Darparu cymorth cyntaf i anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cymorth cyntaf i anifeiliaid sydd angen cymorth. Mae'n cynnwys eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a phobl eraill, asesu anifeiliaid, a thrafod, trin a chludo anifeiliaid yn ddiogel lle bo angen.
Cymorth cyntaf yw'r cymorth uniongyrchol a roddir ar adeg anaf neu salwch i atal y cyflwr rhag dirywio, lleddfu dioddefaint a phoen hyd nes y gellir cael cymorth milfeddygol. Yn y DU, yn unol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol, gall unrhyw un weinyddu cymorth cyntaf i anifail i achub bywyd neu leddfu poen neu ddioddefaint.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau diweddar, a'u bod yn gweithio o fewn cyfyngiadau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd angen darparu cymorth cyntaf i anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid, deddfwriaeth milfeddygol a meddyginiaethau a chodau ymarfer cysylltiedig
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- cynnal cynnwys pecyn cymorth cyntaf sydd yn addas ar gyfer yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw, yn cynnwys cyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- asesu eich cyfyngiadau eich hun i ddarparu cymorth cyntaf i anifail
cymhwyso nodau ac egwyddorion cymorth cyntaf i'r sefyllfa â’r anifail yr ydych yn ei wynebu
adnabod sefyllfa o argyfwng posibl
- asesu'r math o sefyllfa o argyfwng, gan nodi a yw'n un lle gallai bywyd fod yn y fantol, yn un sydd angen sylw ar unwaith neu'n fân argyfwng
- asesu'r risg cyn mynd at anifail sydd angen cymorth cyntaf
- mynd at yr anifail, ei drafod a'i atal mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal iechyd a diogelwch
- cynnal asesiad sylfaenol o'r anifail sydd angen cymorth cyntaf
- adnabod arwyddion gweledol cyflyrau a sefyllfaoedd cyffredin a darparu'r cymorth cyntaf ar gyfer yr anifail
monitro anifeiliaid ar ôl darparu cymorth cyntaf, fel sydd yn ofynnol gan yr anifail
cludo'r anifail i'r filfeddygfa, os oes angen cynnal iechyd a diogelwch yr anifail, eich iechyd a'ch diogelwch chi â’r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
- adnabod arwyddion straen, ofn, ymosodedd a phoen mewn anifeiliaid
- cadarnhau bod parhad gofal yr anifail yn cael ei gynnal trwy drosglwyddo'r anifail i berson perthnasol a rhoi manylion y cymorth cyntaf a roddwyd ac ymateb yr anifail
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, asesiadau risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- sut i sefydlu, defnyddio a chynnal pecyn cymorth cyntaf sydd yn addas ar gyfer yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw
- sut i asesu eich galluoedd a'ch cyfyngiadau eich hun i ddarparu cymorth cyntaf i anifeiliaid
- yr hyn a olygir gan y term "cymorth cyntaf", prif nodau ac amcanion cymorth cyntaf ar gyfer anifeiliaid a therfynau ei ddarpariaeth
- dosbarthiadau'r tri math o argyfwng: bywyd yn y fantol, angen sylw ar unwaith, neu fân argyfwng
- sut i adnabod sefyllfa o argyfwng a phwysigrwydd cael sylw milfeddygol a gwybod ble i ddod o hyd i filfeddygfeydd a'u manylion cyswllt
- sut i asesu peryglon darparu cymorth cyntaf i anifail
- sut i fynd at anifail wedi ei anafu, ei drafod a'i atal mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal iechyd a diogelwch
sut i gynnal asesiad sylfaenol o'r anifail sydd angen cymorth cyntaf
yr arwyddion gweledol ar gyfer ystod o sefyllfaoedd neu gyflyrau cyffredin yn y rhywogaeth o anifail yr ydych yn gweithio gydag ef â’r cymorth cyntaf sydd yn addas ar gyfer y rhain
- sut i fonitro'r anifail ar ôl gweinyddu cymorth cyntaf, fel sydd yn ofynnol gan yr anifail
- sut i sicrhau bod lles yr anifail yn cael ei gynnal yr holl amser ac nad yw eich gweithredoedd yn achosi adwaith niweidiol
- sut i symud a chludo anifeiliaid yn ddiogel ac yn gadarn
- y camau i'w cymryd pan fydd arwyddion o straen, ofn, ymosodedd a phoen yn cael eu canfod gyda'r anifail yr ydych yn gweithio gydag ef
- arwyddion cynnar newid mewn ymddygiad sydd yn gysylltiedig â salwch, a dangosyddion anaf neu boen, anesmwythdra, clefyd neu drallod
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- sut i gadarnhau parhad gofal ar gyfer yr anifail trwy drosglwyddo gofal i berson perthnasol â’r wybodaeth y dylid ei darparu ar eu cyfer
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â darparu cymorth cyntaf i anifeiliaid a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- y risg milheintiol wrth weithio gydag anifeiliaid
- eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol wrth ddarparu cymorth cyntaf i anifeiliaid
- gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol mewn perthynas â darparu cymorth cyntaf i anifeiliaid
Cwmpas/ystod
Cynnal yr asesiad sylfaenol canlynol o'r anifail sydd angen cymorth cyntaf:
- ymddygiad
- gwirio a chlirio a chynnal llwybr anadlu yr anifail
- gwirio'r anadlu
- gwirio cylchrediad y gwaed
- rheoli gwaedlif
- yr angen am sylw neu gyngor milfeddygol
Monitro'r canlynol mewn anifeiliaid ar ôl derbyn cymorth cyntaf:
- yr angen am sylw neu gyngor milfeddygol
- ymddygiad
- tymheredd
- pwls
- anadlu
- lliw pilenni gludiog
- ystum
- gallu i sefyll a symud
- cynhyrchiant troeth a charthion
- hydradu
- syched ac archwaeth am fwyd
- lefel ymwybyddiaeth
- chwyddo neu afliwiad anarferol
- gwaedu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
- Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
* *
Person perthnasol:
- llawfeddyg milfeddygol
perchennog/ceidwad
cydweithiwr
Arwyddion gweledol o gyflyrau a sefyllfaoedd cyffredin:
- asffycsia/mygu
- brathiadau
- llosgiadau
- syrthiad
- confylsiynau/ffitiau
- boddi
- dystocia
trydaniad
anafiadau i'r llygaid
- toresgyrn
- cwlwm perfedd ymlediad gastrig neu bolio
- gwaedlif
- hyperthermia/trawiad gwres
- hypothermia
- clefyd pryfed/trawiad pryfed
- gwenwyno
- sioc
- pigiadau
- anymwybyddiaeth
- clwyfau
* *
Mae'r ffactorau sydd yn effeithio ar gludo anifeiliaid yn cynnwys*:*
- dull
- ataliaeth
- gwahanu, os yn cludo anifeiliaid lluosog
- hylendid a bioddiogelwch
- gwyntyllu a rheoli gwres
- monitro straen