Hwyluso ffrwythloni anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â hwyluso ffrwythloni anifeiliaid gan ddefnyddio dulliau naturiol neu ffrwythloni artiffisial, yn unol â'r rhaglen fridio.
Mae'n rhaid i chi gynnal iechyd a lles yr anifeiliaid ac adnabod unrhyw broblemau iechyd.
Mae angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a sicrhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn hwyluso ffrwythloni anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad iech hun
gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- cadarnhau bod eich gwaith yn cael ei wneud yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle a gofynion y rhaglen fridio
- asesu'r ffordd y gall anghenion yr anifeiliaid sydd yn cael eu dewis ar gyfer ffrwythloni gael eu darparu tra'u bod o dan eich dyletswydd gofal
- monitro a chadarnhau bod mesurau hylendid a bioddiogelwch yn cael eu sefydlu a'u cynnal yn unol ag arferion sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
- dewis anifeiliaid ar gyfer ffrwythloni yn unol â'r rhaglen fridio a chadarnhau bod y prawf iechyd gofynnol yn cael ei gynnal
- archwilio cyflwr corfforol yr anifeiliaid sydd yn cael eu dewis ar gyfer ffrwythloni, yn cynnwys eu parodrwydd ar gyfer bridio, a pharatoi'r anifeiliaid yn y ffordd ofynnol
- hwyluso ffrwythloni anifeiliaid yn unol â'r dull a nodir yn y rhaglen fridio
- pan fo angen, cynnal iechyd a chyflwr yr anifeiliaid sydd wedi eu dewis ar gyfer ffrwythloni trwy gydol eu cylch atgenhedlu
- arsylwi ac adnabod ymddygiad yr anifail ar ôl ffrwythloni a'i gofnodi fel sy'n ofynnol gan eich sefydliad
- rhyngweithio gyda'r anifail ar ôl ffrwythloni mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn caniatáu arsylwi i gael ei wneud yn ddiogel
- cadarnhau ffrwythloni a chymryd y camau gofynnol, mewn perthynas â gofynion hwsmonaeth a gofynion adrodd
- cynnal lles yr anifail bob amser ac addasu eich ymddygiad eich hun neu ymddygiad y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, i osgoi creu ymddygiad annymunol mewn anifeiliaid
- adnabod ymddygiad anifail a allai ddangos pryderon lles ac adrodd am y rhain wrth y person perthnasol
- ymdrin â gwastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
- cwblhau'r cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles berthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â'r dulliau o gyflawni hyn
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer hwyluso ffrwythloni anifeiliaid a phwysigrwydd ei wisgo
- pwysigrwydd hwyluso ffrwythloni mewn anifeiliaid yn unol â pholisi sefydliadol, y gofynion cyfreithiol perthnasol a gofynion y rhaglen fridio
- sut i asesu anghenion lles yr anifeiliaid a ddewisir ar gyfer ffrwythloni tra'u bod o dan eich dyletswydd gofal a sut gellir cynnal hyn
- y dulliau o ddewis anifeiliaid unigol ar gyfer bridio a'u cymhwysedd
- sut i asesu iechyd a chyflwr corfforol anifeiliaid sydd yn cael eu dewis ar gyfer ffrwythloni
- anatomeg systemau atgenhedlu anifeiliaid gwrywaidd a benywaidd
- ymddygiad paru mathau gwahanol o anifeiliaid sydd yn pennu neu yn cau allan y dull paru
- sut i adnabod estrws mewn anifeiliaid â'r amseriad ar gyfer paru neu ffrwythloni artiffisial
- sut i baratoi ar gyfer a hwyluso paru neu ffrwythloni artiffisial mewn anifeiliaid
- y ffactorau sydd yn dylanwadu ar feichiogi mewn anifeiliaid
- sut mae ffrwythloni'n cael ei adnabod yn yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw
- y camau i'w cymryd pan fydd ffrwythloni'n cael ei gadarnhau
- y camau i'w cymryd pan na fydd ffrwythloni'n llwyddiannus
- manylion trefniadau arbennig ar gyfer gofalu am wrywod sydd yn bridio â'r rhai nad ydynt yn bridio
- sut i arsylwi ac adnabod ymddygiad anifeiliaid fel rhan o'ch rhyngweithio gyda'r anifail
- sut i adnabod ymddygiad gwahanol mewn anifeiliaid fel ofn, ymosodedd, uchafiaeth, tawelu, gorbryder ac ymlacio
- y ffordd y gall eich gweithredoedd, neu weithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig â bridio anifeiliaid, effeithio ar ymddygiad a lles yr anifail
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisïau sefydliadol
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â bridio anifeiliaid a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
- Rheoliad Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau yn Cynnwys Anifeiliaid) (Lloegr)
- Rheoliad Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru)
- Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Sefydliadau Bridio Cŵn a Diwygiadau Amrywiol) (Gogledd Iwerddon)
* *
Dulliau ffrwythloni:
- naturiol
- Ffrwythloni Artiffisial (AI)
* *
Dulliau ar gyfer cadarnhau ffrwythloni mewn anifeiliaid:
- arsylwadau
- sganio uwchsain gan weithwyr proffesiynol wedi eu hyfforddi
- prawf hormonau
- dylofi gan weithiwr milfeddygol proffesiynol
- pelydr-X gan weithiwr milfeddygol proffesiynol