Darparu gwybodaeth i unigolion, grwpiau neu gymunedau ynghylch sut i hybu iechyd a lles anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwybodaeth i unigolion, grwpiau neu gymunedau ynghylch sut i hybu iechyd a lles anifeiliaid. Gallai hyn gynnwys dod o hyd i wybodaeth i'w darparu a'i chyflwyno mewn ffordd sydd yn berthnasol i'ch cynulleidfa.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon gadarnhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu deddfwriaeth ddiweddar, polisïau'r diwydiant a deddfwriaeth berthnasol. Mae'n rhaid iddynt weithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.
Mae'r safon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn gweithio gydag anifeiliaid sydd yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i unigolion, grwpiau neu gymunedau ynghylch sut i hybu iechyd a lles anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
cydymffurfio â deddfwriaethau perthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- canfod a darparu gwybodaeth am hybu iechyd a lles anifeiliaid sydd yn berthnasol i'r gynulleidfa
- canfod a darparu gwybodaeth sydd yn cyd-fynd a pholisi'r sefydliad ar hybu iechyd
- darparu'r deunyddiau perthnasol sydd yn hybu iechyd a lles anifeiliaid
- rhoi cyngor am hybu iechyd a lles anifeiliaid mewn ffordd sydd yn berthnasol i'r unigolyn, y grŵp neu'r gymuned yr ydych yn eu cynghori
- rhoi cyngor ynghylch y ffordd y gellir lleihau risg i iechyd a lles anifeiliaid
- rhoi cyfle i unigolion, grwpiau neu gymunedau drafod a chael eglurhad am unrhyw gyngor a roddir
- cydnabod y terfynau o fewn eich maes cyfrifoldeb yn unol â gofynion y Ddeddf Llawfedygon Milfeddygol a chael cyngor gan weithwyr proffesiynol eraill lle bo angen
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol â'r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- pwysigrwydd darparu dyletswydd gofal ar gyfer anifeiliaid â’r ffordd y gellir mynd i'r afael â'u hanghenion
- y ffyrdd gwahanol y gellir cynnal iechyd a lles anifeiliaid
- y ffordd y gall lles anifeiliaid amrywio mewn cyd-destun gwahanol a rôl gweithwyr anifeiliaid proffesiynol wrth ymgysylltu ag unigolion, grwpiau neu gymunedau
- y gofynion gofal cyffredinol ar gyfer anifeiliaid penodol, yn cynnwys eu maeth, llety, ac anghenion ymarfer corff
- ble i ganfod gwybodaeth am hybu iechyd a lles anifeiliaid a sut i bennu gwerth y wybodaeth hon i unigolion, grwpiau neu gymunedau
- y cyfyngiadau o fewn eich maes cyfrifoldeb a ble i gael cyngor
- y problemau â’r atebolrwydd a allai godi, i chi â'r sefydliad, os bydd y wybodaeth anghywir yn cael ei darparu
- y deunyddiau perthnasol i'w defnyddio i ddarparu gwybodaeth â’r dulliau gwahanol sydd ar gael i ymgysylltu â'r gynulleidfa a sut i sicrhau bod y wybodaeth yn bodloni anghenion eich cynulleidfa
- sut i sicrhau bod y wybodaeth honno wedi cael ei deall a sut i ddarparu cyfleoedd ar gyfer eglurhad
- sut i ymgysylltu â chynulleidfaoedd gwahanol a sut i'w cyrraedd
- sut i adnabod patrymau ymddygiad arferol a newidiadau mewn ymddygiad anifeiliaid
- arwyddion cynnar newidiadau mewn ymddygiad sydd yn gysylltiedig ag ofn, ymosodedd, straen, poen a salwch
- buddion rheoli poblogaethau o anifeiliaid strae a heb berchennog trwy ysbaddu a sut i hybu hyn ymysg unigolion, grwpiau neu gymunedau
- y gwahaniaeth rhwng strategaethau hybu iechyd a lleihau risg wrth gynnal iechyd a lles anifeiliaid a pham y mae angen y ddau
- y mathau o wybodaeth a chofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
* *
Ffynonellau gwybodaeth:
- sefydliadau
- cyhoeddiadau, gwefannau
- deddfwriaeth
- y cyfryngau cymdeithasol
- codau ymarfer
- papurau gwyddonol/cynnyrch ymchwil
- codau ymarfer diwydiant/Llywodraeth
- cyhoeddiadau diwydiant/Llywodraeth/cyrff lles anifeiliaid
- cyngor milfeddygol
* *
Strategaeth Lleihau Risg
Strategaeth ar gyfer lleihau risg i iechyd pobl ac anifeiliaid