Paratoi côt ci yn barod ar gyfer ei olchi neu ei ysgrafellu

URN: LANAnC23
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud a pharatoi côt ci yn barod ar gyfer ei olchi neu ei ysgrafellu.  Bydd hyn yn cynnwys tynnu blew ychwanegol, clymau a drysni gan ddefnyddio technegau a chyfarpar addas.

Mae'n cynnwys defnyddio technegau ymdrin perthnasol a diogel, adnabod mathau o gotiau ac adnabod arwyddion o blâu parasitiaid neu annormaleddau eraill.

Eich cyfrifoldeb chi yw monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun, y ci a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid.

Lle bo angen, cadarnhau bod y penderfyniad i dorri côt y ci yn unol â pholisïau'r gweithle.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn paratoi côt ci yn barod ar gyfer ei olchi neu ei ysgrafellu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad eich hun

  2. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, y gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. asesu'r ffordd y byddwch yn darparu anghenion lles gofynnol y ci o dan eich dyletswydd gofal a chytuno ar y gwaith gyda'r cleient
  5. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
  6. sicrhau bod yr ardal waith lle byddwch yn paratoi côt y cŵn yn ddiogel, yn gadarn, yn lân ac yn barod i'w defnyddio
  7. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer ar gyfer paratoi côt ci yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau eich sefydliad
  8. dewis, gwisgo a chynnal a chadw dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  9. arsylwi ac adnabod ymddygiad y ci sydd yn cael ei baratoi ar gyfer ei olchi neu ei ysgrafellu a chofnodi hyn lle bo angen
  10. trafod ac atal y ci mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal iechyd, lles a diogelwch y ci a phawb sydd yn gysylltiedig
  11. sganio'r ci sydd yn cael ei baratoi ar gyfer ei olchi neu ei ysgrafellu i chwilio am ficrosglodyn, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer cysylltiedig
  12. paratoi côt y ci yn barod ar gyfer ei olchi neu ei ysgrafellu gan ddefnyddio technegau ac offer sydd yn addas ar gyfer math o gôt ci a'i gyflwr ac ar gyfer yr arddull i'w gyflawni, gan leihau anesmwythdra a thrallod yr holl amser
  13. cael cyngor os oes gan gôt y ci glymau sylweddol
  14. gwybod pan mae arsylwi'r ci yn datgelu plâu posibl neu gyflwr anarferol ac adrodd am hyn wrth y person perthnasol
  15. lle bo angen, torri ewinedd y ci gan ddefnyddio cyfarpar addas gan ofalu osgoi'r byw ac achosi unrhyw boen neu waedu
  16. trosglwyddo'r ci i'r ardal gywir ar gyfer y weithdrefn nesaf a chadarnhau ei fod yn ddiogel ac yn gadarn
  17. ymdrin â gwastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
  18. glanhau, sterileiddio a storio'r offer a ddefnyddir yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd, a pholisïau eich sefydliad, ac adrodd am unrhyw namau wrth y person perthnasol
  19. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol fel ysgrafellwr cŵn a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. pwysigrwydd gwirio cofnodion yr anifail a chwblhau'r gweithgaredd yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, a pholisïau'r sefydliad, â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  5. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn, er mwyn sicrhau bod anghenion y cŵn yn cael eu bodloni
  6. sut i asesu a mynd i'r afael ag anghenion lles y ci o dan eich dyletswydd gofal
  7. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â'rdulliau ar gyfer cyflawni hyn
  8. y mathau o offer sydd yn ofynnol ar gyfer paratoi côt ci ar gyfer ei olchi neu ei ysgrafellu, a sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw gan ddilyn y ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau sefydliadol
  9. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  10. pwysigrwydd gwneud y gwaith fel y cytunwyd gyda'r cleient
  11. pam y mae'n bwysig arsylwi ac asesu iaith corff y ci cyn dechrau gwaith a pha arwyddion i edrych amdanynt
  12. mathau a nodweddion cotiau'r cŵn yr ydych yn gweithio gyda nhw
  13. sut i fynd at gŵn, eu trafod a'u hatal mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal iechyd, lles a diogelwch y ci a phawb sydd yn gysylltiedig
  14. y dulliau gwahanol o baratoi cotiau sydd yn addas ar gyfer y ci yr ydych yn gweithio gydag ef, fel golchi cyn tocio neu dynnu'r gôt cyn golchi
  15. pam y gall math ac arddull y gôt i gael ei chyflawni effeithio ar y dulliau â'r technegau a ddefnyddir ar gyfer paratoi cotiau a'r offer y dylid eu defnyddio
  16. sut i ysgrafellu côt, gan dynnu clymau, drysni a blew marw heb achosi anaf neu drallod i'r ci
  17. arwyddion trallod mewn ci â'r camau y dylid eu cymryd pan welir y rhain

  18. sut mae llosgiadau ffrithiant yn digwydd a sut gellir eu hosgoi

  19. anatomeg a ffisioleg ci er mwyn trafod a gweithio gyda'r ci yn ddiogel
  20. pwysigrwydd cynnal gwiriad iechyd gan adnabod arwyddion annormalrwydd neu blâu o barasitiaid gyda'r ci â'r camau i'w cymryd os bydd y rhain yn cael eu canfod
  21. sut i wybod pryd bydd angen torri ewinedd ci a sut i wneud hyn yn ofalus, gan osgoi anaf neu boen i'r ci
  22. sut i drafod, storio a gwaredu'r mathau gwahanol o wastraff yn unol â'r arferion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol

  23. sut i wirio, glanhau, sterileiddio a storio offer ar gyfer paratoi cotiau cŵn yn unol â'r ddeddfwriaeth berthasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau eich sefydliad

  24. pwysigrwydd darparu llety addas ar gyfer cŵn rhwng cyfnodau ysgrafellu
  25. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â pharatoi côt ci a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac ymarfer sefydliadol

Cwmpas/ystod

Paratoi'r mathau canlynol o gôt ci:

  1. gwlan

  2. weiar

  3. sidan
  4. dwbl – hir a byr
  5. llyfn

Defnyddio'r offer canlynol i dynnu clymau, drysni a blew marw o gôt y cŵn:

  1. crib a brwsh
  2. offer dad-ddrysu

Cynnal yr arsylwadau canlynol o'r ci:

  1. traed, ewinedd a phadiau
  2. cyflwr y clustiau
  3. ceg, dannedd a deintgig
  4. croen a chôt
  5. parasitiaid mewnol ac allanol
  6. llygaid
  7. ardal yr organau cenhedlu â'r ardal dethol

  8. chwarennau rhefrol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
  • Deddf Llawfeddygon Milfeddygol

Gallai cyfarpar a dillad diogelu gynnwys:

  • menig
  • ffedog

Mae Person Perthnasol yn cynnwys:

  • perchennog
  • milfeddyg
  • rheolwr
  • goruchwyliwr

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAC8.1

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

cŵn; tocio; ysgrafellu