Gofalu am anifeiliaid mewn amgylchedd manwerthu

URN: LANAnC26
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gofalu am anifeiliaid mewn amgylchedd manwerthu.

Mae angen trwydded ar bob eiddo manwerthu sydd yn cynnig anifeiliaid i gael eu gwerthu.  Mae'r drwydded yn nodi nifer â'r math o anifeiliaid y gellir eu cadw. Mae' rhaid i ddeiliad y drwydded allu dangos bod hyfforddiant staff perthnasol yn cael ei gynnal a bod y staff yn gymwys.  Bydd y drwydded yn datgan bod angen i staff wedi eu hyfforddi fod ar gael i ofalu am yr anifeiliaid ac ni ddylid cadw na gwerthu unrhyw anifail oni bai bod o leiaf un aelod o'r staff sydd ar gael yn gyfarwydd â'i ofal a'i les.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer staff sydd yn gweithio mewn amgylchedd manwerthu anifeiliaid sydd wedi cael hyfforddiant perthnasol yn gofalu am anifeiliaid mewn amgylchedd manwerthu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyddorddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol cysylltiedig, yn cynnwys gweithdrefnau tân ac argyfyngau eraill

  3. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. asesu sut i ddarparu ar gyfer anghenion lles yr anifeiliaid yn eich gofal
  5. sicrhau bod yr anifeiliaid sydd yn dod i mewn i'r amgylchedd manwerthu, ac eithrio pysgod, yn cael eu rhoi mewn cwarantîn
  6. darparu llety sydd yn berthnasol i'r anifail yn cynnwys lle ar gyfer cysgu, lle i symud o gwmpas yn rhydd ac arddangos ymddygiad arferol, a rhywle i guddio os oes angen
  7. sicrhau bod y llety yn ddiogel, yn gadarn ac wedi ei ddiogelu (e.e. rhag drafftiau, yr haul, y tywydd, ysglyfaethwyr, amharu)
  8. sicrhau bod y llety'n cael ei lanhau, ei gynnal a'i gadw a'i atgyweirio yn rheolaidd lle bo angen
  9. darparu cyfoethogiad fel sy'n ofynnol ar gyfer y rhywogaeth o anifail, yn cynnwys rhyngweithio gyda bodau dynol os yw hyn yn addas
  10. darparu'r amodau amgylcheddol gofynnol ar gyfer y rhywogaeth o anifail a sicrhau bod yr amodau yn cael eu monitro
  11. sicrhau bod anifeiliaid yn cael y meintiau gofynnol o fwyd a diod, sydd yn berthnasol i'w hanghenion, ar adegau addas
  12. mynd at yr anifail, ei drafod a'i atal mewn ffordd sydd yn addas ar gyfer y rhywogaeth, sydd yn hybu lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac sydd yn cynnal iechyd a diogelwch
  13. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, er mwyn sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu diogelu rhag achosion neu lledaeniad clefydau
  14. monitro iechyd a lles yr anifeiliaid yn rheolaidd a chymryd y camau gofynnol mewn achosion o salwch neu anaf
  15. gofalu am anifeiliaid sydd yn cael eu trin am salwch neu anaf
  16. cadarnhau bod yr holl anifeiliaid sydd yn cael eu rhoi ar werth yn yr amgylchedd manwerthu mewn iechyd da
  17. sicrhau, pan fydd anifail wedi cael ei werthu, ei fod yn cael ei roi i'r prynwr mewn cynhwysydd sydd yn addas ar gyfer ei gludo

  18. rhoi cyfarwyddiadau gofal a lles ysgrifenedig i'r prynwr sydd yn addas ar gyfer yr anifail, ynghyd â chyngor a gwybodaeth berthnasol

  19. cadarnhau bod y prynwr sydd yn prynu'r anifail dros 16 oed
  20. ymdrin â gwastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
  21. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. y mathau o anifeiliaid y gellir eu cadw yn unol â thelerau trwydded y manwerthwr

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol
  4. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol, yn cynnwys tân a gweithrefnau brys eraill, yn arbennig y trefniadau ar gyfer gwacáu anifeiliaid
  5. y ffordd y gellir asesu a mynd i'r afael ag anghenion lles yr anifeiliaid yn eich gofal
  6. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymdrin ag anifeiliaid sydd yn dod i mewn i'r amgylchedd manwerthu a phwysigrwydd cwarantîn
  7. y gweithdrefnau cwarantîn gofynnol ar gyfer y rhywogaeth o anifail yr ydych yn ei gadw yn yr amgylchedd manwerthu
  8. y gofynion llety ar gyfer rhywogaethau gwahanol o anifeiliaid yr ydych yn eu cadw, yn cynnwys maint, deunyddiau adeiladu i'w defnyddio, dwysedd stoc a gofynion wrth letya anifeiliaid gyda'i gilydd
  9. y gofynion ar gyfer glanhau, cynnal a chadw ac atgyweirio'r llety
  10. y cyfoethogi amgylcheddol sydd yn berthnasol i ofal y rhywogaeth o anifail, yn cynnwys pryd mae rhyngweithio gyda bodau dynol yn addas
  11. yr amodau amgylcheddol sydd yn ofynnol gan rywogaethau gwahanol o anifeiliaid, a phwysigrwydd awyru
  12. pwysigrwydd cynllun wrth gefn addas ar gyfer systemau gwresogi, awyru, gwyntyllu neu hidlo hanfodol
  13. math, maint, amlder, cyflwyniad a storio bwyd a dŵr ar gyfer yr anifeiliaid yn eich gofal
  14. sut i fynt at, trafod ac atal rhywogaethau gwahanol o anifeiliaid mewn ffordd sydd yn hybu lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
  15. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  16. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn cynnwys anifeiliaid marw
  17. pwysigrwydd monitro anifeiliaid, pa mor aml y dylid gwneud hyn, yr arwyddion a allai ddangos salwch neu anaf a phryd i gael cyngor gan lawfeddyg milfeddygol y manwerthwr
  18. beth i'w wneud gydag anifeiliaid sydd yn cael triniaeth filfeddygol e.e. ynysu, trin, ewthenasia
  19. y gofynion brechu ar gyfer rhywogaethau gwahanol o anifail ac amseriad y brechlynnau
  20. y cyflyrau fyddai'n atal anifail rhag cael ei roi ar werth mewn amgylchedd manwerthu
  21. pa gynwysyddion sydd yn addas i brynwyr eu defnyddio i gludo anifeiliaid gartref yn ddiogel ac yn gadarn
  22. y wybodaeth berthnasol am ofal a lles anifeiliaid y dylech ei rhoi i'r prynwr
  23. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â gofal anifeiliaid mewn amgylchedd manwerthu, a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth a pholisi sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Diffinnir Anifeiliaid fel unrhyw anifail ag asgwrn cefn; mae anifeiliaid di-asgwrn-cefn wedi eu heithrio o'r rheoliadau.

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  1. Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  2. Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  3. Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
  4. Deddf Anifeiliaid Anwes
  5. Deddf Llawfeddygon Milfeddygol

Mae amodau amgylcheddol yn cynnwys:

  1. tymheredd
  2. lleithder
  3. goleuo
  4. awyru

  5. sŵn

  6. dirgrynnu
  7. arogl

Gallai gwybodaeth y dylid ei rhoi i'r prynwr gynnwys:

  1. sut i gludo'r anifail gartref
  2. anghenion lles sydd yn benodol i'r anifail hwnnw
  3. gofal cywir yr anifail yn cynnwys:
  4. bwydo
  5. lletya
  6. trafod
  7. hwsmonaeth
  8. ychwanegiadau
  9. gofal milfeddygol

  10. y cofnod o frechlynnau

  11. gwybodaeth am unrhyw gyflyrau hysbys

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC30

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifeiliaid anwes; manwerthu; anifeiliaid; gwerthu