Ailgartrefu anifeiliaid strae neu anifeiliaid nas dymunir
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ailgartrefu anifeiliaid strae neu anifeiliaid nas dymunir. Mae'n cynnwys yr angen i asesu a dilysu bod darpar berchnogion yn cydnabod ac yn deall eu dyletswyddau a'u goblygiadau fel ceidwaid anifeiliaid, a bod y cyfleusterau y maent yn gallu eu cynnig yn addas ar gyfer yr anifail.
Mae'n cynnwys darparu cyngor i ddarpar berchnogion yn ymwneud ag anghenion, natur ac ymddygiad tebygol yr anifeiliaid y maent yn dymuno darparu cartref ar eu cyfer, yn ogystal â'r gofal sydd ei angen ar anifeiliaid a chostau tebygol eu cadw.
Mae hefyd yn cynnwys asesu cartrefi darpar berchnogion er mwyn sicrhau eu bod yn addas ar gyfer lleoli anifeiliaid strae neu anifeiliaid nas dymunir.
Bydd angen eich bod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am leoli anifeiliaid strae neu anifeiliaid nas dymunir mewn amgylcheddau cartref newydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- asesu a dilysu bod y darpar berchennog yn deall y dyletswyddau fel ceidwad anifail
- asesu'r gofal â’r cyfleusterau y gall darpar berchnogion eu cynnig i'r anifail strae neu'r anifail nas dymunir
- gwneud argymhellion i'r darpar berchennog yn ymwneud â'r dewis o anifail, sydd yn ymwneud ag anghenion yr anifail â’r gofal â’r cyfleusterau y gall y darpar berchennog eu cynnig
- rhoi cyngor i'r darpar berchennog ar dwf disgwyliedig a phatrymau ymddygiad anifail ifanc
esbonio costau cynnal a chadw posibl anifeiliaid dros oes cyfartalog wrth y darpar berchennog
asesu natur yr anifail strae neu'r anifail nas dymunir a'i adwaith posibl i ffactorau yn yr amgylchedd newydd a chyfathrebu eich asesiad i'r darpar berchennog
- hysbysu darpar berchnogion am unrhyw gyflyrau ymddygiadol neu feddygol y gallai fod gan yr anifail strae neu'r anifail nas dymunir a allai effeithio ar y penderfyniad i barhau i ailgartrefu
esbonio amodau, gofal a gwasanaethau cymorth ar ôl ailgartrefu sydd yn cael eu cynnig gan y sefydliad
cynnig ac esbonio gwybodaeth ysgrifenedig i atgyfnerthu'r cyngor i ddarpar berchnogion
- cadarnhau dealltwriaeth y darpar berchennog o gyngor am yr anifail strae neu'r anifail nas dymunir a'u bwriad i barhau
- gosod meini prawf i asesu addasrwydd amgylchedd newydd yr anifail, gan ystyried lles yr anifail, ei hanes a diddordebau'r darpar berchennog
- nodi gwybodaeth yn ymwneud â'r amgylchedd newydd, y darpar berchennog a'u ffordd o fyw a defnyddio'r wybodaeth yma i lywio penderfyniadau
- cofnodi canlyniadau'r asesiad ac esbonio'r canlyniadau hyn i'r darpar berchennog
cynnal gwiriadau ar ôl ailgartrefu i gadarnhau bod yr anifail wedi setlo a bod unrhyw amodau a roddwyd ar y lleoliad wedi cael eu bodloni
cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth ailgartrefu anifeiliaid strae neu anifeiliaid nas dymunir a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- patrymau ymddygiad, natur a thwf arferol anifeiliaid
- sut i asesu natur anifeiliaid strae neu anifeiliaid nas dymunir yn barod ar gyfer eu hailgartrefu
- anghenion yr anifail wrth ailgartrefu anifeiliaid strae neu anifeiliaid nas dymunir mewn amgylcheddau cartref newydd
- sut i amcangyfrif costau cynnal a chadw ar gyfer anifail â’r ffactorau y dylid eu cynnwys
- sut i addasu dulliau cyfathrebu i fodloni anghenion darpar berchnogion gwahanol
- y ffynonellau gwybodaeth â’r cyngor arbenigol wrth ailgartrefu anifeiliaid strae neu anifeiliaid nas dymunir mewn amgylcheddau cartref newydd
- adweithiau posibl anifeiliaid i ffactorau mewn amgylcheddau cartref newydd
- pam y gellir gosod amodau ar gytundebau lleoli
y mathau o wasanaethau cymorth sydd yn cael eu cynnig gan eich sefydliad ar ôl ailgartrefi anifeiliaid strae neu anifeiliaid nas dymunir
y dulliau sydd ar gael ar gyfer asesu addasrwydd amgylchedd cartref newydd yr anifail
- y cyflesuterau, y gofal â’r sylw sydd yn ofynnol gan yr anifail strae neu'r anifail nas dymunir yr ydych yn ceisio ei ailgartrefu
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas ag ailgartrefu anifeiliaid strae neu anifeiliaid nas dymunir a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cadarnhau y bydd yr anghenion canlynol yn cael eu darparu i'r anifail strae neu'r anifail nas dymunir ar ôl ei ailgartrefu:
- gofod a adeiladau byw
- ymarfer corff
- cwmni
- bwyd a dŵr
- hyfforddiant
Asesu adwaith posibl anifeiliaid strae neu anifeiliaid nas dymunir i'r ffactorau canlynol yn yr amgylchedd cartref newydd:
- presenoldeb anifeiliaid eraill
presenoldeb pobl eraill (oedolion a phlant)
mynediad at ymarfer corff/hamdden
- gofod ac adeiladau byw
- gofal a chyflesuterau
- diogeledd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
* *
Gallai costau cynnal gynnwys:
- yswiriant
- bwyd
- ffioedd meddygol a gofal
- hyfforddiant
- ychwanegiadau
- addasiadau i ofod byw a cherbydau