Cynllunio a rheoli symud anifeiliaid

URN: LANAnC29
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a rheoli symud anifeiliaid.  Efallai fydd angen i anifeiliaid gael eu symud am amrywiaeth o resymau fel eu symud i osgoi cystadleuaeth, ar gyfer bridio, gwerthu neu newid llety, yn ogystal ag ymateb i ddigwyddiadau heb eu cynllunio a achosir gan y tywydd neu sylw milfeddygol.

Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio, adnoddau, bioddiogelwch a diogelwch yr anifeiliaid yn ogystal â phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo. Bydd angen i chi gadarnhau bod y lleoliad y mae'r anifeiliaid yn symud iddo yn ddiogel, yn gadarn ac yn addas. Bydd angen monitro ac adolygu addasrwydd y symud hefyd, p'un ai ei fod wedi ei gynllunio neu heb ei gynllunio.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a sicrhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio a rheoli symud anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol o fewn cyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. cadarnhau bod y risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun, pawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, ac anifeiliaid sydd yn cael eu symud, yn cael eu nodi a'u lleihau
  4. cynllunio ar gyfer symud anifeiliaid, gan ystyried y rhesymau dros y symud
  5. asesu addasrwydd yr anifeiliaid i gael eu symud rhwng lleoliadau
  6. gwirio argaeledd lleoliad neu lety addas y gellir symud yr anifeiliaid iddo

  7. asesu'r lleoliad newydd i gadarnhau ei fod yn bodloni gofynion yr anifeiliaid

  8. dewis llwybr addas (cyflymaf, mwyaf diogel, mwyaf didrafferth) i'r lleoliad newydd
  9. dewis a gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch perthnasol a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal
  10. nodi'r dulliau perthnasol ar gyfer symud yr anifeiliaid â’r cyfarpar anghenrheidiol, yn cynnwys trafnidiaeth, sydd eu hangen
  11. cadarnhau argaeledd adnoddau, yn cynnwys staff, sydd yn ofynnol ar gyfer cwblhau symud anifeiliaid yn ddiogel
  12. cyfathrebu'r cynllun symud i bawb sydd yn gysylltiedig er mwyn sicrhau bod lles yr anifail yn cael ei gynnal a bod y risg i'r rheiny sydd wedi eu heffeithio yn cael eu lleihau
  13. paratoi a dilyn cynlluniau wrth gefn ar gyfer symud anifeiliaid, os oes angen
  14. rheoli symud anifeiliaid heb beryglu iechyd, diogelwch a lles yr anifail neu anifeiliaid eraill yn y cyffiniau
  15. cadarnhau bod anifeiliaid wedi eu sefydlu yn eu llety newydd ar ôl eu symud a bod gofynion yr anifeiliaid wedi cael eu bodloni
  16. monitro a rheoli'r gwaith o roi'r cynlluniau symud ar waith
  17. ymateb i resymau heb eu cynllunio ar gyfer symud anifeiliaid a monitro'r symud
  18. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio, fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​eich cyfrifoldebau proffesiynol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  3. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. sut i asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â symud anifeiliaid a sut i'w lleihau
  5. y rheswm dros symud yr anifeiliaid a sut gallai hyn effeithio ar y cynllun symud

  6. sut i asesu addasrwydd y lleoliad y bydd yr anifeiliaid yn cael eu symud iddo â’r ffactorau sydd yn effeithio ar y dewis o lwybr ar gyfer symud

  7. y dulliau sydd yn berthnasol ar gyfer rheoli symud anifeiliaid â’r cyfarpar gofynnol
  8. pwysigrwydd gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch cywir a sut gellir cyflawni'r rhain
  9. yr adnoddau sydd yn ofynnol, yn cynnwys staff, i reoli symud anifeiliaid
  10. y cymwyseddau staff sydd eu hangen ar gyfer rheoli symud anifeiliaid
  11. pwysigrwydd cyfathrebu'r cynllun symud i bawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, neu wedi eu heffeithio ganddo
  12. sut i asesu iechyd yr anifeiliaid i gael eu symud a sut gallai hyn effeithio ar eu symud â’r dull a ddefnyddir
  13. y mathau o gyflyrau corfforol ac ymddygiadol a allai effeithio ar symud anifeiliaid
  14. anghenion penodol yr anifail yr ydych yn ei symud, cyn, yn ystod ac ar ôl symud a sut i adnabod yr anghenion hyn trwy arsylwi newidiadau yn eu hymddygiad
  15. sut gall amodau amgylcheddol effeithio ar symud anifeiliaid yn ogystal â'r dull o symud
  16. sut gall symud effeithio ar iechyd a lles anifeiliaid
  17. yr ystod o ddulliau trafod ac atal sydd yn berthnasol i'r anifeiliaid sydd yn cael eu symud
  18. y dulliau gwahanol o adnabod a ddefnyddir ar gyfer anifeiliaid a pha ddulliau sydd yn berthnasol i'r anifail sydd yn cael ei symud
  19. y ffyrdd y gellir sefydlu anifeiliaid ar ôl eu symud â’r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni
  20. yr amgylchiadau a allai reoli'r angen i newid y cynllun symud; yn cynnwys amgylchiadau uniongyrchol ac yn yr hirdymor
  21. yr amgylchiadau a allai ei wneud yn ofynnol i symud anifeiliaid heb fod hynny wedi ei gynllunio
  22. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â chynllunio a rheoli symud anifeiliaid a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC33

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifeiliaid; cludo; symud; lleoliad