Cynllunio, darparu ac adolygu gweithgareddau cyfoethogi ar gyfer anifeiliaid

URN: LANAnC17
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio, darparu ac adolygu gweithgareddau cyfoethogi ar gyfer anifeliaid i alluogi mynegiant ymddygiad naturiol, ac mae'n cynnwys gweithgareddau amgylcheddol, posau bwydo, triniaeth, gweithgareddau cymdeithasol a hyfforddiant.

Mae hyn yn cynnwys dewis, paratoi a defnyddio deunyddiau a chyfarpar sy'n berthnasol ar gyfer yr anifail â’r diben y mae'n cael ei gadw.  Mae'n bwysig arsylwi, adolygu a gwerthuso ymateb yr anifail ac mae rhyngweithio gyda'r elfen gyfoethogi yn bwysig. Mae'n rhaid hefyd ystyried diogelwch a diogeledd yr anifail, hylendid a bioddiogelwch ac iechyd a diogelwch pawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon gadarnhau bod arferion yn adlewyrchu gwybodaeth ddiweddar, polisïau, a deddfwriaeth berthnasol, a'u bod yn gweithio o fewn cyfyngiadau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn gweithio gydag anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod y peryglon sydd yn gysylltiedig â chynllunio, darparu ac adolygu gweithgareddau cyfoethogi ar gyfer anifeiliaid ac asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgareddau

  2. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, a chodau ymarfer cysylltiedig
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, deddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol
  5. dewis, gwisgo a chynnal a chadw dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas ar gyfer y gweithgaredd
  6. cynllunio gweithgareddau cyfoethogi i fodloni gofynion yr anifail, ei amgylchedd â’r diben ar gyfer ei gadw

  7. asesu addasrwydd yr anifail ar gyfer y gweithgareddau cyfoethogi sydd wedi eu cynllunio

  8. dewis, paratoi a gwirio'r cyfarpar a'r deunyddiau cyfoethogi
  9. darparu cyfoethogiad a monitro adwaith yr anifail i'r gweithgaredd

  10. arsylwi ac adnabod ymddygiad yr anifail cyn, yn ystod ac ar ôl gweithgareddau cyfoethogi

  11. rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn caniatáu i ryngweithio gael ei wneud yn ddiogel
  12. adnabod ymddygiad mewn anifeiliaid a allai ddangos pryderon iechyd a lles ac adrodd am y rhain wrth y person perthnasol
  13. gwybod pryd y gallai ymddygiad ddangos na ddylech barhau â'r gweithgaredd cyfoethogi
  14. adolygu'r gweithgaredd cyfoethogi a gwneud addasiadau, i fodloni gofynion yr anifail
  15. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon, asesu risg a chwblhau asesiadau risg, lle bo angen, sy'n berthnasol i'r gweithgaredd cyfoethogi

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. eich cyfrifoldeb yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig
  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  5. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd cyfoethogi
  6. ymddygiad naturiol anifeiliaid a pha gyfleoedd y gellir eu darparu i annog mynegiant yr ymddygiad naturiol hwn
  7. y mathau o gyfoethogi y gellir eu darparu ar gyfer yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw

  8. sut i gynllunio gweithgareddau cyfoethogi i fodloni gofynion yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw

  9. y ffordd y mae'r angen am gyfoethogi yn gwahaniaethu rhwng anifeiliaid gwahanol ac yn dibynnu ar y cyd-destun y mae'r anifail yn cael ei gadw ynddo
  10. y rhesymau dros ddarparu cyfleoedd cyfoethogi gwahanol i anifeiliaid a sut mae'r rhain yn gwahaniaethu yn ystod cyfnodau gwahanol bywyd yr anifail
  11. pam y phryd y gallech ystyried newid y cyfle cyfoethogi
  12. sut i adnabod ymatebion negyddol i gyfoethogi â’r hyn y dylech ei wneud i ddiwygio neu wella'r rhain
  13. y ffordd y gallai diffyg cyfleoedd cyfoethogi achosi problemau mewn anifeiliaid
  14. sut gallai eich gweithredoedd, neu weithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, effeithio ar ymddygiad a lles yr anifail
  15. y mathau gwahanol o gyfarpar cyfoethogi a sut dylid defnyddio'r rhain
  16. pam y mae'n bwysig archwilio, glanhau a chynnal a chadw cyfarpar
  17. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

Gallai gweithgareddau cyfoethogi gynnwys y canlynol:

  • amgylcheddol
  • posau bwydo
  • triniaeth
  • synhwyraidd
  • cymdeithasol

  • hyfforddiant


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC17

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

cyfoethogi; ymarfer corff; gweithgareddau