Glanhau a gwirio llety anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â glanhau a gwirio llety anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd, er mwyn sicrhau ei fod mewn cyflwr addas ar gyfer yr anifeiliaid.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles perthnasol anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gwaith hwn.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a sicrhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer cynnal dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn glanhau ac yn gwirio llety anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith i gyd o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
- cydymffurfio ag iechyd a lles perthnasol anifeiliaid, deddfwriaeth arall yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig bob amser
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun â’r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, a lles y ceffyl, yn ystod y gwaith
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau, deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- defnyddio arferion gwaith diogel â’r dillad â’r cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir, glanhau cyfarpar a deunyddiau ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- paratoi a defnyddio'r cyfarpar â’r deunyddiau ar gyfer y gwaith yn unol â chyfarwyddiadau ac o dan oruchwyliaeth
gwirio bod y llety'n barod ar gyfer ei lanhau a bod yr anifeiliaid yn ddiogel neu wedi cael eu symud a'u rhoi yn ddiogel rhywle arall
adrodd am unrhyw bryderon gyda llety'r anifeiliaid wrth y person perthnasol
- glanhau llety'r anifeiliaid â’r cynnwys yn unol â chyfarwyddiadau ac o dan oruchwyliaeth
- gwneud y gwaith o sterileiddio llety'r anifeiliaid, lle bo angen, yn unol â chyfarwyddiadau ac o dan oruchwyliaeth
newid deunydd gorwedd a deunyddiau eraill yn unol â'r cyfarwyddiadau ac o dan oruchwyliaeth
ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau, deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- gadael llety'r anifeiliaid mewn cyflwr priodol ar ôl ei lanhau
dychwelyd y cyfarpar glanhau â’r deunyddiau i'r ardal storio gywir ar ôl ei ddefnyddio
cadw llety'r anifeiliaid yn ddiogel ac yn gadarn.
cadw'r cofnodion sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cwblhau gweithgareddau o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd goruchwyliwr
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth arall sy'n ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau eich sefydliad
- pam y mae'n bwysig sicrhau bod yr anifail yn ddiogel neu wedi cael ei symud cyn glanhau ei lety
- pam y mae'n bwysig gwirio llety'r anifeiliaid ac adrodd am unrhyw bryderon wrth oruchwyliwr
pwysigrwydd glanhau a sterileiddio i gynnal hylendid a bioddiogelwch
y deunyddiau a'r cyfarpar y dylid eu defnyddio ar gyfer gwaith glanhau a pha ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) y dylid eu gwisgo
- y risg wrth ddefnyddio a storio deunyddiau a chyfarpar glanhau, a sut gellir lleihau'r risg yma
- sut i baratoi cyfarpar a deunyddiau yn barod ar gyfer ei lanhau yn unol â chyfarwyddiadau ac o dan oruchwyliaeth
- sut i baratoi'r llety ar gyfer ei lanhau yn unol â'r cyfarwyddiadau ac o dan oruchwyliaeth
- y gweithdrefnau cywir ar gyfer glanhau llety'r anifeliaid
- y gweithdrefnau cywir ar gyfer ymdrin â mathau gwahanol o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu gan y gweithgaredd
- y cyflwr y mae angen gadael y llety ynddo ar ôl glanhau
y deunyddiau sydd eu hangen ar anifeiliaid yn eu llety i gynnal eu hiechyd a'u lles
pwysigrwydd gweithio mewn ffordd ddiogel a thaclus wrth lanhau a gwirio llety anifeiliaid.
y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r cyfarwyddiadau, deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Gwirio llety'r anifail am:
- draul/dirywiad
- niwed
diogelwch
diogeledd
- hylendid
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol berthnasol:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid 2006
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 2006
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011
- Rheoliad Gwastraff Peryglus 2005