Sychu côt ci yn barod i gyflawni’r steil â'r caboliad gofynnol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sychu côt a chroen ci yn barod i gyflawni'r steil â'r caboliad gofynnol gan ddefnyddio'r offer, y cyfarpar â'r cynnyrch gofynnol.
Mae'n cynnwys technegau trafod addas a diogel, nodi mathau o gotiau ac adnabod arwyddion o annormaleddau.
Eich cyfrifoldeb chi yw monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun, y ci a phawb sydd yn cael eu heffeithio gan eich gwaith.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn sychu cotiau cŵn yn barod i gyflawni'r steil â'r caboliad gofynnol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
gwneud y gweithgaredd yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisïau sefydliadol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
- sicrhau bod yr ardal ar gyfer sychu côt ci yn ddiogel, yn gadarn, yn lân ac yn barod i'w defnyddio
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r offer â'r cyfarpar yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau sefydliadol
dewis, gwisgo a chynnal a chadw dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
arsylwi ac adnabod ymddygiad y ci a'i gofnodi, fel y bo angen
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a chael cyngor proffesiynol lle bo angen
- trosglwyddo cŵn i'r ardal sychu a'u sicrhau mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal iechyd, lles a diogelwch pawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
sychu côt y ci gan ddefnyddio cyfarpar sychu ac offer llaw sydd yn addas ar gyfer y ci, math a chyflwr ei gôt â'r steil y mae angen ei gyflawni
sefydlu'r tymheredd â'r cyflymder sychu cywir a monitro cyflwr côt a chroen y ci yn ystod y broses sychu er mwyn sicrhau nad yw'n gorgynhesu
- monitro'r ci wrth ei sychu er mwyn gwybod pan fydd y tymheredd, y cyflymder neu'r dechneg sychu yn achosi trallod i'r ci a chymryd y camau gofynnol
- brwsio'r gôt wrth ei sychu er mwyn cael caboliad gofynnol y steil yr ydych yn ceisio ei gyflawni
- edrych ar y gôt i gadarnhau ei bod yn gwbl sych ac yn rhydd rhag clymau a drysni
- gwybod pan fydd arsylwi'r ci yn datgelu pla posibl neu gyflwr anarferol ac adrodd am hyn wrth y person perthnasol
- trosglwyddo'r ci i'r ardal gywir ar gyfer y weithdrefn nesaf a chadarnau ei fod yn ddiogel ac wedi ei ddal yn gadarn
- glanhau, sterileiddio a storio'r offer â'r cyfarpar a ddefnyddiwyd, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau eich sefydliad ac adrodd am unrhyw namau wrth y person perthnasol
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol fel ysgrafellwr cŵn a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
pwysigrwydd cwblhau'r gweithgaredd yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisïau sefydliadol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, yr asesiad risg, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn er mwyn sicrhau bod gofynion y ci yn cael eu bodloni
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
y mathau o offer a chyfarpar sydd yn ofynnol ar gyfer sychu côt ci a sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal y rhain, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau eich sefydliad
pwysigrwydd gwneud gwaith fel y cytunwyd gan y cleient
- sut i gynnal asesiad gweledol o iaith corff y ci cyn ei drafod ac adrodd am unrhyw broblemau wrth y person perthnasol
- sut i fynd at gŵn, eu trafod a'u hatal mewn ffordd sydd yn cynnal lles anifeiliaid, sydd yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
- y dulliau diogel o drosglwyddo cŵn i'r ardal sychu
- mathau a nodweddion cotiau'r cŵn yr ydych yn gweithio gyda nhw
- sut mae math a chyflwr y gôt â'r croen yn effeithio ar y technegau sychu â'r cyfarpar y gellir eu defnyddio
- sut mae'r steil i'w gyflawni yn effeithio ar y technegau sychu â'r cyfarpar y gellir eu defnyddio
- y mathau gwahanol o gyfarpar sychu â'r technegau sydd ar gael, eu dibenion a pha fathau o gŵn a chotiau y maent yn fwyaf addas ar eu cyfer er mwyn cyflawni'r caboliad gofynnol
- tymheredd a chyflymder sychu cywir y cyfarpar sychu, sut i addasu'r cyfarpar a pheryglon posibl gorgynhesu'r ci a'i groen
- risg mathau gwahanol o gyfarpar a thechnegau sychu i'r ci a sut i fonitro'r ci yn ystod y broses hon
- arwyddion trallod mewn cŵn â'r camau y dylid eu cymryd pan fydd y rhain yn cael eu harsylwi
- sut i wybod pryd bydd cotiau yn gwbl sych a chanlyniadau posibl peidio â sychu ci yn iawn
- beth yw straen gwres a llosgiadau brwsh, eu harwyddion a'u hachosion a sut i'w hatal rhag digwydd
- sut i ddarparu llety addas rhwng y cyfnodau ysgrafellu
- sut i wirio, glanhau, sterileiddio a storio'r offer â'r cyfarpar, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi eich sefydliad
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas ag ysgrafellu cŵn a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Sychu'r mathau canlynol o gotiau i gyflawni'r steil â'r caboliad gofynnol
- gwlân
- weiar
sidan
dwbl – hir a byr
- llyfn
Defnyddio'r cyfarpar sychu canlynol i sychu côt y ci:
- cwpwrdd
sychwr cyflym
sychwr chwythu
Sychu côt ci i gyflawni'r steiliau canlynol:
- wedi ei docio
- wedi ei dorri â siswrn
wedi ei rannu
naturiol
Cynnal yr arsylwadau canlynol o'r ci:
- traed, ewinedd a phadiau
- cyflwr y clustiau
- ceg, dannedd a deintgig
- croen a chôt
- parasitiaid mewnol ac allanol
- llygaid
- ardal yr organau cenhedlu â'r ardal dethol
- chwarennau rhefrol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
- Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
Gallai Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a dillad gynnwys:
- menig
- ffedog