Darparu a rheoli llety ar gyfer anifeiliaid
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu a rheoli’r llety ar gyfer anifeiliaid, p’un ai bod y llety yn un presennol, dros dro neu yn newydd, ac ar gyfer naill ai lletya yn ystod y dydd neu dros nos. Mae’n cynnwys y math o lety, hylendid a bioddiogelwch a monitro cyflwr yr anifeiliaid yn y llety.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon gadarnhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau diweddar, a bod eu gwaith o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’u profiad.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb dros ddarparu a rheoli llety anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- asesu risg posibl i iechyd a diogelwch wrth ddarparu a rheoli llety ar gyfer anifeiliaid
- monitro a chadarnhau bod mesurau hylendid a bioddiogelwch yn cael eu sefydlu a'u monitro, yn unol ag arferion sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- asesu'r ffordd y gellir darparu ar gyfer anghenion anifeiliaid tra'u bod o dan eich dyletswydd gofal
- darparu a rheoli llety perthnasol ar gyfer yr anifail a'i ofynion
- cadarnhau bod llety yn cael ei baratoi a'i fod yn lân ac wedi ei gynnal yn unol â gofynion yr anifail
- gwirio'r amodau amgylcheddol yn y llety a chadarnhau y gellir eu haddasu i gyd-fynd â gofynion yr anifeiliaid
gwirio bod cyfarpar diogelu personol (PPE) yn berthnasol ar gyfer y gweithgaredd
darparu'r ysgogiad, y gwmnïaeth â’r cyfoethogiad gofynnol i anifeiliaid lle y bo'n ymarferol
- sicrhau bod llety'n cael ei labelu'n gywir gyda manylion yr anifeiliaid a bod cofnodion yn cael eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- cyfyngu mynediad i'r llety yn unol â gofynion yr anifeiliaid a gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod anifeiliaid yn cael y gofal angenrheidiol yn unol â'u gofynion
monitro'r anifeiliaid a chymryd y camau gofynnol pan fydd unrhyw broblemau gyda llety neu gyda chwmnïaeth yn cael eu nodi
cynnal diogeledd yr anifeiliaid i'w diogelu rhag cael eu hanafu, eu dwyn neu rhag dianc
rheoli gwastraff yn unol â'r deddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- sut i nodi peryglon ac asesu risg i iechyd a diogelwch wrth ddarparu a rheoli llety ar gyfer anifeiliaid
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y ffordd y gall anghenion anifeiliaid o dan eich dyletswydd gofal gael eu hasesu a'u trin
sut i ddarparu a rheoli llety ar gyfer yr anifeiliaid yn eich gofal, a pha ffactorau y dylid eu hystyried
yr amodau amgylcheddol gofynnol ar gyfer yr anifeiliaid yn eich gofal â’r ffordd y gellir addasu'r rhain
sut i ddewis y dulliau glanhau â’r deunyddiau sydd yn ofynnol ar gyfer y llety, yr anifeiliaid a'u gofynion
y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn berthnasol ar gyfer y gweithgaredd
- y mesurau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trafod a storio sylweddau a allai fod yn niweidiol
- y weithdrefn sefydliadol ar gyfer unioni unrhyw niwed i lety
- sut i gynnal diogelwch a diogeledd llety'r anifail
- pwy sydd ag awdurdod i gael mynediad i lety'r anifail
sut a phryd y dylid monitro llety anifail, â’r ffordd y mae gofynion anifeiliaid yn dylanwadu ar fonitro o'r fath
mathau a lefelau gwahanol o ofal a ddarperir yn llety'r anifail
- yr ymddygiad sydd yn dangos y gall anifeiliaid fod yn cael problemau â’r camau i'w cymryd
- pwysigrwydd cael cymorth milfeddygol lle bo angen
- sut i leihau straen mewn anifeiliaid pan fyddant yn eu llety
- sut i drafod, storio a gwaredu mathau gwahanol o wastraff, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â darparu a rheoli llety ar gyfer anifeiliaid, a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- pwysigrwydd cadw cofnodion wrth olrhain cyswllt ar gyfer clefydau heintus, yn cynnwys clefydau hysbysadwy
Cwmpas/ystod
Darparu llety ar gyfer yr anifeiliaid yn eich gofal i gynnwys y gofynion canlynol:
rhywogaethau
brîd a/neu faint anifeiliaid/grwpiau cymdeithasol
- oed
- rhyw/statws atgenhedlu
- iechyd
- gofynion bwydo
- diben
- anifeiliaid eraill
- gofynion trafod ac ymarfer corff
- natur
- sarn
- cyfoethogi
- diogelwch
- diogeledd
- anghenion meddygol neu anghenion arbennig eraill
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Amodau amgylcheddol:
- golau
- tymheredd
- lleithder
- gwyntyllu
- sŵn
- dirgryniadau
- y tywydd
* *
Niwed i lety
- rhwyllau
- cloeon
- griliau
- drysau
- fframiau
- gwydr
- gosodiadau mewnol