel yr heddlu, llywodraeth leol a chenedlaethol, y sector gwirfoddol
- y mathau o arbenigwyr allai fod eu hangen, fel llawfeddyg milfeddygol a chanolfan achub anifeiliaid
- arwyddion iechyd ac ymddygiad arferol mewn anifeiliaid
- y ffordd y gall methu â bodloni anghenion lles effeithio ar iechyd ac ymddygiad anifeiliaid
- y ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â chasglu, storio a datgelu gwybodaeth
Cwmpas/ystod
Ffactorau perthnasol i'w hystyried:
- brys o ran gweithredu
- difrifoldeb yr honiad
- effaith oedi ar les yr anifail
- cost
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Pum angen lles anifeiliaid:
- amgylchedd addas (lle i fyw)
- deiet addas
- gallu i arddangos ymddygiad arferol
- diogelwch rhag poen, dioddefaint, anaf a chlefydau
- lletya gydag anifeiliaid eraill, neu ar wahân iddynt (lle y bo'n berthnasol)
Digwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid:
- cam-drin
- niwed
- esgeulustod
- cael eu gadael
- mynd yn strae
- niwsans
Gallai gwybodaeth gynnwys:
- cyfryngau gweledol e.e. ffotograffau, Teledu Cylch Cyfyng
- sbesimenau
- cofnodion milfeddygol
- datganiadau ysgrifenedig
- eitemau ffisegol
- cofnodion yn ymwneud ag ymddygiad a hanes hyfforddiant yr anifail
- asesiad ymddygiadol
- gwybodaeth
Arbenigwyr eraill:
- Llawfeddygon milfeddygol
- Adrannau llywodraeth leol a chenedlaethol
- Canolfannau achub anifeiliaid