Darparu bwyd a dŵr ar gyfer anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid. Mae'n cynnwys paratoi a darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid, a allai gynnwys unrhyw ofynion deietegol arbennig, fel bwydydd wedi wedi cael eu gwahardd ar gyfer anifail penodol, ac unrhyw atchwanegiadau arbennig sydd wedi cael eu nodi yng nghynllun bwydo'r anifail.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch, hylendid a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gwaith hwn.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r gweithle
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol, a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer â’r cyfarpar gofynnol, yn unol â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi sefydliadol
- dewis, gwisgo a chynnal dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
nodi'r math a maint y bwyd sy'n ofynnol ar gyfer pob anifail o gynlluniau bwydo
paratoi'r maint cywir o fwyd anifeiliaid neu atchwanegiadau yn unol â chynlluniau bwydo, tra'n lleihau gwastraff
- darparu bwyd fel y nodir yn y cynllun bwydo i alluogi pob anifail i gael ei ofynion o ran bwyd
darparu dŵr glân, ffres i'r anifeiliaid fel y nodir yn y cynllun bwydo
paratoi'r bwyd mewn ffordd sydd yn osgoi trawshalogi
- cymryd y camau gofynnol pan fydd anawsterau wrth ddarparu bwyd a dŵr i anifeiliaid
- rhoi cyfleoedd i anifeiliaid fynegi eu hymddygiad bwydo naturiol
- adrodd am unrhyw newidiadau neu annormaleddau yn arferion bwydo ac yfed yr anifeiliaid wrth y person perthnasol
- monitro iechyd a lles yr anifail wrth ddarparu bwyd a dŵr
- cynnal eich diogelwch a'ch diogeledd eich hun, yr anifeiliaid a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
- symud bwyd sydd heb ei fwyta ac adnewyddu dŵr
- cynnal a chadw, glanhau a storio'r offer â’r cyfarpar gofynnol, yn unol â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi sefydliadol
- gwaredu unrhyw wastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
dilyn canllawiau'r diwydiant a chanllawiau sefydliadol i leihau niwed amgylcheddol tra'n gwneud eich gwaith
cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- pwysigrwydd cwblhau'r gweithgaredd yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r gweithle
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- y mathau o gyfarpar a thaclau sydd yn ofynnol ar gyfer darparu bwyd a dŵr i anifeliaid a sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r rhain yn ddiogel
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- sut i ddehongli cynlluniau bwydo anifeiliaid
- y mathau gwahanol o fwyd ac atchwanegiadau sydd ar gael a sut mae'r rhain yn cael eu paratoi
- canlyniadau darparu bwyd a dŵr heb ei baratoi'n iawn i anifeiliaid
- yr anghenion penodol sydd gan anifeiliaid ar gyfer bwyd, ac unrhyw ofynion arbennig fel atchwanegiadau, bwydydd sydd wedi eu gwahardd, deiet cyfyngedig
- pam dylai anifeiliaid dderbyn eu bwyd trwy'r dulliau a nodir yn y cynlluniau bwydo
- y mathau o fwydwr fel anifeiliaid cigysol, hollysyddion, porwyr, llysysyddion
- pam dylid defnyddio'r ffynonellau dŵr a systemau dŵr cywir wrth ddarparu dŵr i anifeliaid
- sut i adnabod newidiadau yn arferion bwydo ac yfed yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw a phwysigrwydd adrodd am newidiadau wrth y person perthnasol
- sut i roi cyfleoedd i anifeiliaid fynegi eu hymddygiad bwydo naturiol
- terfynau eich galluoedd a'ch cyfrifoldebau eich hunain yn ymwneud ag anawsterau a allai godi â’r camau i'w cymryd
- y dulliau gwahanol o lanhau cyfarpar a thaclau bwydo
- sut i drin, storio a gwaredu gwastraff yn unol â'r polisi cyfrethiol a sefydliadol perthnasol
pam y mae'n bwysig monitro lles ac iechyd anifeiliaid wrth ddarparu bwyd a dŵr
y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Gallai cyfarpar gynnwys:
- cyfarpar ar gyfer paratoi bwyd
- cyfarpar ar gyfer gweini bwyd
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
Gallai mathau o fwyd gynnwys:
- ffres
- wedi rhewi
- sych
- bwyd gwlyb
- amrwd
- cyflawn
- ategol