Darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd. Mae'n cynnwys paratoi a darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid, yn unol â chyfarwyddiadau, ac adrodd am unrhyw newidiadau yn arferion bwydo neu yfed yr anifail wrth y person perthnasol.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch, hylendid a deddfwriaeth bresennol lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gwaith hwn.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer cynnal dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- gwneud eich gwaith o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a phawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, a lles yr anifail, yn ystod y gwaith
- defnyddio dulliau hylendid dwylo perthnasol cyn darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid
- paratoi a defnyddio cyfarpar, teclynnau, deunyddiau ac unrhyw gyfarpar diogelu personol (PPE) sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith, o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
- glanhau'r ardal baratoi, teclynnau a chyfarpar cyn ac ar ôl eu defnyddio
paratoi'r math a maint gofynnol o fwyd anifeiliaid, o dan oruchwyliaeth ac yn unol â'r cyfarwyddiadau, mewn ffordd sydd yn lleihau gwastraff
darparu'r math â’r maint gofynnol o fwyd i anifeiliaid gan y ddefnyddio dulliau a theclynnau perthnasol, o dan oruchwyliaeth ac yn unol â'r cyfarwyddiadau
- darparu'r maint gofynnol o ddŵr o'r ffynonellau â’r systemau cywir o dan oruchwyliaeth ac yn unol â'r cyfarwyddiadau
- rhoi cyfleoedd i anifeiliaid fynegi eu hymddygiad bwydo naturiol
- cynnal diogelwch a diogeledd yr anifeiliaid wrth ddarparu bwyd a dŵr
- adrodd am unrhyw newidiadau yn arferion bwydo ac yfed yr anifail wrth y person perthnasol
- gwaredu unrhyw fwyd anifeiliaid sydd yn hen neu'n anaddas ac unrhyw wastraff arall yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau, arferion sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
storio cyfarpar a theclynnau yn barod i'w defnyddio, yn ddiogel yn y lle gofynnol.
cadw'r cofnodion sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cwblhau'r gweithgaredd o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd y gweithle
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch wrth baratoi a darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid a sut gellir cynnal hyn
- y technegau hylendid dwylo gofynnol ar gyfer paratoi bwyd a dŵr ar gyfer anifeiliaid
- y cyfarpar â’r teclynnau a ddefnyddir wrth baratoi a darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid a sut cânt eu defnyddio
- sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r cyfarpar, teclynnau, deunyddiau a chyfarpar diogelu personol (PPE) sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith yn ddiogel
- y mathau o fwydydd sydd ar gael ar gyfer yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw a sut maent yn cael eu paratoi, yn cynnwys unrhyw ragofalon arbennig y dylid eu cymryd
- pwysigrwydd dilyn cynlluniau bwydo anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
- sut i sicrhau bod y maint cywir o fwyd yn cael ei baratoi ar gyfer pob anifail yn unol â'r cynlluniau bwydo
- deddfwriaeth berthnasol a chodau ymarfer cysylltiedig yn ymwneud â pharatoi bwyd ar gyfer anifeiliaid
- y dull cywir o ddarparu bwyd ar gyfer yr anifeiliaid perthnasol, o dan oruchwyliaeth ac yn unol â'r cyfarwyddiadau
- pam y dylid defnyddio'r ffynonellau cywir o ddŵr a systemau dŵr wrth ddarparu dŵr ar gyfer anifeiliaid o dan oruchwyliaeth ac yn unol â'r cyfarwyddiadau
- canlyniadau darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid sydd wedi ei baratoi'n anghywir
- sut i roi cyfleoedd i anifeiliaid fynegi eu hymddygiad bwydo naturiol
- sut i adnabod newidiadau yn arferion bwydo ac yfed yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw a phwysigrwydd adrodd am y newidiadau wrth y person perthnasol
- sut i gynnal eich diogelwch a'ch diogeledd eich hun â’r anifeiliaid wrth ddarparu bwyd a dŵr a pham y mae hyn yn bwysig
y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â'r mathau gwahanol o wastraff sydd yn cael ei gynhyrchu wrth ddarparu bwyd a dŵr i anifeiliaid.
y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth bresennol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Gallai'r mathau o fwyd gynnwys bwyd:
- ffres
- byw
- wedi rhewi
- sych
- bwyd gwlyb
- cyflawn
- ategol
Gallai cyfarpar gynnwys:
- cyfarpar ar gyfer paratoi bwyd
- cyfarpar ar gyfer gweini bwyd
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)