Cynllunio a rhyddhau anifeiliaid i’w cynefin naturiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a rhyddhau anifeiliaid i'w cynefin naturiol. Gall cynefinoedd gynnwys amgylcheddau daearol, dŵr croyw, arfordirol neu forol.
Mae'n gofyn eich bod yn gallu cynllunio i ryddhau anifeiliaid ac asesu'r safle ryddhau i bennu addasrwydd y cynefin, yn ogystal ag addasrwydd yr anifail i gael ei ryddhau. Byddwch hefyd yn gallu asesu'r risgiau sydd yn gysylltiedig â rhyddhau'r anifail, mabwysiadu'r dulliau gofynnol o ryddhau a defnyddio'r dulliau hyn yn ddiogel. Byddwch yn cludo a thrafod yr anifail mewn ffordd sydd yn berthnasol, yn ddiogel ac yn lleihau straen.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â chynllunio a rhyddhau anifeiliaid i'w cynefin naturiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu'r risgiau sydd yn gysylltiedig â rhyddhau anifeiliaid i'w cynefin naturiol a chwblhau asesiad risg lle bo angen
gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth arall yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- asesu'r safle rhyddhau i bennu addasrwydd y cynefin ar gyfer yr anifeiliaid
- cynllunio pryd i ryddhau'r anifeiliaid i'w cynefin naturiol, gan ystyried yr amser o'r dydd, y tymor â’r amgylchedd
- arsylwi ymddygiad a chyflwr yr anifeiliaid wrth gynllunio eu rhyddhau
- defnyddio dull perthnasol o adnabod i alluogi'r anifail i gael ei fonitro ar ôl ei ryddhau, lle bo angen
gweithredu i reoli effaith ffactorau allanol ar y rhyddhau sydd wedi ei gynllunio
paratoi a defnyddio'r cyfarpar gofynnol yn unol â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau sefydliadol
- sicrhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) yn berthnasol ar gyfer y gweithgaredd
- trosglwyddo'r anifeiliaid yn ddiogel i'r safle rhyddhau mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal lles
- rhyddhau yr anifeiliaid yn ddiogel, mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal lles
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn effeithio ar ryddhau rhywogaethau ac anifeiliaid unigol i'w cynefin naturiol
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- sut i asesu addasrwydd y safle rhyddhau
- sut i bennu addasrwydd pob anifail unigol ar gyfer ei ryddhau
- sut i gynllunio rhyddhau anifeiliaid a phwysigrwydd yr amseru, y tymor â’r amgylchedd
- y dulliau sydd ar gael i gynorthwyo'r gwaith o adnabod anifeiliaid ar ôl eu rhyddhau
- y ffactorau allanol sydd yn gallu effeithio ar y rhyddhau a sut gellir rheoli'r rhain
- sut i leihau niwed i'r cynefin naturiol a bywyd gwyllt arall wrth ryddhau
- y mathau o gyfarpar sydd yn ofynnol ar gyfer rhyddhau anifeiliaid, a sut i baratoi a defnyddio'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau sefydliadol
- yr amodau sydd yn ofynnol i gynnal iechyd, diogelwch a lles yr anifeiliaid wrth eu trosglwyddo a'u rhyddhau
- arwyddion straen ac anhwylder yn yr anifeiliaid sydd yn cael eu rhyddhau a sut i leihau'r rhain
- y camau i'w cymryd ar ôl arsylwi straen neu anhwylder yn yr anifeiliaid
- y dulliau rhyddhau gofynnol ar gyfer yr anifeiliaid cysylltiedig
- yr ymddygiad posibl wrth ryddhau â’r camau i'w cymryd os yw ymddygiad yn amrywio o'r norm
- sut a phryd y dylid monitro a chofnodi ar ôl rhyddhau
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â rhyddhau anifeiliaid i'w cynefin naturiol a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaewth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Rheoli'r ffactorau allanol canlynol wrth ryddhau anifeiliaid i'w cynefin naturiol:
- ymyriadau dynol
plâu ac ysglyfaethwyr
y tywydd/tymor
- gweithgareddau ffermio lleol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r dulliau sydd ar gael i gynorthwyo'r gwaith o adnabod anifeiliaid ar ôl eu rhyddhau yn cynnwys:
- modrwyo
- tagio
- gosod microsglodyn
- olrhain gyda lloeren /GPS
- defnyddio trosglwyddyddion radio
- rhoi tatŵs
- marciau unigol
- cofnodion canolfan
- ffotograffau/darluniau
- toriadau blew