Ysgrafellu anifeiliaid
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag ysgrafellu anifeiliaid. Mae wedi ei dylunio i fod yn berthnasol i weithio gyda phob rhywogaeth o anifeiliaid y mae angen eu hysgrafellu. Mae safonau arbenigol ar wahân wedi cael eu datblygu ar gyfer y diwydiant trin cŵn.
Mae’r safon yn cynnwys trafod anifeiliaid yn gywir, paratoi’r amgylchedd ysgrafellu, y cyfarpar â’r dulliau ysgrafellu cywir ar gyfer yr anifail, iechyd a diogelwch ac anatomeg a ffisioleg sylfaenol, yn cynnwys adnabod ac adrodd am unrhyw annormaleddau.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn gweithio gydag anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gwneud gwaith ysgrafellu yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, y gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisïau sefydliadol
gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, deddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol
- sicrhau bod yr ardal waith ar gyfer ysgrafellu anifeiliaid yn ddiogel, yn gadarn, yn lân ac yn barod ar gyfer ei ddefnyddio
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau cynhyrchwyr ac arferion eich sefydliad
- dewis, gwisgo a chynnal a chadw dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- paratoi'r anifail ar gyfer ei ysgrafellu gan ddefnyddio'r technegau â’r cyfarpar cywir
- rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn caniatáu i arsylwi gael ei wneud yn ddiogel
- trafod ac atal yr anifail mewn ffordd sydd yn cynnal lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryderon lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
- hybu lles yr anifail bob amser ac addasu eich ymddygiad eich hun, neu ymddygiad y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo, os oes angen, i osgoi creu ymddygiad annymunol gan yr anifail
- adnabod ymddygiad anifeiliaid a allai ddangos problemau lles neu broblemau eraill a chymryd y camau gofynnol
- gwybod pryd y gallai ymddygiad yr anifail ddangos na ddylech barhau gyda'r ysgrafellu
- ysgrafellu'r anifail gan ddefnyddio dulliau addas ar gyfer yr anifail, y math o gôt a diben yr ysgrafellu
- defnyddio technegau a chyfarpar mewn ffordd sydd yn lleihau anesmwythdra i'r anifail
- gwybod pan mae archwilio'r anifail yn datgelu cyflwr anarferol posibl a chymryd y camau gofynnol
- ymdrin â gwastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- glanhau/sterileiddio a storio'r offer â’r cyfarpar a ddefnyddir yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi'r sefydliad
- cwblhau'r cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
pwysigrwydd cwblhau'r gwaith o ysgrafellu anifeiliaid yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle a pholisïau eich sefydliad yn ogystal â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles perthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer ysgrafellu anifeiliaid a sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r rhain yn unol â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi sefydliadol
- sut i drafod ac atal yr anifail mewn ffordd sydd yn cynnal lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryderon lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
- y ffordd y gall dulliau ysgrafellu amrywio yn unol â'r rhesymau dros ysgrafellu anifeiliaid
- pam y gall cyflwr y gôt effeithio ar y dull o baratoi cotiau â’r cyfarpar y dylid eu defnyddio
- y mathau gwahanol o gynnyrch glanhau sydd ar gael, eu dibenion â’r mathau a chyflwr y cotiau anifeiliaid y maent yn addas ar eu cyfer
- pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r cynhyrchydd yn ymwneud â defnyddio cynnyrch, sut i ddehongli'r cyfarwyddiadau hyn yn gywir, a chanlyniadau posibl peidio â gwneud hynny
- anatomeg a ffisioleg sylfaenol anifeiliaid sy'n ofynnol i allu ysgrafellu yn ddiogel ac yn gywir
- yr ardaloedd anatomegol ar yr anifail sydd angen gofal arbennig, naill ai oherwydd sensitifrwydd neu oherwydd y risg i chi eich hun
- sut i gynnal gwiriad gofal iechyd anifeiliaid sylfaenol wrth ysgrafellu
- arwyddion a symptomau a allai ddangos problemau'r croen a phlâu o barasitiaid ar yr anifail
- sut i arsylwi ac adnabod ymddygiad anifeiliaid fel rhan o'ch rhyngweithio gyda'r anifail, a chofnodi'r rhain lle bo angen
- y ffordd y gallai eich gweithredoedd, a gweithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, effeithio ar ymddygiad a lles yr anifail
- effaith amgylchedd yr anifail ar ei ymddygiad
- pwysigrwydd adnabod ymddygiad anifail sydd yn dangos na fyddai'n syniad da parhau gyda'r ysgrafellu
- sut i drin, storio a gwaredu mathau gwahanol o wastraff yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- sut i lanhau, sterileiddio a storio cyfarpar yn unol â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi sefydliadol
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â'r anifeiliaid sydd yn cael eu hysgrafellu a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Ysgrafellu anifeiliaid at y dibenion canlynol:
- arddangos
- cynnal a chadw côt yn gyffredinol
- hyfforddiant
- cystadlu
- rhesymau iechyd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid
- Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
* *
Ysgrafellu
- tynnu blew ychwanegol, clymau a drysni
- glanhau côt a chroen yr anifail
- tynnu baw a thameidiau rhwng bysedd y traed, padiau neu garnau