Asesu cyflwr yr anifeiliaid sydd wedi cael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu cyflwr anifeiliaid sydd wedi cael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso. Gallai hyn gynnwys anifeiliaid strae, wedi eu gadael neu y mae rhywun yn berchen arnynt sydd wedi cael eu cam-drin.
Mae'n gofyn am gyswllt gyda cheidwad yr anifeiliaid, (os yw'n hysbys), darpariaeth gofal milfeddygol, lle mae angen hyn, trefnu llety diogel â’r angen i weithio o fewn cyfyngiadau'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol.
Defnyddir y term "ceidwad" i ddynodi'r unigolyn sydd yn gyfrifol a reoli ac am les yr anifail, gallai fod yn berchennog neu beidio.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unigolion sydd yn gyfrifol am orfodi deddfwriaeth lles anifeiliaid berthnasol trwy ymchwilio i adroddiadau am anifeiliaid wedi eu gadael, eu cam-drin, eu niweidio, eu hesgeuluso, neu anifeiliaid strae, yn ogystal â'r rheiny sydd yn gweithio gydag asiantaethau gorfodi'r gyfraith perthnasol i gynorthwyo'r broses o erlyn y rheiny sydd wedi gadael, cam-drin, niweidio neu esgeuluso anifeiliaid.
Mae unigolion sydd yn derbyn y rôl yma yn debygol o fod yn gweithio i gorff cydnabyddedig sydd â chyfrifoldeb dros ddiogelu lles anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu'r risg sydd yn gysylltiedig ag ymdrin ag anifeiliaid sydd wedi cael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso a chwblhau asesiad risg, lle bo angen
asesu ymddygiad yr anifeiliaid sydd wedi cael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso, gall hyn gynnwys anifeiliaid strae, wedi eu hesgeuluso neu y mae rhywun yn berchen arnynt
- gwybod os yw cyflwr yr anifail yn gofyn am sylw ymarferydd cymwys a chael cymorth
- cynghori'r ceidwad, os yw'n hysbys, ynghylch eu hawliau a'u cyfrifoldebau cyfreithiol, a chael y cydsyniadau â’r ildiadau gofynnol lle mae anifeiliaid wedi eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso yn cael eu symud i lety diogel
- rhoi cyfarwyddiadau a chyngor perthnasol i'r ceidwad, os yw'n hysbys, ynghylch y rhesymau dros y pryder â’r camau gweithredu adferol i'w dilyn, os yw anifail yn aros gyda'r ceidwad
- trafod ac atal yr anifail mewn ffordd sydd yn hybu lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
- gosod yr anifail sydd wedi ei gam-drin, ei niweidio neu ei esgeuluso, lle bo angen, mewn amgylchedd sydd yn lleihau trallod â'r posibilrwydd o anaf i'r anifail, i chi eich hun a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cael, labelu a storio cofnodion, samplau a gwybodaeth a allai ddarparu tystiolaeth o gam-drin, niwed neu esgeulustod, yn ofalus
- cadarnhau bod cofnodion yn ymwneud â chyflwr a chynnydd yr anifail yn cael eu cynnal a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol, a'u bod yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdodau perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i adnabod peryglon, asesu risg a chwblhau asesiadau risg, lle bo angen, sydd yn ymwneud ag asesu cyflwr anifeiliaid wedi eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso
y gofynion cyfreithiol perthnasol â’r dyletswyddau yn ymwneud â symud anifeiliaid wedi eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso i le diogel
- sut i asesu ymddygiad anifeiliaid wedi eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso i bennu'r camau sydd eu hangen
- dangosyddion ymddygiad anarferol yn yr anifail sydd angen sylw ymarferydd cymwys
- sut i wybod pryd mae cyflwr yr anifail yn gofyn am sylw ymarferydd cymwys
- sut i gael, lle bo angen, y cydsyniadau â’r ildiadau perthnasol lle mae anifeiliaid yn cael eu symud i lety diogel
- y gofynion cyfreithiol perthnasol â’r dyletswyddau yn ymwneud â gofal anifeiliaid wedi eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso mewn lle diogel
- y mathau gwahanol o gamau adferol y gallai ceidwad orfod eu dilyn er mwyn i'r anifail sydd wedi ei gam-drin, ei niweidio neu ei esgeuluso aros gyda'r ceidwad
- y mathau o amgylcheddau i roi'r anifail sydd wedi ei gam-drin, ei niweidio neu ei esgeuluso er mwyn lleihau trallod ac anaf posibl i'r anifail, i chi eich hun a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
- sut i addasu eich ymddygiad, neu ymddygiad y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo, i leihau trallod ac ofn mewn anifeiliaid wedi eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso
- pwysigrwydd cael, labelu a sicrhau cofnodion, samplau a gwybodaeth a allai ddarparu tystiolaeth o gam-drin, niwed neu esgeulustod
y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas ag asesu anifeiliaid wedi eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
pwysigrwydd trosglwyddo cofnodion i'r awdurdodau perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cyfathrebu cyngor gynnwys:
- cael cyngor milfeddygol
- cyngor ar ymddygiad
- cyngor ar ddeiet
- cyngor ar yr amgylchedd
* *
Ymarferwyr cymwys:
- llawfeddyg milfeddygol
- pedolwr
- podiatregydd
Cofnodion, samplau a gwybodaeth:
- fideos
- ffotograffau
- gwaed