Golchi a glanhau côt a chroen ci
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â golchi a glanhau côt a chroen ci gan ddefnyddio'r cynnyrch cywir ar gyfer y math o gôt.
Mae'n cynnwys defnyddio technegau trafod addas a diogel, adnabod mathau o gotiau ac adnabod arwyddion o annormaleddau a phlâu o barasitiaid.
Eich cyfrifoldeb chi yw monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi, y ci a phawb sydd yn cael eu heffeithio gan eich gwaith.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn golchi ac yn glanhau côt a chroen ci.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, y gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
- sicrhau bod yr ardal lle mae cotiau cŵn yn cael eu golchi a'u glanhau yn ddiogel, yn gadarn, yn lân ac yn barod i'w defnyddio
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a glanhau offer a chyfarpar yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau eich sefydliad
- dewis, gwisgo a chynnal a chadw dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- dewis cynnyrch glanhau sydd yn addas ar gyfer math a chyflwr côt y ci a dewisiadau'r cleient, yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle
- gwanhau cynnyrch glanhau yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd
- arsylwi ac adnabod ymddygiad y ci a'i gofnodi lle bo angen
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- trafod ac atal y ci mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
- trosglwyddo'r ci i'r bath a'i gadw mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal iechyd, lles a diogelwch pawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- golchi'r ci yn unol â pholisïau eich sefydliad a chyfarwyddiadau cynhyrchydd y cynnyrch
- defnyddio dŵr ar y tymheredd a chyfradd llif dŵr cywir
- glanhau'r gôt â'r croen mewn ffordd sydd yn lleihau trallod i'r ci
- tynnu baw a thameidiau rhwng bysedd traed a phadiau'r cŵn
- cymryd y camau unioni gofynnol ar unwaith os bydd y cynnyrch glanhau yn mynd i mewn i lygaid, ceg neu glustiau'r ci
- golchi'r holl weddillion o gôt a chroen y ci lle bo angen
cael gwared ar ddŵr dros ben o gôt y ci cyn sychu gan ddefnyddio dulliau addas
gwybod pan mae arsylwi'r ci yn datgelu pla posibl neu gyflwr anarferol ac adrodd am hyn wrth y person perthnasol
- trosglwyddo'r ci i'r ardal gywir ar gyfer y weithdrefn nesaf a chadarnhau ei fod yn ddiogel ac yn gadarn
- glanhau, sterileiddio a storio'r offer â'r cyfarpar a ddefnyddiwyd yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau eich sefydliad
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol fel ysgrafellwr cŵn a chyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, asesiadau risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, â'r ffordd orau o wneud hyn, er mwyn sicrhau bod gofynion y ci yn cael eu bodloni
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y mathau o offer a chyfarpar sydd yn ofynnol ar gyfer golchi a glanhau côt a chroen ci a sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau eich sefydliad
y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
pam y mae'n bwysig arsylwi ac asesu iaith corff y ci cyn dechrau'r gwaith â'r arwyddion i chwilio amdanynt
- ble i gael cyngor ac arweiniad yn ymwneud â golchi a glanhau côt a chroen ci
- mathau a nodweddion cotiau'r cŵn yr ydych yn gweithio gyda nhw â'r ffordd y mae cyflwr y gôt â'r croen yn effeithio ar y cynnyrch glanhau y dylid eu defnyddio
- y mathau gwahanol o gynnyrch glanhau sydd ar gael, sut maent yn gweithio â'r mathau o gôt a chyflyrau y maent yn addas ar eu cyfer
- sut i fynd at yr anifail, ei drafod a'i atal mewn ffordd sydd yn cynnal lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
y dulliau diogel o drosglwyddo cŵn i mewn i'r bath a'u dal yn ddiogel
pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r cynhyrchydd yn ymwneud â gwanhau cynnyrch glanhau, sut i ddehongli'r cyfarwyddiadau hyn, a chanlyniadau posibl peidio â gwneud hynny
- pam y mae'n bwysig cael awdurdodiad gan y cleient neu uwch gydweithiwr cyn defnyddio cynnyrch atal parasitiaid, o fewn terfynau rheoliad meddyginiaeth filfeddygol
- y drefn ymolchi ofynnol a gofynion tymheredd dŵr ar gyfer y ci yr ydych yn gweithio gydag ef
- pwysigrwydd atal toddiadau rhag mynd i mewn i lygaid, ceg a chlustiau'r ci a pham y mae'n bwysig bod y cleient yn cael ei hysbysu os bydd hyn yn digwydd
- arwyddion trallod mewn cŵn â'r camau y dylid eu cymryd os bydd y rhain yn cael eu harsylwi
- sut i sicrhau bod yr holl weddillion wedi cael eu golchi o gôt a chroen y ci oni bai bod cyfarwyddiadau'r cynhyrchwyr yn nodi nad yw hyn yn angenrheidiol
- y dulliau o gael gwared ar ddŵr dros ben o gôt y ci cyn sychu a pham y mae'n bwysig gwneud hyn
- sut i lanhau, sterileiddio a storio offer a chyfarpar yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau eich sefydliad
- pwysigrwydd darparu llety addas rhwng cyfnodau gwahanol o waith ysgrafellu
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â golchi ac ysgrafellu côt a chroen ci a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Golchi a glanhau'r mathau canlynol o gôt ci:
- gwlân
- weiar
- sidan
- dwbl – hir a byr
- llyfn
defnyddio'r mathau canlynol o gynnyrch:
- siampŵau arferol
- siampŵau parasitig
- siampŵau wedi eu rhagnodi gan filfeddyg
- cyflyrwyr
- chwistrellau cyflyru
Cynnal yr arsylwadau canlynol o'r ci:
traed, ewinedd a phadiau
cyflwr y clustiau
- ceg, dannedd a deintgig
- croen a chôt
- parasitiaid mewnol ac allanol
- llygaid
- ardal yr organau cenhedlu â'r ardal dethol
- chwarennau rhefrol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
- Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
Gallai cyfarpar a dillad diogelu gynnwys:
- menig
- ffedog
Dulliau o gael gwared ar ddŵr dros ben:
- llieiniau amsugnol
- tywelion
- sychwr cyflym