Gofalu am epil ac anifeiliaid ifanc
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gofalu am epil ac anifeiliaid ifanc. Gall hyn fod o ganlyniad i fridio neu trwy brynu neu gyflwyno anifeiliaid ifanc. Bydd disgwyl i chi fonitro ymddygiad, ystum, symudiad ac ymddygiad yr anifeiliaid, a hybu eu hiechyd a'u lles trwy ddeiet, amodau byw a gofal cyffredinol.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'n rhaid i chi gynnal iechyd a lles yr anifeiliaid ac adnabod unrhyw broblemau iechyd.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn gofalu am epil neu anifeiliaid ifanc.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
gwneud eich gwaith yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r gweithle
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth arall yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
dewis, gwisgo a chynnal a chadw dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
- asesu anghenion gofal a lles yr epil ac anifeiliaid ifanc o dan eich dyletswydd gofal
- monitro iechyd a chyflwr y fam a'i hepil ar ôl yr enedigaeth a chymryd y camau gofynnol i gynnal eu hiechyd a'u lles
- cymryd y camau gofynnol heb oedi pan fydd unrhyw broblemau gydag iechyd yr epil, anifeiliaid ifanc neu'r fam a chael cyngor proffesiynol lle bo angen
- pan fydd angen, darparu magwraeth artiffisial sydd yn addas i'r epil neu'r anifail ifanc a'i gyflwr
- arsylwi ac adnabod ymddygiad yr epil neu'r anifail ifanc a chofnodi unrhyw bryderon iechyd a lles lle bo angen
rhyngweithio gyda'r epil neu'r anifail ifanc mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn caniatáu arsylwi i gael ei wneud yn ddiogel
ymdrin â gwastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich awdurdod proffesiynol a chyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant a'ch profiad
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid, a deddfwriaeth arall yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd gofalu am epil ac anifeiliaid ifanc yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisi sefydliadol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
sut i asesu anghenion lles yr epil â'r anifeiliaid ifanc yr ydych yn gofalu amdanynt
pwysigrwydd darparu amodau amgylcheddol addas ar gyfer y fam a'i hepil
- y ffactorau sydd yn effeithio ar iechyd a chyflwr y fam a'i hepil
- sut i arsylwi ac adnabod ymddygiad anifeiliaid â'r arwyddion sydd yn dangos pryderon iechyd a lles yn yr anifail ifanc, yr epil â'r fam a phryd i adrodd am bryderon wrth y person perthnasol
- y dulliau o ddiddyfnu, â'r ymddygiad sydd yn dangos pryd y dylid eu defnyddio
- pwysigrwydd magu gan y fam o ran lles a goblygiadau lles magu â llaw yn y tymor byr â'r hirdymor
- yr opsiynau ar gyfer magu yn artiffisial â'r canlyniadau tebygol ar gyfer lles yr epil â'r anifeiliaid ifanc
- y mathau o broblemau y mae epil ac anifeiliaid ifanc yn dod ar eu traws â'r camau priodol i'w cymryd, yn cynnwys pryd i gael cyngor a chymorth milfeddygol
pryd y mae angen gwahanu epil ac anifeiliaid ifanc a sut dylid gwneud hyn
sut gallai eich gweithredoedd, neu weithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, effeithio ar ymddygiad a lles yr anifail
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff yn unol â'r arferion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â gofalu am epil ac anifeiliaid ifanc, a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac ymarfer sefydliadol
Cwmpas/ystod
Darparu'r anghenion iechyd a lles canlynol i'r epil â'r anifeiliaid ifanc yn cynnwys:
- mynegi ymddygiad naturiol
amodau amgylcheddol
deiet a maeth
- cyfoethogi
- ymarfer corff
diogelwch a diogeledd
cymdeithasu gyda bodau dynol ac anifeiliaid eraill, fel y bo'n briodol
- cyswllt priodol ag ystod o ysgogiadau amgylcheddol sydd yn addas ar gyfer y rhywogaeth
- gofynion brechu
- gosod microsglodion
- gofynion gofal iechyd ataliol eraill
- gofynion eraill sydd yn benodol i'r diben neu'r gyrchfan a fwriadwyd
Ymdrin â'r mathau canlynol o broblemau gydag epil neu anifeiliaid ifanc:
- colli mam
clefyd cynhenid
cystadleuaeth
- risg o niwed a chlefydau
- colli cyflenwad llaeth
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
* *
Mae ymddygiad anifeiliaid yn cynnwys:
- ofn
- ymosodedd
- tawelu
gorbryder
chwarae
- ymlacio
- ymddygiad anarferol