Gofalu am anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd ac wrth esgor
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gofalu am anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd ac wrth esgor.
Mae'n cynnwys monitro anifeiliaid beichiog (e.e. eu bwyd, dŵr ac amodau amgylcheddol) a chymryd y camau gofynnol pan fo angen, fel addasu hwsmonaeth neu adrodd am bryderon wrth y person perthnasol.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'n rhaid i chi gynnal iechyd a les anifeiliaid ac adnabod unrhyw broblemau iechyd.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn gofalu am anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd ac wrth esgor.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdrudod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad eich hun
gwneud y gweithgaredd yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisi eich sefydliad, y ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion y rhaglen fridio
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, deddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- asesu anghenion gofal a lles yr anifail o dan eich dyletswydd gofal
- cynnal amodau amgylcheddol gofynnol yr anifail trwy gydol y cyfnod beichiogi ac esgor
- darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd ac wrth esgor yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle
- cynnal unrhyw driniaethau arferol anifeiliaid, yn ystod beichiogrwydd ac esgor, yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle
- rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd sydd yn lleihau straen yn ystod beichiogrwydd ac wrth esgor ac sydd yn galluogi arsylwi i ddigwydd
- arsylwi cyflwr yr anifail trwy gydol y beichiogrwydd a chymryd y camau gofynnol os oes amrywiadau i'w cyflwr arferol yn digwydd
- adnabod arwyddion esgor mewn anifeiliaid
- darparu'r gofal gofynnol ar gyfer anifeiliaid yn syth ar ôl iddynt esgor
- asesu'r risg o fynd at yr anifail gyda'i hepil
- gwirio cyflwr yr anifail a'i hepil ar yr amserau â'r cyfnodau gofynnol fel sydd yn ofynnol yn ôl y rhywogaeth
- ymdrin â gwastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
- cadarnhau bod y cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, asesiadau risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
pwysigrwydd gofalu am anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd ac wrth esgor yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisi eich sefydliad, y ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion y rhaglen fridio
- sut i asesu anghenion gofal a lles yr anifeiliaid o dan eich dyletswydd gofal
- yr amodau amgylcheddol sydd yn ffafriol i les anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd ac esgor
- anghenion maeth yr anifail yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl esgor
- hyd cyfnodau gwahanol beichiogrwydd yn yr anifeiliaid o dan eich dyletswydd gofal
- sut i adnabod arwyddion iechyd mewn anifeiliaid yn ystod cyfnod y beichiogrwydd â'r rheiny a allai ddangos amrywiad yn eu cyflwr arferol
- y triniaethau milfeddygol arferol/ataliol sy'n ofynnol gan yr anifail trwy gydol beichiogrwydd
- yr arwyddion bod yr anifail o dan eich dyletswydd gofal yn agosáu at esgor, yn cynnwys newidiadau ymddygiadol a chorfforol
- cyfnodau gwahanol esgor mewn anifeiliaid o dan eich dyletswydd gofal, unrhyw gymhlethdodau posibl a sut i adnabod a lleihau'r risg o'r rhain
- y mathau o gymorth y gall fod eu hangen ar anifeiliaid wrth esgor a phryd i gael cyngor milfeddygol
- y triniaethau milfeddygol arferol sydd yn ofynnol ar ôl esgor
- sut i adnabod beichiogrwydd sydd wedi methu mewn anifeiliaid
- pam y mae'n bwysig ailasesu risg wrth fynd at yr anifail a'i hepil
- sut gallai eich gweithredoedd, neu weithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, effeithio ar ymddygiad a lles yr anifail
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion eich sefydliad
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â gofalu am anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd ac wrth esgor a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Adnabod yr arwyddion canlynol o esgor:
- newidiadau ymddygiadol
- newidiadau corfforol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae Esgor yn golygu'r broses o roi genedigaeth.
Mae Beichiogrwydd yn golygu hyd y cyfnod o fod yn feichiog
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Rheoliad Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau yn Cynnwys Anifeiliaid) (Lloegr)
- Rheoliad Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru)
- Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Sefydliadau Bridio Cŵn a Diwygiadau Amrywiol) (Gogledd Iwerddon)