Trafod ac atal anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thrafod ac atal anifeiliaid.
Bydd angen i chi asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â thrafod ac atal anifeiliaid yn arbennig yr anifail yr ydych yn gweithio gydag ef, nodi'r dulliau addas o atal a defnyddio'r dulliau hyn yn effeithiol ac yn ddiogel.
Bydd angen i chi hefyd fonitro ymateb yr anifail i drafod ac atal a chymryd y camau gofynnol os oes problem.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn trafod ac yn atal anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â thrafod ac atal yr anifail a chwblhau asesiad risg, lle bo angen
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad eich hun
- cadarnhau bod eich gwaith yn cael ei wneud yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r gweithle
- gwneud eich gwaith i gyd yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- dewis a pharatoi'r offer â’r cyfarpar gofynnol ar gyfer trafod ac atal anifeiliaid yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi sefydliadol
- dewis dull o drafod ac atal sydd yn addas ar gyfer yr anifail perthnasol, gofynion yr anifail â’r rheswm dros drafod, er mwyn lleihau'r risg i'r anifail, i chi eich hun a'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- archwilio a pharatoi'r amgylchedd cyn trafod yr anifail fel bod y risg i'r anifail, i chi eich hun â’r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, yn cael eu lleihau
- sicrhau bod awdurdodiad wedi cael ei roi i'r anifail gael ei drafod a'i atal gan y ddefnyddio'r dull dewisol
mynd at yr anifail mewn ffordd fydd yn galluogi cydweithredu a lleihau trallod
trafod ac atal yr anifail mewn ffordd nad yw'n peryglu lles yr anifail, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
- monitro ymddygiad yr anifail ac addasu'r dull o drafod ac atal mewn ymateb i adweithiau'r anifail
- sicrhau bod iechyd a lles yr anifail yn cael ei gynnal drwy'r amser a bod y broses yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth lles anifeiliaid berthnasol
- gwybod pryd y gallai ymddygiad ddangos na ddylech barhau i drafod ac atal yr anifail
- cael cymorth os oes perygl i'r anifail, i ddiogeledd neu i iechyd a diogelwch
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
- pwysigrwydd cwblhau'r gweithgaredd yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r gweithle
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- st i nodi sefyllfaoedd lle nad yw'n ddiogel neu'n addas i berson fynd at, trafod neu atal anifail heb gymorth
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
pam y gall fod angen trafod ac atal anifeiliaid a sut gallai hyn effeithio ar y dull a ddewisir
y mathau o gyflyrau corfforol ac ymddygiadol a allai effeithio ar ymagwedd, trafod ac atal anifeiliaid
- sut a ble i gael gwybodaeth am gyflwr corfforol, natur a phatrymau ymddygiad arferol anifail
- y dulliau o drafod ac atal mathau gwahanol o anifeiliaid â’r cyfarpar angenrheidiol
- sut i ddewis y dull addas o drafod ac atal anifail
- sut i nodi'r risg â’r peryglon posibl sydd yn gysylltiedig â thrafod ac atal anifeiliaid a sut i leihau ac ymateb i'r rhain
- sut dylid mynd at anifeiliaid, eu trafod a'u hatal er mwyn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles, hybu lles anifeiliaid a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun, yr anifail â’r rheiny sydd yn gysylltiedig a'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
- y ffactorau gwahanol sydd yn gallu effeithio ar ymddygiad anifail a beth i'w wneud os gwelir y ffactorau hyn
- sut i adnabod ac asesu arwyddion straen, braw neu bryderon iechyd corfforol yn yr anifeiliaid sydd yn cael eu trafod a'u hatal a beth i'w wneud os cânt eu gweld
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â thrafod ac atal anifeiliaid a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cymryd y canlynol i ystyriaeth wrth ddewis dulliau o drafod ac atal anifeiliaid:
y rheswm dros drafod
rhywogaeth yr anifail
- cyflwr corfforol yr anifail
natur ac ymddygiad yr anifail
y risgiau cysylltiedig posibl
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid