Trafod a gofalu am anifeiliaid sy’n gweithio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sut i drafod a gofalu am anifeiliaid sy'n gweithio i'w galluogi i weithio'n ddiogel. Nid yw'r math o waith a wneir gan yr anifail yn cael ei nodi ond mae'n cynnwys amrywiaeth o sefyllfaoedd lle mae angen i unigolion drafod anifeiliaid er mwyn gallu defnyddio sgiliau'r anifeiliaid i gyflawni tasgau.
Mae'r safon hon yn berthnasol i unrhyw un sydd yn trafod ac yn gofalu am anifeiliaid sy'n gweithio.
Wrth weithio gydag anifeliaid fferm neu beiriannau mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant addas yn unol â deddfwriaeth bresennol ac yn meddu ar ddyfarniad perthnasol, lle bo angen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
adnabod peryglon sydd yn gysylltiedig â thrafod a gofalu am anifeiliaid sy'n gweithio ac asesu'r risg cysylltiedig
gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- paratoi'r anifail ar gyfer gwaith yn unol â gofynion y gweithle
- cyflwyno'r anifail i'r amgylchedd gwaith mewn ffordd sy'n lleihau straen
- sicrhau bod yr adnoddau gofynnol yn addas ar gyfer y gwaith sydd wedi ei gynllunio
- trafod a parhau i reoli'r anifail sy'n gweithio mewn ffordd fydd yn ei alluogi i weithio, cynnal ei ddiogelwch a lleihau straen
- gofal am yr anifail sy'n gweithio i gynnal a hybu ei iechyd a'i les
- asesu iechyd a chyflwr yr anifail sy'n gweithio a chymryd unrhyw gamau sydd eu hangen
- cynorthwyo'r anifail sy'n gweithio yn ystod y gweithgaredd a chynnig y wobr â’r ganmoliaeth angenrheidiol
- cymryd y camau angenrheidiol os yw'r anifail sy'n gweithio yn cael problemau yn ystod gweithgaredd neu os oes amgylchiadau annisgwyl yn codi
defnyddio dulliau a systemau gwaith sydd yn hybu eich iechyd a'ch diogelwch eich hun â’r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo ac sydd yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol
paratoi amodau ar gyfer derbyn yr anifail sy'n gweithio yn ddiogel ar ôl cwblhau'r gwaith
- ailsefydlu'r anifail sy'n gweithio yn ei amodau byw a sicrhau ei gysur a'i ddiogelwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i adnabod peryglon ac asesu risg sydd yn berthnasol i drafod a gofalu am anifeiliaid sy'n gweithio
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- y paratoi sydd yn angenrheidiol i alluogi'r anifail sy'n gweithio i weithio yn unol â'i fath, brîd, oed â’r gwaith y mae'n rhaid iddo wneud
- y dulliau o drafod a symud anifeiliaid sy'n gweithio, sydd yn hybu eu hiechyd a'u lles ac yn lleihau straen
- yr adnoddau fydd yn angenrheidiol ar gyfer y gwaith â’r dulliau cywir o'u defnyddio
- agweddau'r amgylchedd a allai effeithio ar yr anifail sy'n gweithio â’r arwyddion sydd yn nodi hyn
- cyfyngiadau'r brîd o anifail â’r anifail penodol sy'n gweithio
y dulliau o drafod a rheoli'r anifail sy'n gweithio yn y sefyllfaoedd lle mae'n cael ei weithio
y technegau trafod presennol sydd yn berthnasol i'r ardal waith benodol
- y ffyrdd o gynorthwyo'r anifail sy'n gweithio i gwblhau ei waith
- y camau allai fod yn angenrheidiol i ymateb i sefyllfaoedd wrth gefn
- y dulliau o gynnal iechyd a diogelwch anifeiliaid ar ôl iddynt fod wedi gweithio â’r gofynion iechyd a lles penodol sydd ganddynt
- y dulliau o asesu iechyd a chyflwr anifeiliaid â’r gofynion iechyd sydd ganddynt ar ôl cwblhau gwaith
- y dulliau o ofalu am yr anifail sy'n gweithio i gynnal ei iechyd a'i les
- gofynion gorffwys anifeiliaid sy'n gweithio ar ôl mathau gwahanol o waith â’r cyfnodau gorffwys sydd eu hangen arnynt cyn dechrau gwaith eto
- yr amodau byw fydd yn hybu iechyd a diogelwch yr anifail sy'n gweithio, ac unrhyw ofynion penodol ar gyfer y rhain ar ôl cwblhau gwaith
Cwmpas/ystod
Darparu'r gofal canlynol i anifeiliaid sy'n gweithio:
- deiet
- ymarfer corff
- ysgrafellu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid
- Deddf Sefydliadau Marchogaeth
- Deddf Anifeiliaid Perfformio